- £998 per week
- £143 per night
- 10 Guests
- 5 Bedrooms
- 3 Bathrooms
- 2 Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Ystafell chwaraeon
- Pecyn croeso
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 3 o welyau king/super-king
- 4 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 3 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Mae Melin Llŷn yn fwthyn gwyliau mawr a moethus. Gyda’i hystafelloedd chwaethus, cyfoes a’i dodrefn hyfryd, mae’r hen felin ddŵr hon yn berffaith i ddod â’r teulu neu’ch ffrindiau ynghyd. Mae Melin Llŷn wedi’i lleoli yng nghanol Pen Llŷn, o fewn ei gardd amgaeedig ei hun mewn lleoliad tawel. O’r llety arbennig hwn, mae traethau tywod hir euraidd Pen Llŷn o fewn ychydig o filltiroedd.
Llawr Gwaelod
Cegin – Cegin bwrpasol o dderw wedi’i pheintio, gydag arwyneb gwenithfaen, sinc Belfast a theledu. Mae’n cynnwys peiriant golchi llestri integredig NEFF, ffwrn ddwbl a hob trydan, oergell/rhewgell, microdon, tostiwr Dualit a thegell. Mae’r ynys wedi’i wneud o sinc a marmor gyda chadeiriau cyfoes o sinc.
Lolfa – Ystafell fawr gyda stôf llosgi coed groesawgar, soffa ledr Eidalaidd, soffa felfed wyrdd-las, cadair ledr goch gyfoes a chadair ledr gyfforddus melyn tywyll. Clustogau a blancedi moethus. Bwrdd coffi wedi’i wneud o gert Indiaidd gwreiddiol, a bwrdd pwrpasol derw mawr gyda 10 cadair dderw. Gwnaed yr holl lenni a’r bleinds â llaw. Seld steil Tsieineaidd a goleuadau cyfoes. System sain GPO ‘retro’. Teledu mawr gyda chwaraewr DVD a chlustogau llawr moethus.
Cyntedd – Mainc fodern a nenfwd uchel.
Ystafell gawod – Ystafell gawod llawr gwaelod fodern, wledig gyda thŷ bach a chawod.
Prif ystafell wely – Gwely moethus mawr iawn gydag ystafell gawod en-suite. Drych lledr, stôl bwrpasol a wnaed yn lleol, tyweli moethus gwyn a phethau ymolchi.
Ystafell iwtiliti gyda pheiriant golchi dillad, peiriant sychu, bwrdd smwddio a haearn.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely Aberdaron – Gwely haearn mawr iawn ‘antique’ gyda blanced chwaethus a chlustogau o liain Cymreig. Cadair ledr a stôl droed mewn steil diwydiannol. Cwpwrdd dillad mewn steil diwydiannol a drych. Carthen croen dafad.
Ystafell wely Rhiw – Dau wely sengl gyda blancedi gwlân Cymreig, clustogau o liain Cymreig a chrwyn defaid. Cwpwrdd dillad gwyrdd-las a rheilen ddillad fodern.
Ystafell ymolchi – Bath gyda chawod uwch ei ben, drych portwll ac ategolion moethus.
Ystafell wely Meillionydd – Dau wely sengl gyda blancedi gwlân Cymreig a chlustogau moethus. Croen dafad ar y llawr a rheilen ddillad chwaethus.
Ystafell wely Plas Newydd – Gwely mawr iawn ac otoman du melfed moethus, dodrefn mewn steil gwladfaol a rheilen ddillad ‘antique’. Clustogau a blanced gwely moethus a charthen croen dafad.
Gardd
Gardd fawr amgaeedig gyda dodrefn gardd a golygfeydd o gefn gwlad. Gall gwesteion eistedd o gwmpas pwll tân a mwynhau’r amgylchedd gwych.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Bydd pecyn i’ch croesawu yn cynnwys amrywiaeth o gynnyrch lleol. Gadewch inni wybod os ydych chi’n dathlu digwyddiad arbennig ar eich gwyliau, ac fe geisiwn ei wneud hyd yn oed yn fwy cofiadwy ichi.
- Gwres a thrydan yn gynwysedig.
- Wifi ar gael
- Mae basged o goed a bwced o lo wedi’u cynnwys yn y pris.
- Darperir dillad gwely, a thyweli bach a mawr.
- Darperir 5 sychwr gwallt.
- Cot teithio a chadair uchel ar gael ar gais (dewch â’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda).
- Dim ysmygu yn y bwythyn.
- Croesewir hyd at 2 gi sy’n ymddwyn yn dda am £25 y ci.
- Ceir parcio preifat oddi ar y ffordd gyda lle i hyd at 5 car.
- Gellir trefnu gwasanaethau arlwyo a phampro gan therapyddion harddwch lleol ar gais.
- Mae gwesteion Melin Llŷn hefyd yn gymwys i gael gostyngiad o10% yn y Cwt Tatws yn ystod eu arhosiad. Siop unigryw yw’r Cwt Tatws gydag amrywiaeth eclectig o gynnyrch chwaethus i’r cartref lle byddwch hefyd yn cael eich croesawu â chacen a phaned.