- Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
- Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
- Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
- Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August
- £544 per week
- £78 per night
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- 1 Pet
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Ar un lefel, dim grisiau
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 09:30
Description
Mwynhewch olygfeydd panoramig dros Ynys Enlli a Bae Aberdaron, a drosodd i fynyddoedd Eryri ar y gorwel. Mae Gwel Enlli newydd ei adnewyddu ac wedi ei leoli ar y pwynt mwyaf gorllewinol ym Mhenryn Llyn, yn agos i Uwchmynydd, Mynydd Mawr, Llwybr Arfordirol Cymru a Phorth Meudwy - y man gadael ar gyfer tripiau cwch i Ynys Enlli. O fewn pellter cerdded i gaffi tymhorol, tra fod pentref hyfryd Aberdaron ond milltir a hanner i ffwrdd, gyda'i draeth euraidd, caffis, tafarndai a becws to gwellt.
Llawr Gwaelod
Ystafell fyw - ystafell agored gyda digon o olau naturiol drwy'r ffenestri sy'n fframio golygfeydd anhygoel dros y môr i Ynys Enlli.
Cegin/Ardal fwyta - cegin fodern gyda'r holl offer angenrheidiol yn cynnwys oergell/rhewgell, hob a popty NEFF, meicrodon, peiriannau golchi llestri a golchi/sychu dillad. Bwrdd bwyta a chadeiriau i bedwar.
Lolfa - dwy soffa gyfforddus, bwrdd coffi a theledu.
Cyntedd/Ystafell haul - ystafell hyfryd i ymlacio gyda bwrdd a chadeiriau i fwynhau'r golygfeydd panoramig.
Ystafell wely 1 - gwely dwbwl gyda teledu, cypyrddau dillad a golygfeydd.
Ystafell wely 2 - dau wely sengl gyda teledu, storfa a golygfeydd.
Ystafell ymolchi - baddon gyda cawod oddi mewn, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.
Gardd
Gardd fawr gyda dau fwrdd picnic a golygfeydd panoramig. Mae'r ardd yn gaeedig ac yn berffaith ar gyfer plant ac anifeiliaid.
Gwybodaeth ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, llaeth a siwgwr, a chacennau/bisgedi
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- 1 sychwr gwallt ar gael
- Wifi ar gael
- Cot, cadair uchel a giât i'r grisiau ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot
- Croesewir un ci
- Dim ysmygu tu mewn y bwthyn
- Mae'r canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad:
- Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri a thabledi i'r peiriant, clytiau, ffoil a ffilm glynu
- Ystafell ymolchi: sebon a 2 rolyn papur toiled
- Cynnyrch glanhau cyffredinol
- Digon o le parcio