Deri Llyn

Sarn Mellteyrn, North Wales Coast

  • 5 Star
  • This property can be found on Niche Retreats
  • Special OfferUp to 20% off Special Offer Discount - selected dates

You can book this property from:

  • £1,363 per week
  • £195 per night
  • 5 Star
  • This property can be found on Niche Retreats

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Sawna

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau king/super-king
  • 2 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
  • 1 gwely bync

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 3 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Ystafell wlyb

Teuluoedd

  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn
  • Ystafell wlyb

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Mae Deri Llyn yn un o ddau fwthyn mawr a thrawiadol sydd newydd eu hadnewyddu, mewn llecyn heddychlon hyfryd ar Benrhyn Llyn. Mae'r ardal ddynodedig o harddwch naturiol eithriadol hon yn adnabyddus am ei thraethau rhyfeddol a'i chwaraeon dwr, lle gallwch fwynhau synau hudol y dafodiaith Gymraeg leol. Wedi ei ddylunio a'i ddodrefnu i'r safon uchaf, mae'r bwthyn yn cynnig lle perffaith i grwpiau mawr o ffrindiau neu deulu sydd am fwynhau'r gogledd ar ei orau.

Mae modd uno'r bwthyn hwn gyda'r bwthyn drws nesaf er mwyn lletya hyd at 24 o bobl o dan un to.

Llawr Gwaelod

Yn sicr mae waw ffactor yn y gegin / ystafell fyw cynllun agored, ac mae'n cynnwys cegin dderw o'r radd flaenaf, gyda thopiau gwenithfaen. Dwy ffwrn sengl fawr a hob anwytho mawr. Oergell, peiriant golchi llestri a microdon wedi'u gosod yn rhan o'r gegin. Ceir bwrdd bwyd mawr hefyd, yn ogystal â soffas lledr cyfforddus a wal gerrig agored a llosgwr coed, a theledu sgrin fflat mawr.

Mae'r nenfwd uchel agored â’i drawstiau yn rhoi teimlad eang i'r ystafell fyw. Llawr teils wedi'i gynhesu a drysau patio yn agor allan o'r ystafell i'r patio brecwast blaen.

Mae'r heulfan yn gwneud fel lolfa, gyda golygfeydd anhygoel o fynydd Rhiw. Llawr teils wedi'i gynhesu ac ail deledu. Drws yn agor allan i ardd breifat yng nghefn y bwthyn, gyda dodrefn allanol a barbeciw nwy.

Sawna – Blwch sawna is-goch a llawr teils yn yr ystafell.

Ystafell wely 1 (Y Swît) – gwely 4-postyn maint brenin mwy, a bath sba yng nghornel yr ystafell wely, yn agor allan i heulfan eistedd gyda theledu. Ystafell gawod ensuite. Rydyn ni'n argymell tynnu enwau o het i benderfynu pwy sy'n cael cysgu yn yr ystafell hon cyn i chi gyrraedd!

Ystafell wely 2 – Ystafell wely deuluol gydag un gwely maint brenin ac un gwely bync maint llawn.

Ystafell wely 3 – Dewis o wely maint brenin mwy neu welyau twin.

Ystafell wely 4 – Dewis o wely maint brenin mwy neu welyau twin. Ystafell wlyb ensuite ar lefel y llawr.

Ystafelloedd gwely 2 a 3 yn rhannu ystafell ymolchi gyda bath, blwch cawod-ager, basn, ty bach a llawr teils.

*Cadarnhewch eich dewis o welyau yn Ystafelloedd gwely 3 a 4.

Ystafell aml-bwrpas yn cynnwys peiriant golchi dillad awtomatig a sychwr dillad, rhewgell, lle cotiau ac esgidiau. Boeler ar gyfer y gwres dan y llawr.

Mae llawr teils hefyd ar y fynedfa o'r ardd a'r lle parcio.

Gardd

Patio brecwast o flaen y bwthyn gyda meinciau picnic i fwynhau haul y bore, sy'n agor allan i damaid o laswellt cyffredin. Mae gardd breifat gyda barbeciw a dodrefn bwyta allanol yn y cefn. Mynedfa a pharcio preifat.

Mae'r bythynnod rhent pum seren hyn yn y gogledd hefyd yn rhannu lle chwarae mawr cyffredin gyda ffrâm ddringo a goliau pêl-droed.

Gwybodaeth Ychwanegol

Dillad gwely yn gynwysedig, dewch â'ch tywelion eich hunain.

Gwres a thrydan yn gynwysedig

Gwres o dan y llawr drwy'r bwthyn. Llawr teils heblaw ystafelloedd gwely 2, 3 a 4 lle mae llawr carped.

