Hendy Iago

Aberdaron, North Wales Coast

  • 4 Star Gold
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer15% Spring offer - 12th April - 23rd May

You can book this property from:

  • £824 per week
  • £118 per night
  • 4 Star Gold

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau king/super-king
  • 1 gwely dwbl
  • 5 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael

Teuluoedd

  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Mae'r llety gwyliau helaeth hwn ar Benrhyn Llŷn gyda golygfeydd o'r môr, yn ddelfrydol ar gyfer aduniadau teuluol neu ffrindiau. Mae Hendy Iago yn gwneud y mwyaf o'r lleoliad godidog ac heddychlon, gyda digon o ffenestri a drysau patio i fedru mwynhau golygfeydd panoramig o gefn gwlad a'r arfordir. Un o drysorau cudd Penrhyn Llŷn yw Porthoer - traeth yr Ymddiriedolaeth Cenedlaethol gyda caffi - ond 1.5 milltir i ffwrdd. Mae pentref glan môr Aberdaron, neu bentref arfordirol Abersoch ynghyd ac atyniadau eraill heb fod yn bell o'r bwthyn.

Llawr Gwaelod

Cegin ac ardal fwyta gyda golygfeydd - yr holl offer angenrheidiol yn cynnwys peiriant golchi llestri, oergell/rhewgell, meicrodon, popty a hob trydan. Mae bwrdd mawr ar gyfer 11 o westeion yn yr ardal fwyta.

Ystafell haul fach gyfagos gyda chadeiriau pren, setl a lamp - perffaith ar gyfer darllen neu i fwynhau amser tawel yn edrych allan ar olygfeydd hardd cefn gwlad Penrhyn Llŷn a'r môr ar y gorwel.

Lolfa - ystafell helaeth gyda golygfeydd anhygoel o'r môr a chefn gwlad. Teledu a chwaraewr DVD a digon o seddi lledr cyfforddus ar gyfer y gwesteion. Drysau patio yn arwain i'r ardd a'r patio.

Ystafell wely 1 - ystafell gyda dau wely sengl, byrddau bach ger y gwely a chypyrddau dillad.

Ystafell ymolchi gyda baddon a chawod arwahan, toiled, rheilen sychu tywelion a basn.

Ystafell iwtiliti gyda peiriant golchi dillad, sinc a boiler.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 2 - gwely maint king gyda byrddau bach ger y gwely, cwpwrdd dillad a golygfeydd o'r môr.

Ystafell wely 3 - gwely maint king gyda byrddau bach ger y gwely, cwpwrdd dillad a golygfeydd fel ystafell wely 1.

Ystafell wely 4 - ystafell deulu helaeth gyda 1 gwely dwbwl ac 1 gwely sengl, cypyrddau dillad.

Ystafell wely 5 - ystafell gyda dau wely sengl a chwpwrdd dillad.

Ystafell gawod - cawod fawr, toiled, rheilen sychu tywelion a basn.

Gardd

Mae gardd fawr gaeedig yn amgylchynu'r llety hunan ddarpar hwn gyda golygfeydd o'r môr a milltiroedd o gefn gwlad trawiadol. Ardal patio gyda 2 fwrdd picnic pren a barbaciw nwy.

Gwybodaeth ychwanegol

  • Gwres canolog nwy a thrydan yn gynwysedig   
  • Dillad gwelyau a tywelion yn gynwysedig.
  • Wifi ar gael
  • Cot trafeilio, cadair uchel a gat i'r grisiau ar gael os dymunir   
  • Derbynir i fyny at 2 anifail anwes am ddim (llawr gwaelod yn unig) - gadewch i ni wybod pan yn archebu    
  • Dim ysmygu tu mewn y llety 
  • Digon o le parcio 

Location

Wedi ei leoi o fewn ei ardd gaeedig ei hun, mae'r bwthyn hunan ddarpar hwn gyda golygfeydd o'r môr wedi ei amgylchynu gan dirwedd Penrhyn Llŷn. Mae Hendy Iago yn mwynhau lleoliad tawel ger yr arfordir, rhwng pentrefi arfordirol Aberdaron (3.5 milltir) a Morfa Nefyn (10 milltir). Mae pentref arfordirol poblogaidd Abersoch hefyd o fewn 11 milltir. Gellir ymuno â Llwybr Arfordirol Cymru o stepen y drws a gellir cyrraedd yr arfordir ei hun o fewn 10 munud o gerdded. Mae traeth yr Ymddiriedolaeth Cenedlaethol Porthoer ond 1.5 milltir i ffwrdd ac yn cynnwys caffi glan y môr.

