Ysgubor y Graig

Mold, North Wales Borderlands

  • 5 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
  • Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
  • Special Offer15% offer - 31st May - 7th June 2024
  • Special Offer10% October Half Term offer for stays between 18th until 31st October 2024
  • Special Offer15% offer 28th June – 18th July
  • Special Offer10% offer w/c 19th July
  • Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
  • Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August

You can book this property from:

  • £670 per week
  • £96 per night
  • 5 Star

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Pysgota
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Twb poeth
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 2 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Cot trafeilio

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat
  • Pwynt gwefru modur trydan

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Ysgubor wedi ei hadnewyddu ar fferm laeth weithiol yng nghefn gwlad Cymru, yn agos i bentref Lixwm. Mae'r Ysgubor wedi ei hadnewyddu i safon uchel tra'n cadw nifer o'r nodweddion gwreiddiol, megis waliau cerrig agored a gwaith coed derw - atgof o'i bodolaeth blaenorol. Mwynhewch ddyddiau ymlaciol gyda'ch hoff ddiod yn ardal gaeedig y twb poeth, neu ewch am dro ar lwybrau cefn gwlad cyfagos. Mae'r llety wedi ei leoli mewn man delfrydol i fedru mwynhau'r ardal wledig, tra hefyd yn ganolog i holl atyniadau Gogledd Cymru. Mwynhewch bentrefi hardd Eryri, dringo'r Wyddfa, neu fwynhau ymweliad ag un o'r traethau gwych ar hyd yr arfordir.

Llawr Gwaelod

Ystafell wely 1 - gwely maint king gyda chypyrddau dillad derw. Ensuite gyda cawod fawr, basn, toiled a gwres dan y llawr.

Ystafell wely 2 - ystafell steilus gyda ffenestr nodweddiadol - gwely king mawr (neu dau wely sengl) a chypyrddau dillad.

Ystafell ymolchi - gyda bath a chawod oddi mewn, basn a thoiled. Gwres o dan y llawr.

Llawr Cyntaf

Cegin - ystafell hardd gyda nenfwd agored. Bar brecwast gyda lle i ddau eistedd. Offer yn cynnwys popty trydan a hob serameg, meicrodon, oergell/rhewgell a pheiriant golchi llestri. Mae'r peiriant golchi/sychu dillad wedi ei leoli yn y cyntedd. Mae prif fynedfa i'r llety yn y gegin drwy ddrysau pren dwbwl.

Lolfa/ystafell fwyta - i fyny stepiau o'r gegin gyda nenfwd agored a ffenestri yn y to sy'n gadael digon o olau i mewn. Bwrdd bwyta a chadeiriau derw. Wal gerrig agored. Soffas lledr cyfforddus yn y lolfa, teledu Smart a stof goed drydan.

Gardd

Mae'r ardd breifat yn cynnwys patio a lawnt gyda ardal twb poeth caeedig. Dodrefn gardd a barbaciw nwy sydd ar gael os dymunir.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, llaeth, siwgwr a chacen    
  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig    
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig     
  • Sychwr gwallt ar gael     
  • Wi-fi ar gael
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn y bwthyn    
  • Cot trafeilio ar gael ar gais. Dewch â dillad eich hun i'r cot     
  • Darperir y canlynol ar gyfer eich ymweliad:   
    • Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, clytiau, ffoil a ffilm glynu  
    • Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur ar gyfer pob toiled    
    • Cynnyrch glanhau cyffredinol    
  • Parcio ar y safle

 

Location