- £849 per week
- £121 per night
- 8 Guests
- 4 Bedrooms
- 4 Bathrooms
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Twb poeth
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 1 gwely dwbl
- 4 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 4 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Balconi
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Bwthyn gwyliau mawr wedi ei adnewyddu’n hyfryd yng Ngogledd Cymru gyda thwb poeth. Wedi ei osod ynghanol cefn gwlad trawiadol gyda lle mae ceirw i’w gweld yn gyson. Wedi ei leoli ym mhentrefan bychan Cefn Berain, Dyffryn Clwyd, mae’r bwthyn gwyliau mawr hwn mewn llecyn preifat, ond hefyd yn ganolog ar gyfer amrediad helaeth o gyfleusterau a gweithgareddau. Mae chwaraeon dwr, beiciau pedair olwyn, teithiau cerdded a physgota i gyd o fewn milltir, tra bod arfordir hardd Gogledd Cymru, cestyll ac atyniadau di-ri o fewn taith fer.
Llawr Gwaelod
Mae’r brif fynedfa yn arwain i’r cwtsh gyda stôf llosgi coed i’ch croesawu o fewn y lle tân gwreiddiol. Mae’r trawstiau agored, soffa a chadair ledr, desg cornel a’r grisiau derw i gyd yn cyfrannu at y naws cysurus.
Ymlaen o’r cwtsh ceir ystafell fyw fawr gyda lloriau derw gwreiddiol yn ogystal â’r stôf llosgi coed gwreiddiol. Ar y pen pellaf, ceir drysau patio yn agor allan i ardd fawr breifat ac amgaeedig, sy’n cynnig golygfeydd gwych gefn gwlad Cymru. Soffas a chadeiriau moethus ar gyfer hyd ar 9 o bobl, yn ogystal â bwrdd coffi, teledu mawr a chwaraewr DVD.
Yr ochr arall i’r cwtsh ceir cegin / ystafell fwyta helaeth gyda gwres o dan y llawr. Mae’r bwthyn gwyliau moethus hwn yn cynnwys cegin dderw hardd, a’r arwyneb llechfaen Cymreig wedi eu gwneud â llaw. Mae’r gegin yn cynnwys yr holl offer modern megis popty a hob ceramig, golchwr llestri, microdon ac oergell/rhewgell.
Mae’r ardal fwyta yn cynnwys bwrdd derw mawr a chadeiriau ar gyfer hyd at 8 o bobl. Ceir drysau patio yma hefyd sy’n arwain o’r lle bwyta allan i’r patio a’r ardd.
Ystafell iwtiliti gydag unedau derw a sinc Belfast, peiriant golchi a thoiled ar wahân.
Llawr Cyntaf
Mae gan y bwthyn gwyliau mawr hwn yng Ngogledd Cymru bedair ystafell wely fawr.
Daw’r brif ystafell wely gydag ensuite a balconi. Gwely king derw gyda byrddau wrth ei ymyl, dillad gwely o dapestri Cymreig, bwrdd gwisgo a chwpwrdd dillad, drws llithro mawr yn arwain i’r balconi gyda golygfeydd ar draws y dyffryn yn arwain i’r môr. Mae’r ensuite yn cynnwys cawod fawr, stand ymolchi o dderw gyda drych a phwynt eillio.
Ystafell wely ddwbl ensuite gyda byrddau ger y gwely, cwpwrdd dillad, cist fawr o ddroriau a llenni o dapestri Cymreig.
Ystafell twin gyda gwelyau derw maint llawn a chwpwrdd dillad derw. Lle tân gwreiddiol o haearn bwrw a waliau cerrig.
Ystafell twin arall gyda lle tân gwreiddiol o haearn bwrw a waliau cerrig. Gwelyau sengl maint llawn o haearn bwrw a chwpwrdd dillad.
Mae’r brif ystafell ymolchi yn cynnwys bath sy’n sefyll ar draed o haearn bwrw, stand ymolchi mawr dderw gyda drych a phwynt eillio.
Gardd
Mae’r ardd fawr yn cynnwys twb poeth moethus a phreifat, dodrefn gardd, lawnt, ardal chwarae, teganau awyr agored, sied a storfa fawr gyda chlo.
Gwybodaeth Ychwanegol
Dillad gwely, tywelion dwylo a bath yn gynwysedig
Darperir cot teithio a chadair uchel. Dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot.
Gwres a thrydan yn gynwysedig
Digonedd o le parcio
Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu
2 acer o gaeau
Gallwch hefyd fwynhau gwyliau byr yn y bwthyn gwyliau mawr hwn yng Ngogledd Cymru ar rai adegau’n ystod y flwyddyn. Mwy o fanylion o dan ‘Prisiau.’