Ysgubor Llyn

Aberdaron, North Wales Coast

  • 5 Star Gold
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
  • Special Offer10% october Half Term offer for stays between 18th until 31st October 2024
  • Special Offer15% offer 28th June – 18th July
  • Special Offer10% offer w/c 19th July

You can book this property from:

  • £658 per week
  • £94 per night
  • 5 Star Gold

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 5 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Ystafell wlyb
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn
  • Ystafell wlyb

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Un o dri bwthyn hunan-ddarpar y gellir eu harchebu gyda'i gilydd fel Bythynnod Sarn Group Cottages i gysgu hyd at 16 o bobl. Gweler Stabal y Sarn (cysgu 5) a Llofft Llyn (cysgu 4) am fwy o wybodaeth.

 

Bwthyn gwyliau 5 seren ynghanol Pen Llŷn, Gogledd Cymru. Hen ysgubor wedi ei thrawsnewid yw’r bwthyn hwn gyda phatio a dodrefn gardd ei hun, sy’n cynnig llecyn delfrydol ar gyfer pryd alfresco neu ymlacio yn yr haul. Mae’r ardd amgaeedig (barbiciw, siglenni, llithren, goliau pêl droed, den, tŷ chwarae a thrampolîn) yn ffefryn mawr gyda theuluoedd ac mae traethau tywod hyfryd Pen Llŷn i gyd gerllaw.

Llawr Gwaelod

Mae bwthyn gwyliau Ysgubor wedi ei addurno’n chwaethus drwyddo draw gyda llawer o drawstiau gwreiddiol a waliau cerrig agored. Gwnaethpwyd yr holl ddodrefn pîn gan grefftwr lleol yn unol â’r steil draddodiadol.

Mae’r lolfa gartrefol yn cynnwys dwy soffa a chadair gysurus, stóf drydan ar steil llosgwr coed, teledu, chwaraewr fideo a DVD a system CD/Hifi.

Mae’r gegin dderw gyflawn yn cynnwys oergell dal, popty a hob, golchwr llestri, microdon a rhewgell fach.

Ceir ystafell wely ar lawr gwaelod y bwthyn hefyd gyda gwelyau twin ac ensuite gyda chawod ar lefel y llawr sy’n addas ar gyfer pobl anabl.

Llawr Cyntaf

Mae’r ystafell wely gyntaf ar y llawr hwn yn helaeth iawn gyda 3 gwely sengl yn ogystal â theledu/fideo. Yn y drydedd ystafell ceir gwely 4 maen hyfryd, maint king. Mae’r ystafell ymolchi foethus yn cynnwys cawod a bath trobwll mawr – perffaith ar gyfer ymlacio.

Gardd

Yr un peth mae pob gwestai yn cytuno arno ynghylch gwyliau ar fferm Crugeran yw bod yr Ardd yn Wych! Ceir set barbiciw, siglenni, llithren, goliau pêl droed, den, tŷ chwarae a thrampolîn wedi eu gwasgaru o amgylch yr ardd fawr werdd. Yn anffodus, mae rhieni yn cael trafferth i berswadio’r plant i adael yr ardd i fynd ar dripiau “diflas” i’r traeth neu “anturiaethau” o amgylch rhyw gastell neu i gilydd! Ymddiheuriadau - allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am blant anufudd / anfodlon!

Gwybodaeth Ychwanegol

  • 1 tywel bath ac 1 tywel llaw i bob person yn gynwysedig yn y pris. Ar gyfer defnydd yn y bwthyn yn unig - dim ar gyfer y traeth.
  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig.
  • Cot teithio, cadair uchel a giât diogelwch ar gael. (dewch â’ch dillad eich hun ar gyfer y cot os gwelwch yn dda).
  • Wifi ar gael
  • Ystafell golchi dillad ar wahân gaiff ei rhannu rhwng y 3 bwthyn sydd wedi eu lleoli ar iard y fferm. Mae hon yn cynnwys peiriant golchi / sychu dillad a rhewgell ychwanegol.
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu.