Mae Aberdaron yn bentref arfordirol ar ochr orllewinol Penrhyn Llŷn ac mae'n cynnig ystod o adnoddau. Mae rhain yn cynnwys dwy dafarn/bwytai (Tŷ Newydd a'r Llong) lle ceir bwyd rhagorol, caffis bach hyfryd, becws to gwellt, Spar a siop yr Ymddiriedolaeth Cenedlaethol. Mae pentref arfordirol Abersoch yn cynnig ystod eang o adnoddau gan gynnwys bwytai a siopau. Pwllheli (15 milltir), ydy 'prif ddinas' answyddogol Penrhyn Llŷn gydag adnoddau niferus ac amrywiaeth o siopau annibynnol, caffis a bwytai, archfarchnad, banciau a 2 farchnad - un ar ddydd Mercher a'r llall ar ddydd Sul (Mai i Medi). 

Ymhlith y prif atyniadau, fe geir ynys sanctaidd Ynys Enlli - unwaith yn leoliad pererindod crefyddol a nawr yn Warchodfa Natur Cenedlaethol. Gellir cyrraedd Ynys Enlli ar long o Borth Meudwy (5 milltir). Ychydig yn bellach na Phorth Meudwy, ar bwynt mwyaf gorllewinol y Penrhyn mae Uwchymynydd - penrhyn hanesyddol sydd yn cynnig lle gwych i edrych allan ar Ynys Enlli a'r arfordir. Fel y mae'r esiamplau hyn yn awgrymu, mae Penrhyn Llŷn yn ardal ddynodedig o harddwch naturiol eithriadol, gyda Hendy Iago yn cynnig lleoliad delfrydol i ddarganfod y rhan yma o Gymru.

Mae Penrhyn Llŷn, ble mae'r iaith Gymraeg a'r ffordd o fyw yn dal i ffynnu, yn adnabyddus am ei draethau hardd a chwaraeon dŵr tra fod mynyddoedd mawreddog Eryri o fewn taith fer. Mae yna nifer o weithgareddau yn yr ardal yn cynnwys pysgota, marchogaeth, golff a Pharc Glasfryn, ble gellir mwynhau go-cartio, bowlio deg, saethyddiaeth ayb. Mae'n werth ymweld â Phlas Glyn y Weddw, maenor godidog gyda galeriau, gerddi hardd ac ystafell de gyda golygfeydd o'r môr, tra fod Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru yn cynnig dyddiau allan gwych. Heb sôn am gestyll Criccieth a Chaernarfon, pentref Eidalaidd Portmeirion, cerdded neu ddal trên i fyny'r Wyddfa a llawer mwy.

Traethau

  • Porthoer - (1.5 milltir)
  • Traeth Aberdaron - traeth tywod gydag adnoddau (3.5 milltir)   

Cerdded

  • Llwybr Arfordirol Llŷn (rhan o Lwybr Arfordirol Cymru) - 84 milltir o gwmpas Penrhyn Llŷn, o Gaernarfon i Borthmadog. Gellir ymuno â'r llwybr o stepen y drws 
  • Yr Eifl - cadwyn o fynyddoedd 4.5 milltir o hyd, yn cynnwys y pwynt uchaf ar Benrhyn Llŷn (15.5 milltir o'r bwthyn)   

Beicio

  • Lonydd tawel a heddychlon ar stepen y drws - perffaith ar gyfer beicio   

Marchogaeth

  • Canolfan Farchogaeth Pen Llŷn, Pwllheli. Addas ar gyfer pob lefel o brofiad (7 milltir) 
  • Canolfan Farchogaeth Llanbedrog - gwersi marchogaeth ayb. ar y traeth a'r bryniau (11 milltir)   
  • Canolfan Farchogaeth Cilan - Abersoch. Delfrydol ar gyfer plant (13.7 milltir)   

Chwaraeon Dŵr

  • Mae traeth Abersoch yn cynnig dŵr llyfn ar gyfer sgîo dŵr, hwylio, cychod pŵer a syrffio gwynt (11 milltir)   
  • Mae Porth Neigwl yn le poblogaidd i syrffwyr a byrddwyr (11.5 milltir)  

Golff

  • Clwb Golff Nefyn a'r cylch - 26 twll, yn cynnig dau gwrs 18 twll gyda golygfeydd anhygoel (11 milltir)   
  • Clwb Golff Abersoch - cwrs golff 18 twll, ger y traeth (11 milltir)   
  • Canolfan Golff Llŷn, Pen-y-Berth - 15 bae gyrru, lawnt a byncar ymarfer, a cwrs golff 9 twll gyda golygfeydd o'r môr. Ar gyfer dechreuwyr a chwaraewyr mwy profiadol - gellir llogi clybiau (12.5 milltir)   

Pysgota

  • Nifer o gyfleoedd ar gyfer pob math o bysgota ar Benrhyn Llŷn - addas ar gyfer pob oed