- £432 per week
- £62 per night
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 1 Bathroom
- 1 Pet
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Tân agored neu stôf goed
- Pecyn croeso
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Mae Bwthyn Pendre yn llety gwledig prydferth ger Bryniau Clwyd, sef ardal o harddwch naturiol eithriadol. Dim ond deg munud o gerdded i Goedwig Clocaenog lle ceir lle picnic hyfryd a milltiroedd o lwybrau coedwig agored i'w cerdded neu i'w teithio ar eich beic mynydd. Wedi ei leoli rhwng Corwen a thref farchnad Rhuthun yn Nyffryn Clwyd, a hanner awr o Barc Cenedlaethol Eryri a Llangollen, mae'r bwthyn hwn sy'n addas i anifeiliaid anwes yn berffaith ar gyfer mwynhau cefn gwlad Gogledd Cymru ar ei orau.
Llawr Gwaelod
Ystafell fyw eang gyda thrawstiau a lloriau derw. Wedi ei ddodrefnu gyda set eistedd dridarn ledr, dresel Cymreig, teledu sgrin lydan (freeview), chwaraewr DVD a CD.
Dri gris i lawr o'r ystafell fyw mae'r gegin / ystafell fwyta gyda llawr llechi a golygfeydd bendigedig o gefn gwlad drwy'r drysau patio. Mae'r gegin dderw yn cynnwys peiriant golchi llestri, golchwr/sychwr, microdon, ffwrn ac oergell/rhewgell.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 1 – Gwely dwbl gyda golygfeydd hyfryd o gefn gwlad drwy'r ffenestri. Y tu mewn yn hyfryd gan gynnwys dodrefn ystafell wely derw.
Ystafell gawod yn cynnwys uned sinc coluro, cawod, tŷ bach a rheilen i ddal tywelion.
Ail Lawr
Ystafell wely 2 – Gwely dwbl gyda golygfeydd o dir fferm a dodrefn ystafell wely derw.
Ystafell wely 3 - Ystafell twin gyfforddus gyda chist ddroriau a golygfeydd o Goedwig Clocaenog.
Gardd
Gardd gaeedig a lawnt yn cynnwys mainc bicnic, barbeciw, bwrdd a chadeiriau gardd.
Gwybodaeth Ychwanegol
CYNNIG ARBENNIG AT Y NADOLIG: Twrci organig o’r fferm yn cael ei ddarparu ar gyfer archebion dros y Nadolig.
Pecyn croeso wrth gyrraedd yn cynnwys te, coffi, llefrith, siwgr a rhywbeth wedi ei goginio (fel arfer Bara Brith) gyda blodau (yn y tymor cywir).
Caiff y canlynol eu darparu yn y bwthyn ar gyfer eich arhosiad... Cegin: sawsau, ‘salad cream,’ finegr, olew coginio, hylif golchi llestri/tabledi i’r peiriant golchi llestri. Ystafell ymolchi: sebon, papur toiled. Nwyddau glanhau cyffredinol: dwsteri, sugnwr llwch, chwistrell glanhau ayyb.
Dillad gwely a thywelion yn gynwysedig
Gwres a thrydan yn gynwysedig (gwres trydanol drwy’r tŷ)
Cot, cadair uchel a gât i'r grisiau ar gael os bydd cais. Dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot.
Consol Wii a gemau i'r gwesteion eu defnyddio
Croeso i un anifail anwes
Lle parcio i hyd at bedwar car