Ysgubor Tanllan

Machynlleth, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 5 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
  • Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer15% offer - 31st May - 7th June 2024
  • Special Offer15% offer 28th June – 18th July
  • Special Offer10% offer w/c 19th July

You can book this property from:

  • £713 per week
  • £102 per night
  • 5 Star

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Ystafell chwaraeon
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Dim signal ffôn symudol

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau king/super-king
  • 2 o welyau bync

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 3 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Ar un lefel, dim grisiau
  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

O'r ystafell chwaraeon i'r ardal fyw eang gyda golygfeydd, stôf goed, a gwres o dan y llawr, byddwch yn teimlo'n gartrefol yn syth yn y bwthyn steilus hwn yn Nyffryn Dyfi. Wedi ei amgylchynu gan gefn gwlad tawel Canolbarth Cymru a gyda digon o bethau i'w gwneud gerllaw, dyma leoliad delfrydol i ymlacio a mwynhau. 

Mae Ygubor Tanllan yn un o ddau fwthyn 5 seren ar y safle, ac newydd gael ei drawsnewid o hen ysgubor Gymreig draddodiadol. Gall cyfuno'r ddau fwthyn i wneud un mawr (Llety Tanllan) ar gyfer hyd at 10 o westeion - perffaith ar gyfer teulu estynedig neu grŵp o ffrindiau.

Ychwanegiad newydd i'r Wefan

Llawr Gwaelod

Ardal fyw fawr ar gynllun agored sy'n eich croesawu i Ysgubor Tanllan. Mae'r trawstiau derw a'r llawr llechi yn rhoi teimlad cysurus i'r llawr gwaelod.

Cegin o dderw Cymreig gyda topiau llechi a sinc serameg, popty a hob trydan, meicrodon, oergell/rhewgell, peiriant golchi llestri, a pheiriant golchi dillad. Mae'r bwrdd bwyta wedi ei osod mewn lle delfrydol i fedru mwynhau'r golygfeydd anhygoel dros y dyffryn hyd at fynyddoedd y Cambrian ar y gorwel.

Mae'r lolfa'n helaeth gyda stôf goed, teledu a chwaraewr DVD, ac mae'n ymestyn allan i'r ystafell haul gyda seddi ychwanegol i fedru mwynhau'r golygfeydd hardd o gefn gwlad.

Yatafell esgidiau gyda toiled a sinc.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 1 - ystafell hardd gyda gwely maint king a drysau yn edrych allan ar yr ystafell haul. Mae'r holl agoriadau wedi eu gwneud yn ddiogel i blant bach gyda rheiliau a gardiau. Ensuite gyda chawod fawr, gwres o dan y llawr, rheilen sychu tywelion, toiled a basn.

Ystafell wely 2 - gwely maint king, cadair, waliau cerrig, nenfwd uchel gyda trawstiau derw. 

Ystafell wely 3 - gwely bync, wal gerrig a golygfeydd o'r dyffryn.

Ystafell ymolchi steilus gyda chawod uwchben y baddon, rheilen sychu tywelion, toiled, basn a gwres o dan y llawr.

Gardd

Ystafell chwaraeon - bwrdd pŵl, gorsaf docio, llyfrau a gemau. Gyda mynediad o'r tu allan, mae'r ystafell hon yn cael ei rhannu gyda'r bwthyn drws nesaf.

Mae'r patio caeedig yn rhedeg o flaen y llety ac yn edrych allan ar olygfeydd godidog. Dodrefn gardd a baraciw siarcol ar gael.

Gardd gaeedig arall gydag ardal chwarae gerllaw'r bwthyn.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso o fwydydd Cymreig sy'n cynnwys llefrith.
  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig. Gwres canolog adnewyddadwy o ffynhonell tanddaearol, hefyd yn cael ei ddefnyddio i gynhesu'r dŵr   
  • Pecyn dechreuol o goed tân ar gyfer y ddwy stôf goed. Gellir prynu coed ychwanegol gan y perchennog am £4 y bag    
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig   
  • Sychwr gwallt ar gael 
  • Cot trafeilio, cadair uchel a gat i'r staer ar gael os dymunir. Dewch â'ch dillad eich hun i'r cot. Gard tân ar gael hefyd ar gyfer y stof goed   
  • Wi-fi ar gael    
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu y tu mewn i'r bwthyn 
  • Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri, tabledi i'r peiriant golchi llestri, clytiau newydd, ffoil, a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon hylif, 2 bapur toiled ym mhob ystafell ymolchi
  • Mae archfarchnadoedd bychain a marchnad stryd wythnosol ym Machynlleth, gyda Asda a Tesco yn dosbarthu i'r cartref 
  • Digon o le parcio yn y buarth ger y bwthyn

I Grynhoi - gair gan y perchnogion   

Mae gan yr ardal leol gymaint i'w chynnig a gellir cael tripiau dyddiol anhygoel oddi yma, ond rydym yn caru ein bywyd yn y gornel fach yma o Ganolbarth Cymru ac yn teimlo y gellir cael anturiaethau cofiadwy yn y fan hyn, ble mae cyflymdra bywyd yn arafu a ble gellir teimlo yn un â byd natur. Dringwch y bryniau, gwyliwch yr haul yn codi ac yn machlud, adeiladwch den neu argae yn y nant, gwrandewch ar yr adar yn canu, chwaraewch ar y bont fach i lawr y lôn, darllenwch lyfr yn yr awyr agored, neu lenwi eich llyfr braslunio gyda darluniau a pheintiadau - mae'r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen. 

