Tref y Nant

Welshpool, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 5th September 2024

You can book this property from:

  • £505 per week
  • £72 per night
  • 4 Star

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Twb poeth
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 1 gwely sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Beth am fwynhau golygfeydd syfrdanol cefn gwlad o dwb poeth preifat yn y llety cysurus hwn ger Trallwm. Delfrydol ar gyfer cyplau a theuluoedd bach, mae Tref y Nant yn cynnig lleoliad heddychlon ar gyfer toriad ymlaciol yng Nghanolbarth Cymru. Wedi ei drawsnewid o hen laethdy, mae’r bwthyn hunan ddarpar hwn ychydig filltiroedd o Trallwm, lle ceir tafarndai, bwytai gwych ac atyniadau amrywiol.

Llawr Gwaelod

Llofft fawr gyda gwelyau dwbwl a sengl. Teledu Freeview a chypyrddau dillad a byrddau bach wrth y gwely.

Mae’r ystafell ymolchi drws nesaf i’r llofft yn cynnwys cawod, toiled a basn.

Llawr Cyntaf

Cegin ac ystafell fyw agored gyda soffa ledr groesawus, teledu Freeview a chwaraewr DVD.

Mae’r gegin yn cynnwys popty, oergell, peiriant golchi dillad a meicrodon.

Gardd

Twb poeth preifat yn ogystal â meinciau gardd i fedru mwynhau golygfeydd cefn gwlad heddychlon. Gardd teras o flaen y ty sy’n cael ei rhannu gyda’r Gwely a Brecwast drws nesaf.

Gwybodaeth ychwanegol

  • Gwres a thrydan yn gynwysedig
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
  • Cacen gartref i’ch croesawu. Te, coffi, llaeth a siwgwr hefyd ar gael.
  • Hylif golchi llestri, tywelion sychu llestri, clytiau a nwyddau ymolchi ar gael
  • Wi-fi ar gael
  • Dim anifeiliaid anwes.
  • Digon o le i barcio.

 

Location

Mae Tref y Nant ynghlwm â’r tŷ fferm sydd yn dyddio nol i 1742. Mae’r llety cysurus ger y Trallwm yn mwynhau gerddi eang gyda golygfeydd anhygoel dros gefn gwlad. Wedi ei leoli ar fferm weithiol o fewn 2 filltir i Gastell Powys a phentref gwobreuol Aberiw lle ceir tafarn gysurus, siop Spar a chigydd.

Mae tref farchnad y Trallwm (4 milltir) yn cynnig ystod eang o gyfleusterau, yn cynnwys siopau ac archfarchnadoedd, bwytai, caffis a thafarndai. Mae yna hefyd gamlas, trên stêm, a nifer o gestyll, ac hyd yn oed maes awyr bach gerllaw os ydych am hedfan mewn awyren ysgafn neu hofrennydd. Yng Nghanolfan Fflach y Trallwm mae pwll nofio mawr, llithren, pwll sba, ac mae’n wych ar gyfer plant bach gydag ardaloedd padlo a thraeth.

Mwynhewch deithiau cerdded o gwmpas y fferm a’r wlad sydd o gwmpas, gan gynnwys llwybr sydd yn arwain o’r fferm i Gastell Caereinion. Beth am daith ar y trên stêm o Lanfair Caereinion i’r Trallwm, neu daith fer yn y car i Lyn Efyrnwy, ble gellir troi eich llaw at chwaraeon dwr a beicio, neu fwynhau taith gerdded a phryd da o fwyd. Fe gymeradwyir y bwytai canlynol, sydd o fewn 5 milltir i’r bwthyn - Tafarn Horseshoe yn Aberiw (1.5 milltir), Nags Head yn Garthmyl (3 milltir), a Royal Oak a Cornstore yn Nhrallwm (4 milltir). Dylid hefyd ymweld â Checkers, bwyty seren Michelin yn nhref hardd Trefaldwyn (6 milltir).

Os mai cestyll a diwylliant sydd yn mynd a’ch bryd, mae digon i’w weld yng Nghanolbarth Cymru. Mae’n rhaid ymweld â Chastell Powys, cyn gaer ganoloesol, lle gellir crwydro drwy’r gerddi hardd a mwynhau casgliad o beintiadau, cerfluniau, dodrefn a thapestríau. Mae Castell Dolforwyn, y castell olaf i gael ei adeiladu gan Llywelyn (Tywysog Cymru) rhwng 1273 a 1277, hefyd werth ymweld ag ef, yn ogystal â’r gerddi yn Neuadd Glanhafren (2.5 milltir). Mae atyniadau poblogaidd eraill yn cynnwys Pistyll Rhaeadr (yr uchaf ym Mhrydain), Portmeirion a mynyddoedd Eryri, Canolfan y Dechnoleg Amgen a Labyrinth y Brenin Arthur.

Cerdded

Taith braf o’r fferm i Gastell Caereinion lle ceir tafarn i dorri’ch syched ar ôl eich holl ymdrech.

Mae Llwybr Glyndŵr yn lwybr troed o gryn bellter yng Nghanolbarth Cymru gafodd statws Llwybr Cenedlaethol (National Trail) yn y flwyddyn 2000. Ymunwch â’r llwybr yn Trallwm (4 milltir)

Llwybr Hafren - llwybr hawdd 12 milltir o hyd ar hyd ymyl Camlas Maldwyn o’r Trallwm (4 milltir) i Drenewydd.

Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa (177 milltir i gyd) yn dilyn ffîn Cymru/Lloegr. Y man agosaf i ymuno â’r llwybr yw Trefaldwyn (6 milltir)

Beicio

Gellir ymuno â Llwybr Cenedlaethol 81 o waelod y ffordd at y fferm. Dyma ran o’r llwybr o Aberystwyth i’r Amwythig (0.5 milltir)

Llyn Efyrnwy - llwybr 12 milltir o amgylch Llyn Efyrnwy a’i olygfeydd trawiadol

Pysgota

Camlas Trefaldwyn - Trallwm. Mwynhewch bysgota ar y gamlas heddychlon (4 milltir).

Golff

Cwrs Golff Lakeside, Trefaldwyn - cwrs golff 9 twll (4 milltir).

Clwb Golff y Trallwm - cwrs golff 18 twll (4.5 milltir)

Marchogaeth

Canolfan Mynydd Hir (Long Mountain Centre) - marchogaeth ar gyfer dechreuwyr neu reidwyr profiadol (12 milltir)

Chwaraeon Dŵr

Llyn Efyrnwy - canwîo, caiacio, hwylio a hwylforio - addas ar gyfer y teulu i gyd (22 milltir).