Caiff cot a chadair uchel eu darparu

Croeso i gwn - hyd at 2 neu 3 yn dibynnu. Mae rheolau llym ynghylch hyn. £60 yr un

Digon o le parcio

Yn rhan o ddatblygiad newydd eithriadol a chyffrous, mae Deri Llyn yn un o ddwy ysgubor fawr wedi eu haddasu sydd bellach yn fythynnod moethus i'w rhentu yn y gogledd i 10 a 14 o westeion. Mae modd uno'r ddau gyda'i gilydd er mwyn lletya hyd at 24 o bobl o dan un to unedig. Mae'r bythynnod wedi eu dylunio'n arbennig gan ystyried anghenion partïon mawr – ystafelloedd mawr i bawb gael dod at ei gilydd, a rhannau preifat llai pan fydd angen llonydd arnoch.

Rydyn ni i gyd yn chwilio am ychydig o faldod y dyddiau hyn, ac mae digon ohono yma. Ambell foethusrwydd fel sawna preifat a blwch cawod-ager yw rhai o'r pethau bach ychwanegol hynny sy'n gwneud i Deri a Gadlas sefyll uwchlaw'r gweddill. Mae golygfeydd trawiadol o Benrhyn Llyn i'w gweld o'ch cwmpas ym mhobman yn y perlau diarffordd hyn.

* Noder fod y bwthyn hwn yn aros i gael ei raddio yn swyddogol gan Croeso Cymru.

Wifi ar gael

Location

Mae’r llety hunan ddarpar hwn yng Ngogledd Cymru yn un o ddau fwthyn mewn lleoliad preifat, i lawr lôn wledig rhwng Bryncroes a Sarn Mellteyrn. Gyda golygfeydd anhygoel ac yn ganolig i weddill Penrhyn Llŷn, mae’n cynnig llwybrau cerdded cylchol ar hyd lonydd a llwybrau gwledig. Mae pentre Sarn Mellteyrn dri chwarter milltir o’r bwthyn - taith gerdded braf ynddi ei hun.

Mae pentref Sarn Mellteyrn yn cynnig crochendy, ystafelloedd te a dwy dafarn groesawus. Mae yma siop gyda swyddfa bost, a garej gyda siop sydd yn rhentu allan DVDs, yn ogystal â cae chwarae bychan. Mae traethau tywod hardd Penrhyn Llŷn, gan cynnwys Abersoch, Aberdaron a Nefyn, i gyd gerllaw, gyda’r traeth agosaf ond 3 milltir a hanner i ffwrdd.

Gellir cerdded, chwarae golff, mynd ar dripiau pysgota, a chymeryd rhan mewn chwaraeon dŵr oddi yma. Mae tref farchnad Pwllheli, trefi Criccieth a Phorthmadog, yn ogystal ac atyniadau hanesyddol a golygfaol niferus megis Parc Cenedlaethol Eryri, Rheilffordd Ffestiniog, cestyll a phentref Eidalaidd Portmeirion, i gyd o fewn cyrraedd i’r llety 5 seren hwn.

Traethau

Yn ganolog i’r holl draethau ar Benrhyn Llŷn. Yr agosaf yw Traeth Penllech, traeth hir, tywodlyd sy’n rhoi teimlad o unigedd (3.5 milltir)

Cerdded

Llwybr Arfordirol Llŷn - 84 milltir o amgylch Penrhyn Llŷn, o Gaernarfon i Borthmadog. Gellir ymuno â’r llwybr 3 milltir o’r llety, yn Penllech

Yr Eifl - cadwyn o fynyddoedd, 4.5 milltir o hyd, sy’n cynnwys y pwynt uchaf ar Benrhyn Llŷn (12 milltir)

Marchogaeth

Stablau a Chanolfan Farchogaeth Pen Llŷn - Pwllheli. Stablau gyda reidiau addas ar gyfer pob lefel o brofiad (2.5 milltir).

Stablau Marchogaeth Llanbedrog - gwersi marchogaeth ayb. Reidiau ar y traeth a’r bryniau (6.5 milltir)

Canolfan Farchogaeth Cilan - Abersoch. Reidiau ar y traeth a mwy. Addas ar gyfer plant a’r di-brofiad (9 milltir)

Chwaraeon Dŵr

Mae traeth Abersoch yn cynnig ei hun ar gyfer hwylio, syrffio a llawer mwy (6.5 milltir)

Mae Porth Neigwl yn fan poblogaidd ar gyfer syrffio a bordio (9 milltir)

Golff

Clwb Golff Abersoch - cwrs golff 18 twll ger y traeth (6.5 milltir)

Clwb Golff Nefyn - 26 twll, yn cynnig dau gwrs 18 twll gyda golygfeydd anhygoel (7.5 milltir)

Canolfan Golff Llŷn - Pen-y-Berth. Cwrs gyrru 15 bae, lawnt a byncar ymarfer, a cwrs golff 9 twll gyda golygfeydd o’r môr. Ar gyfer dechreuwyr a chwaraewyr lefel uwch - clybiau ar gael i’w llogi (8 milltir)

Clwb Golff Pwllheli - cwrs golff 18 twll, yn addas ar gyfer golffwyr o bob oed a gallu (10 milltir)     

Beicio

Nifer o lwybrau beicio ar hyd Penrhyn Llŷn

Pysgota

Ystod o gyfleon i bysgota ar Benrhyn Llŷn - opsiynau addas ar gyfer pob oedran