Ysgubor y Dderwen

Brecon, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 5 Star Gold
  • Special Offer10% off Special Offer Discount on selected dates
  • Special Offer20% off Easter holidays - 22nd March - 11th April

You can book this property from:

  • £1,363 per week
  • £195 per night
  • 5 Star Gold

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Twb poeth
  • Pwll nofio

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 3 o welyau king/super-king
  • 2 o welyau sengl
  • 2 o welyau soffa

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 5 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Ystafell wlyb

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn
  • Ystafell wlyb

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Mae Ysgubor y Dderwen yn fwthyn moethus pum seren gyda lle i hyd at ddeuddeg gysgu a sba nofio mawr. Fe’i lleolir ar fferm weithiol ym Mannau Brycheiniog ac mae’n berffaith ar gyfer gwyliau teuluol neu gyda chriw o ffrindiau. Mae’r addurn chwaethus yn rhoi iddo’r waw ffactor. Caiff y bwthyn ei bweru gan egni adnewyddol gyda’r defnydd o foeler sydd yn llosgi coed Biomas, paneli solar, system wres o dan y llawr, a system unigryw sydd yn adennill gwres o’r ddaear. Yn berffaith ar gyfer teuluoedd neu griw o ffrindiau gellir cerdded neu hyd yn oed feicio Bannau Brycheiniog o garreg y drws. Drwy ffinio gyda’r prif dy fferm gall y bwthyn hwn gysgu hyd at ddeuddeg gyda’r defnydd o ddau wely soffa dwbl.

Llawr Gwaelod

Yn yr ystafell gyntaf mae yna ddau wely sengl sydd yn codi a gostwng. Gellir gwthio’r ddau at ei gilydd i’w gwneud yn ddwbl. Mae’r ystafell hon yn addas ar gyfer yr anabl gyda gwlâu y gellir eu rheoli yn electronig a theledu HD.

Mae yna ystafell en-suite fawr gyda chyfleusterau i’r anabl a chawod a thoiled.

Larwm i’r anabl wedi ei osod hefyd.

Mae’r lolfa yn cynnwys soffa fawr gron gyda lle i hyd at ddeuddeg eistedd, lle tân sydd yn llosgi coed, teledu mawr HD, DVD blue ray a gorsaf ddocio ar gyfer ipod. Drysau patio sydd yn agor allan ar yr ardd gefn a’r sba nofio.

Mae’r gegin yn cynnwys popty estynedig gyda hob nwy, golchwr a sychwr dillad, peiriant golchi llestri, ac oergell/rhewgell. Mae yna hefyd ardal bar brecwast.

Bwrdd bwyd o dderw caled gyda lle i hyd at ddeuddeg o westai.

Ystafell gotiau ar y llawr gwaelod gyda thy bach.

Llawr Cyntaf

Yr ail ystafell wely yw’r brif un gyda gwely maint king pedwar piler, teledu HD ac ystafell ymolchi en-suite gyda bath cornel a thoiled. Gellir mwynhau golygfeydd dros y Mynyddoedd Duon ac i fyny tua Llyn y Fan drwy’r ffenestri.

Mae’r drydedd ystafell wely yn cynnwys gwely mawr a gwely soffa dwbl, teledu HD ac en-suite gyda chawod a thoiled.

Mae’r bedwaredd ystafell wely yn cynnwys gwely mawr a gwely soffa dwbl, teledu HD ac en-suite gyda chawod a thoiled.

Ar ben y grisiau fe geir ardal ddarllen gyda detholiad o lyfrau a gemau yn ogystal â chadair sydd yn gostwng yn ei hôl.

Gardd

Sba nofio ysblennydd sydd yn addas ar gyfer 14 oedolyn. Gellir gosod y sba nofio ar osodiad jacuzzi neu ar osodiad nofio a gellir yn ogystal ei orchuddio gan ei fod y tu allan yn yr ardd sydd gyda byrddau a chadeiriau, cadair siglo a barbeciw mawr (nwy). Gwna y rhan fwyaf o westeion drefniadau ar ôl cyrraedd ond mae yna ddewis hefyd i neilltuo’r sba nofio mewn slotiau o ddwy awr o flaen llaw am dâl ychwanegol o £30 y sesiwn. Ar gael i’w ddefnyddio hyd at ddeg o’r gloch y nos.