Location

Llety trawiadol wedi ei drawsnewid o hen ysgubor, ac wedi ei leoli mewn mangre tawel. Wedi ei adnewyddu a'i adfer yn gariadus gan ei berchnogion, Swyddog yr Ymddirieolaeth Genedlaethol ac athrawes Gelf, Rhodri ac Elinor, a byddant yn siwr o'ch croesawu'n gynnes. Mwynhewch y golygfeydd anhygoel, gwyliwch y barcutiaid coch o'ch ffenestr, neu beth am ddarganfod Llwybr Glyndwr sydd yn pasio ond hanner milltir o'ch llety.

Wedi ei amgylchynu gan gaeau a thir organig, mae Ysgubor Tanllan ond 2 filltir o'r A470, a 7 milltir o dref farchnad brysur Machynlleth, gyda'i siopau, tafarndai a bwytai niferus. Dyma hefyd gartref cyn Senedd Cymru, yn dyddio nol i 1404, a'r farchnad stryd hynaf ym Mhrydain (bob dydd Mercher). Teithiwch i draeth hardd Aberdyfi (17 milltir), neu chwiliwch am anturiaethau ym Mharc Cenedlaethol Eryri. 

Ymysg y llefydd gorau i fwyta'n lleol mae Bistro Number Twenty One a Gwesty Wynnstay ym Machynlleth (7 milltir), Tafarn y Brigands ym Mallwyd (9 milltir), Glan yr Afon Ym Mhennal, ac am fwyd traddodiadol mae'r Llew Coch yn Ninas Mawddwy (11 milltir). Am fwyd parod, fe argymhellir siop enwog Sgodyn a Sglodion Hennighans ym Machynlleth, neu dafarn y Penrhos yng Nghemaes (5 milltir). Ar gyfer bwyta mewn steil, Ynyshir Hall (13 milltir) yw'r lle, gydag acolâd megis Seren Michelin a 5 Roset AA, yn ogystal ag ymddangos yn y Good Food Guide 2017/2018 a dod yn 15fed ar restr Harden's Best UK Restaurants 2017/2018. Y dafarn leol agosaf yw Gwesty Dyfi Valley yng Nglantwymyn (3.5 milltir). 

Mae trên bach Talyllyn yn cynnig diwrnod allan gwych, yn ogystal â Chanolfan y Dechnoleg Amgen, nifer o gestyll chwedlonol (megis Castell y Bere a Harlech), Gwarchodfa Natur Ynys Hir, Prosiect Gweilch y Dyfi, Labyrinth y Brenin Arthur, a Chanolfan Grefftau Corris. Fe argymhellir canolfan feicio mynydd Coed y Brenin, neu drip i Aberystwyth (cartref Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a'r Ganolfan Gelfyddydol fwyaf yng Nghymru ayb). Ar y ffordd adref gellir aros am bryd bwyd gwych a ffilm yn Libanus 1877 (sinema a bwyty) yn y Borth.

Cerdded

Llwybr Glyndwr - llwybr cenedlaethol 135 milltir (217 Km) yn ymlwybro drwy weundiroedd agored, tir fferm ffrwythlon, coedtiroedd a fforestydd canolbarth Cymru (0.5 milltir)   

Llwybr Dyffryn Dyfi - yn dilyn yr Afon Ddyfi o'r aber yn Aberdyfi i'r tarddiad ar gopa Aran Fawddwy, ac yna lawr nol ar ochr ddeheuol yr afon drwy Machynlleth ac i lawr i'r Borth. Gellir cael mapiau yn y Ganolfan Gwybodaeth Ymwelwyr ym Machynlleth. Ymunwch â'r llwybr 3.5 milltir o'r bwthyn.                                   

Cader Idris – 3 prif ffordd o Minffordd (15.5 milltir), Abergynolwyn (18 milltir) a Dolgellau (20 milltir)    

Llwybr Mawddach - llwybr gwastad gyda golygfeydd godidog o Ddolgellau i Abermaw. Addas ar gyfer pob oed - cerddwyr, beicwyr a defnyddwyr cadair olwyn (20 milltir)                                                                                                                                                                                                                           

Beicio

Beicio Mynydd Dyfi - pob llwybr yn cychwyn o Fachynlleth (7 milltir)   

LLwybr Mawddach – fel uchod

Canolfan Beicio Mynydd Coed-y-Brenin – llwybrau addas ar gyfer pob oed (28 milltir)  

Traethau

Aberdyfi – traeth euraidd ar ochr ogleddol aber yr afon Ddyfi. Tref glan y môr gyda digon o siopau, caffis a bwytai (17 milltir)   

Ynyslas – traeth hardd ar ochr ddeheuol aber yr afon Ddyfi, gyda twyni tywod. Caffi a pharcio ar y traeth (19 milltir)   

Pysgota

Afon Dyfi - yn cynnig pysgota gwych ac yn enwog am frithyll brown, eog a brithyll môr. Mae'r afon yn pasio 3.5 milltir o'r bwthyn a gellir prynu trwydded yn y swyddfa bost leol   

Golff

Clwb Golff Machynlleth – cwrs golff 9 twll (7 milltir)   

Clwb Golff Aberdyfi - cwrs golff 18 twll (17 milltir)   

Chwaraeon Dŵr

Clwb Hwylio Clywedog - llyn 6 milltir o hyd gyda pob math o chwaraeon dŵr yn cynnwys canŵio, hwylfordio, dingis a mwy (15.5.milltir)   

Chwaraeon Dŵr yn Aberdyfi - yn cynnwys hwylio, bordio, rhwyfo, canŵio, pysgota a thripiau cychod (17 milltir)