Location

Lleolir llety gwyliau Ysgubor Llŷn ar fferm wartheg, defaid a grawn yng nghanol Pen Llŷn. ¼ milltir o bentref Sarn Mellteyrn gyda’i grochendy, canolfan gwaith coed, tai te a thri tŷ tafarn da (un ohonynt yn gweini bwyd). Ceir hefyd siop / swyddfa bost a garej gyda siop sy’n llogi DVDs yn y pentref, yn ogystal â chae chwarae bychan y gellir cerdded ato ar hyd llwybr braf trwy un o gaeau’r fferm.

Ar y safle, ceir digonedd o bethau i gadw’r plant yn ddiddan yn cynnwys cwningen, cath, ci a merlen ar yr iard. Mae croeso i chi grwydro o amgylch y fferm neu gallwch ofyn i’r perchennog am daith o amgylch yr anifeiliaid a’r fferm. Mae’r ardd fawr amgaeedig yn cynnig offer barbiciw, siglenni, llithren, gol pêl droed, den a thy chwarae yn ogystal â thrampolîn sy’n ffefryn mawr gyda gwestai.

Mae’r llety yn ganolog i Abersoch, Aberdaron, Nefyn a holl draethau tywod hardd Pen Llŷn, gyda’r traeth agosaf 3.5 milltir i ffwrdd. Ceir digonedd o lwybrau cerdded, cyrsiau golff, tripiau pysgota ar y môr ac adnoddau chwaraeon dwr gerllaw. Hefyd o fewn pellter teithio byr, ceir tref farchnad Pwllheli, Cricieth a Porthmadog yn ogystal â nifer o atyniadau gwerth eu gweld megis Parc Cenedlaethol Eryri, Rheilffordd Ffestiniog, cestyll a phentref Eidalaidd Portmeirion.

Traethau

Canolog i holl draethau Pen Llŷn. Yr agosaf yw Traeth Penllech, traeth tywod hir mewn llecyn cuddiedig, heddychlon. 3.5 milltir

Chwaraeon Dwr

Mae Traeth Abersoch yn cynnig dwr tawel ar gyfer tonfyrddio a sgïo dwr, hwylio, defnyddio cychod pwer a hwylfyrddio. 6.5 milltir

Mae Porth Neigwl yn lleoliad hynod boblogaidd gan syrffwyr a chorff-fyrddwyr. 9 milltir

Cerdded

Llwybr Arfordir Llŷn – 84 milltir o amgylch Penrhyn Llyn, o Gaernarfon i Borthmadog. Ymunwch â’r llwybr 3 milltir i ffwrdd, yn Penllech.

Yr Eifl - cadwyn o fynyddoedd sy’n cynnwys copa uchaf Penrhyn Llŷn. 4.5 milltir o hyd. 12 milltir o’r bwthyn.

Pysgota

Nifer o gyfleoedd i bysgota ar Benrhyn Llŷn – dewisiadau addas ar gyfer pob oed.

Golff

Clwb Golff Abersoch – cwrs golff 18 twll, wrth ymyl y traeth. 6.5 milltir.

Clwb Golff Nefyn a’r Cylch - 26 twll, yn cynnig dau gwrs 18 twll pen clogwyn gyda golygfeydd arbennig o’r arfordir. 7.5 milltir.

Canolfan Golff Llŷn – Pen-y-Berth. Maes ymarfer i 15, grin a byncer ymarfer a chwrs 9 twll gyda golygfeydd o’r môr. I ddechreuwyr a chwaraewyr profiadol – gellir llogi clybiau. 8 milltir.

Clwb Golff Pwllheli – cwrs golf 18 golff, addas ar gyfer golffwyr o bob oed a gallu. 10 milltir.

Marchogaeth Ceffylau

Canolfan Farchogaeth Pen Llŷn – Pwllheli. Bridfa a theithiau i rai ar bob lefel. 2.5 milltir.

Stablau Marchogaeth Llanbedrog – Gwersi marchogaeth ac ati. Teithiau traeth a mynydd. 6.5 milltir

Canolfan Farchogaeth Cilan – Abersoch. Teithiau traeth a mwy. Gwych i blant a dechreuwyr. 9 milltir.

Beicio

Digon o gyfleoedd i feicio ar Benrhyn Llŷn