Ty’n Fron

Machynlleth, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer20% offer on Spring holidays - 12th April - 2nd May
  • Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
  • Special Offer15% offer 28th June – 18th July
  • Special Offer10% offer w/c 19th July
  • Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
  • Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August

You can book this property from:

  • £482 per week
  • £69 per night
  • 4 Star

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau king/super-king
  • 1 gwely sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Storfa tu allan
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Ysgubor sydd newydd ei hadnewyddu yn cynnig cymysgedd o'r traddodiadol a'r cyfoes. Mwynhewch y lleoliad tawel ac heddychlon, gyda'r fantais o gael tref farchnad Machynlleth a'i holl adnoddau o fewn ychydig dros 3 milltir. Safle gwych i fedru darganfod Canolbarth Cymru, De Eryri a Bae Ceredigion. Llwybrau cerdded trawiadol, rheilffyrdd stêm, a nifer o atyniadau eraill gerllaw. 

Llawr Gwaelod

Ardal fyw cynllun agored gyda nenfwd uchel uwchben y gegin a thrawstiau derw yn nodwedd trawiadol. Mae dwy step yn arwain at ddrws gwydr a phatio bychan gyda golygfeydd o gefn gwlad.

Cegin gyfoes gyda'r holl offer angenrheidiol yn cynnwys popty a hob trydan, meicrodon, peiriant golchi llestri ac oergell/rhewgell. 

Lolfa gyda llawr derw, dwy soffa a chadair o flaen teledu mawr ar y wal.

Ystafell ymolchi gyda toiled, basn, rheilen sychu tywelion, baddon a chawod arwahan.

Ystafell iwtiliti - yn cynnwys peiriannau golchi a sychu dillad, bwrdd a haearn smwddio a storfa. 

Ystafell wely 1 - gwely sengl gyda chypyrddau dillad. 

Llawr cyntaf

Ystafell wely 2 - gwely maint king, cypyrddau dillad, cadair a theledu. Mae'r ystafell yma wedi ei lleoli i un pen y bwthyn gyda mynediad i fyny grisiau arwahan (noder na ellir cael mynediad i'r ystafell ymolchi ar y llawr cyntaf o ystafell wely 2).

Ystafell wely 3 - gwely maint king, cypyrddau dillad a chadair. Mae'r ystafell hon wedi ei lleoli yn mhen arall y bwthyn.

Pen grisiau - yn cysylltu ystafell wely 3 gyda'r ystafell ymolchi ar y llawr cyntaf. Ardal ddarllen/ymlacio gyda dwy gadair gysurus a bwrdd bach. 

Ystafell ymolchi - gyda toiled, basn, baddon a chawod oddi mewn. 

Gardd

Gardd fawr y tu blaen i'r llety gyda golygfeydd ar draws y dyffryn. Bwrdd picnic a dau fwrdd arddull bistro gydag wyth cadair i fwynhau bwyta allan ar y patio.

Garej fawr agored gyda sied y gellir ei chloi.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgwr, llaeth a chacen    
  • Dillad gwelyau, tywelion a 2 sychwr gwallt yn gynwysedig      
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig - nid yw trydan yn cynnwys gwefru car. Mae croeso i westeion wefru ceir trydanol ond mi all olygu costau ychwanegol. Plîs gadewch i ni wybod wrth archebu os y byddwch angen gwefru eich car.  
  • Wifi ar gael
  • Cot trafeilio a chadair uchel i'w cael ar gais. Dewch â dillad eich hun i'r cot     
  • Haearn a bwrdd smwddio    
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu y tu mewn i'r bwthyn    
  • Digon o le parcio   
  • Fe ddarperir y canlynol: 
    • Cegin: halen a phupur, papur cegin, hylif golchi llestri a thabledi i'r peiriant, brwsh golchi llestri, ffoil a ffilm glynu    
    • Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur i bob toiled    
    • Cynnyrch glanhau cyffredinol       

Location

Mwynhewch wyliau ymlaciol yn yr ysgubor hon sydd newydd ei hadnewyddu ger tref farchnad hynafol Machynlleth. Wedi ei leoli yn harddwch dyffryn Dyfi, bydd gwesteion i'r bwthyn yn medru manteisio ar yr ardal eang y tu allan gyda golygfeydd o'r bryniau a'r mynyddoedd.

Dim ond 3.5 milltir i'r siopau, caffis a bwytai ym Machynlleth, yn ogystal ac adnoddau eraill. Yma hefyd gellir dod o hyd i hen Senedd-dy Owain Glyndwr sydd yn dyddio nôl i 1404, a'r farchnad stryd hynaf ym Mhrydain sy'n cael ei chynnal bob dydd Mercher. Mae rhai o fwytai gorau'r dref yn cynnwys Bistro Number 21 a'r Wynnstay, tra fod y Llew Gwyn yn cynnig ystod o gwrw Cymreig. Dair milltir i'r cyfeiriad arall fe ddowch i dafarn wledig draddodiadol Gwesty Dyffryn Dyfi ym mhentref Glantwymyn. 

Mae Ty'n y Fron yn lleoliad gwych ar gyfer eich gwyliau yng Nghanolbarth Cymru ac hefyd yn agoriad i Dde Eryri a Bae Ceredigion. Ymysg yr atyniadau gerllaw mae Canolfan y Dechnoleg Amgen, Amgueddfa Cymru Fodern (MOMA) ym Machynlleth a Prosiect Gweilch Dyfi. 

Mae yna nifer o draethau hardd o fewn hanner awr, yn cynnwys Aberdyfi, Ynys Las ac Abermaw. Mae rheilffordd stêm Talyllyn yn cynnig diwrnod allan gwych, yn ogystal â Gwarchodfa Natur Ynys Hir, nifer o gestyll hanesyddol, a Chanolfan Grefftau Corris i enwi ond ychydig. 

Cerdded

  • Llwybr Glyndwr - llwybr hir yng Nghanolbarth Cymru gafodd statws llwybrau Cenedlaethol yn y flwyddyn 2000. Gellir ymuno gyda'r llwybr ym Mhenegoes (1.5 milltir)    i
  • Llwybr Dyffryn Dyfi - yn dilyn yr afon Ddyfi o'r aber yn Aberdyfi i gopa Aran Fawddwy ac i lawr nôl ar ochr ddeheuol yr afon drwy Machynlleth i Borth (gellir ymuno â'r llwybr 1.5 milltir o'r bwthyn)  
  • Cader Idris – 3 prif lwybr yn cychwyn o Minffordd (12 milltir), Abergynolwyn (16.5 milltir) a Dolgellau (20 milltir)    
  • Llwybr Mawddach - addas ar gyfer pob oed - cerddwyr, beicwyr a defnyddwyr cadair olwyn (20 milltir)    
  • Llwybr Cynnwch – Dolgellau - addas ar gyfer pob oed (20 milltir)    

Beicio

Chwaraeon Dwr

  • Aberdyfi - yn cynnwys hwylio, canwio, rhwyfo a pysgota (13.5 milltir)  
  • Clwb Hwylio Clywedog - llyn 6 milltir o hyd - ar gyfer pob math o gychod ayb (19 milltir)    

Pysgota

  • Afon Dyfi - yn cynnig pysgota brithyll ac eog gwych. Gellir archebu trwydded yn y swyddfa bost leol (3 milltir) 

Golff