Morannedd

Aberdaron, North Wales Coast

  • 5 Star
  • Awaiting Grading
  • Mae'r stiwdio drawiadol hon yn Aberdaron ar y llawr gwaelod ac yn mwynhau golygfeydd panoramig a di-dor o'r môr a'r traeth, y pentref a chefn gwlad.

You can book this property from:

  • £929 per week
  • £133 per night
  • 5 Star
  • Awaiting Grading

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell wlyb
  • Cawod

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Balconi
  • Storfa tu allan
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Ar un lefel, dim grisiau
  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn
  • Ystafell wlyb

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Sorry, infants (aged under 2) are not allowed at this property
  • Sorry, children (aged between 2 and 17) are not allowed at this property
  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Mae'r stiwdio drawiadol hon yn Aberdaron ar y llawr gwaelod ac yn mwynhau golygfeydd panoramig a di-dor o'r môr a'r traeth, y pentref a chefn gwlad. O fewn 200 llath i'r siopau, caffis, tafarndai, Canolfan Groeso'r Ymddiriedaeth Genedlaethol, Llwybr Arfordirol Cymru a thraeth milltir o hyd.

Mae'r llety wedi ei ddylunio yn chwaethus gyda'r holl offer angenrheidiol

Disgrifiad

  • Gwely maint King 
  • Peiriant Golchi Llestri  
  • Oergell/Rhewgell  
  • Hob induction 2-gylch 
  • Cyfuniad o feicrodon/popty/gril   
  • Dwr berwedig parod Quooker 
  • Peiriant coffi Nespresso
  • Tostiwr  
  • Peiriant golchi/sychu dillad
  • Teledu Smart 40” a chwaraewr DVD 
  • Soffa Lledr
  • Bwrdd addas i ddau fwyta
  • Cypyrddau dillad   
  • Ystafell ymolchi gyda cawod fawr, basn, toiled, rheilen sychu tywelion 

Gardd

Mae'r drysau patio yn agor allan i ardal dec gyda dodrefn gardd. Pod gardd gyda lle i hamddena neu fwyta gan fwynhau golygfeydd eang o'r mor. Gellir hefyd fwynhau'r lawnt un acer o flaen y llety.   

Sied gardd wedi ei chloi yn addas ar gyfer beiciau ayb  

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys llaeth, te, coffi, siwgwr a bisgedi  
  • Dillad gwelyau a thywelion ar gael  
  • Gwres dan draed a thrydan yn gynwysedig  
  • Sychwr gwallt ar gael   
  • Wi-fi am ddim ar gael   
  • Rhewgell ychwanegol ar gael  
  • Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, clytiau newydd, ffoil, a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon a papur toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol 
  • Dim anifeiliaid anwes a dim ysmygu y tu mewn   
  • Dim plant na babanod
  • Parcio preifat   

Location

Fflat stiwdio hardd yn Aberdaron sy'n mwynhau lleoliad ar godiad lle ceir golygfeydd anhygoel dros y pentref ac allan i'r môr. Mae Aberdaron yn bentref glan môr hardd ym mhen pellaf Penrhyn Llŷn sydd yn cynnig croeso cynnes Cymreig. Ceir yma draeth gwych milltir o hyd, caffis bach unigryw a dwy dafarn ardderchog. Mae yma hefyd ganolfan ymwelwyr, siop sgodyn a sglodion, têc awê pitsa, siop bapur, cigydd ac archfarchnad fach.

Yn cynnig mynediad uniongyrchol i Lwybr Arfordirol Cymru, mae'r pentref hefyd yn gartref i eglwys hynafol Sant Hywyn, sydd yn dyddio nol i'r 6ed ganrif. Wedi ei lleoli ar lwybr y pererinion sydd yn arwain i ynys gysegredig Enlli, dwy filltir o'r lan, dyma daith sy'n dal i gael ei mwynhau gan lawer, gyda teithiau cwch ar gael o Borth Meudwy, 1.5 milltir o Aberdaron. Cofiwch edrych allan am forloi, dolffiniaid a bob math o adar. Gellir hefyd hurio beiciau yn y pentref os ydych yn dewis darganfod harddwch Llŷn ar ddwy olwyn. 

Mae Penrhyn Llŷn yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Gyda nifer o bentrefi bach trawiadol, cildraethau cuddiedig a thraethau melyn o amgylch y penrhyn, mae'n sicr yn werth ymweld â nhw. Fe argymhellir ymweliad â Plas Glyn y Weddw, maenordy gwych gyda galeriau, gerddi hardd ac ystafell de gyda golygfeydd o'r môr, a Pharc Glasfryn sydd yn ddiwrnod allan gwych gyda gwîb-gartio, bowlio deg, saethyddiaeth ayb. Mae atyniadau poblogaidd eraill yn cynnwys Rheilffyrdd stêm Ffestiniog a'r Ucheldir, cestyll Criccieth a Chaernarfon, pentref Eidalaidd Portmeirion, a'r Wyddfa, mynydd uchaf Cymru.  

Traethau

Traeth Aberdaron - traeth euraidd milltir o hyd gyda pentref hardd Aberdaron yn gefndir (0.2 milltir)  

Cerdded

Llwybr Arfordirol Llŷn – 84 milltir sy'n rhan o Lwybr Arfordirol Cymru - gellir ymuno â'r rhan yma 0.2 milltir o'r llety  

Yr Eifl – cadwyn o fynyddoedd sy'n cynnwys copa uchaf Penrhyn Llŷn - 4.5 milltir o hyd (17 milltir)  

Beicio

Gellir hurio beiciau yn y pentref  

Marchogaeth

Canolfan Farchogaeth a Styd Pen Llŷn – Pwllheli. Fferm styd a reidiau sy'n addas ar gyfer pob lefel o brofiad (8 milltir)   

Canolfan Farchogaeth Cilan – Abersoch. Reidiau ar y traeth a mwy. Addas ar gyfer pob oed (15 milltir)   

Pysgota

Nifer o gyfleoedd i bysgota o amgylch y Penrhyn - opsiynau addas ar gyfer pob oed  

Chwaraeon Dŵr

Mae traeth Abersoch yn cynnig dŵr llonnydd ar gyfer pob math o chwaraeon dŵr (12 milltir)   

Mae Porth Neigwl yn le poblogaidd ar gyfer syrffwyr (13 milltir)   

Golff

Clwb Golff Abersoch - cwrs golff 18 twll ger y traeth (12 milltir)   

Clwb Golff Nefyn a'r Cylch - 26 twll, yn cynnig 2 gwrs 18 twll gyda golygfeydd anhygoel o'r arfordir (12 milltir)