Gwybodaeth ychwanegol

Pecyn croeso lleol wrth gyrraedd

  • Ni chaniateir anifeiliaid anwes
  • Darperir dillad gwely a thyweli bath. Dewch a’ch tyweli eich hunain er mwyn eu defnyddio yn y sba nofio os gwelwch yn dda
  • Crud a chadair uchel ar gael. Dewch a’ch llieiniau ar gyfer y cot eich hunain os gwelwch yn dda
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig
  • Digonedd o lefydd parcio preifat oddi ar y ffordd
  • Addas ar gyfer yr anabl gydag esgynfeydd a chanllawiau
  • Beiciau mynydd ar gael i’w llogi o’r fferm (£25 am ddiwrnod llawn neu £20 am hanner diwrnod). Gallwch drefnu i gael eich codi a’ch gollwng oddi ar y ffyrdd neu’r llwybrau cyfagos
  • Storfa ar gyfer cadw beiciau yn ddiogel ar y safle
  • Y bwthyn wedi ei leoli ar fferm weithiol ac felly ni ddylid gadael i blant ifanc grwydro o amgylch y fferm heb oruchwyliaeth
  • Cyswllt we ddi-wifr yn rhad ac am ddim
  • Ni ellir sicrhau signal ffôn symudol ar bob rhwydwaith
  • Hawliau pysgota preifat am hanner milltir ar afon Crai (un o led-nentydd yr afon Wysg, sydd yn fyd-enwog am ei heogiaid)
  • Cludiad o archfarchnadoedd ar gael yn yr ardal
  • Mae Ysgubor y Dderwen wedi ei leoli ar yr un fferm â Llety Llyn y Fan, Bwthyn y Bannau a Bwthyn Tre-faen ac fe ellir archebu’r cyfan i letya 36 o bobl (os ydych yn cynnwys y defnydd o wlâu soffa). Disgownt o 10% os ydych chi'n archebu ar y cyd. Cysylltwch am fwy o wybodaeth os gwelwch yn dda
  • Enillwyr Gwobrau Busnes Powys

Location

Mae Ysgubor y Dderwen yn berffaith ar gyfer gwyliau ym Mannau Brycheiniog gan ei fod yn uno gyda’r ty fferm drws nesaf ac wedi ei leoli ar fferm weithiol 100 acer sydd yn arbenigo mewn wyn organig dethol. Mae yna ddau o fythynod mawr eraill ar y fferm ond gyda fferm o 100 acer mae yna ddigon o le i bawb. Wedi ei osod ar fuarth ym mhentref distaw, gwledig Crai, yng nghalon Bannau Brycheiniog, dyma ardal y barcud coch ac fe’i gwelir yn aml yn hedfan uwch ben y fferm.

Mae’r hen dref farchnad draddodiadol, Aberhonddu oddeutu wyth milltir i ffwrdd tra bod y dafarn, y siopau a’r gorsafoedd petrol agosaf ym Mhont Senni oddeutu tair milltir i fwrdd. Drwy gydol y flwyddyn mae llawer o ddigwyddiadau yn yr ardal gan gynnwys Gwyl Jazz Aberhonddu, Gwyl y Gelli, a Gwyl y Dyn Gwyrdd. Yn ogystal fe geir Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru a’r Ffair Aeaf , y ddwy wedi eu lleoli yn Llanfair ym Muallt. Mae’r Rali hefyd yn mynd heibio ychydig filltiroedd i ffwrdd o’r bwthyn.

Wedi ei sefydlu yn 1957 mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnwys rhai o olygfeydd ucheldir mwyaf ysblennydd a nodedig de Prydain gan orchuddio ardal o 1347 cilomedr sgwâr (520 milltir sgwâr). Mae yna atyniadau niferus yn yr ardal gan gynnwys rhaeadrau godidog Ystradfellte, Rheilffordd Mynydd Brycheiniog ac ogofeydd Dan yr Ogof sydd yn un o atyniadau teuluol pennaf Cymru ac fe’i pleidleisiwyd yn un o ryfeddodau naturiol gorau Prydain. Bannau Brycheiniog yw’r Parc Cenedlaethol cyntaf yn y Deyrnas Unedig i dderbyn statws Geoparc.

Er gwaethaf ei leoliad gwledig a thawel mae lonydd cyfagos yn cysylltu’r bwthyn gydag Abertawe (oddeutu 45 munud) a Chaerdydd (oddeutu 50 munud) . Mae’r prif lwybr bws i Aberhonddu yn daith fer ar droed o’r bwthyn.

Cerdded
Gellir canfod llwybrau cerdded braf ym Mharc Cenedlaethol y Bannau dros gopaon Pen y Fan, Cornddu a Chriban, yn ogystal â Ffordd Epynt sydd yn naw deg cilomedr. Llwybr yn rhedeg yn syth o’r bwthyn, 0.1 milltir.

Pysgota
Mae’r bwthyn yn dod gyda hanner milltir o bysgota preifat ar yr afon Crai, lled-nant i’r afon Wysg, sydd yn enwog am ei heogiaid, 0.1 milltir.

Beicio
Mae llawer o lwybrau beicio yn yr ardal a gellir mynd am dro gyda’r afon Wysg o’i tharddle, drwy lwybrau’r Parc Cenedlaethol a’r llwybrau gwledig, 3.2 milltir.

Merlota
Cynigia Marchogaeth Gilfach yn y Parc Cenedlaethol ferlota, marchogaeth mynydd, gwersi marchogaeth a chyrsiau marchogaeth, 5 milltir.

Golff
Mae Clwb Golff Cradoc yn gwrs 18 twll gyda maes ymarfer dan lifoleuadau. Ceir golygfeydd bendigedig dros y Bannau a Phen y Fan, 10 milltir.

Chwaraeon Dwr
Ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn chwaraeon dwr mae’r Afon Wysg yn darparu canwio dwr gwyn 3.0 milltir a Llyn Syfaddon, 18 milltir.