- £2,195 per week
- £314 per night
- 16 Guests
- 8 Bedrooms
- 5 Bathrooms
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Twb poeth
- Pecyn croeso
- Golygfeydd o'r afon
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 4 o welyau king/super-king
- 2 o welyau dwbl
- 4 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 7 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Balconi
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Perffaith ar gyfer grwpiau mawr, aduniadau teuluol ac achlysurol arbennig, dyma lety 5 seren helaeth sy'n sefyll ar ben ei hun. Nodweddion arbennig yn cynnwys twb poeth gyda golygfeydd trawiadol, stofiau coed, llofftydd eang (i gyd gyda teledu), dwy lolfa a dwy gegin. O fewn pellter cerdded i fwyty/tafarn bentref a thref farchnad Machynlleth (prifddinas hynafol Cymru), ac o fewn 10 milltir i draethau hardd, Parc Cenedlaethol Eryri a llawer mwy.
Llawr Gwaelod
Cegin 1 - cegin deuluol helaeth gydag unedau modern, popty trydan mawr, peiriant golchi llestri, oergell/rhewgell, peiriant coffi a pheiriant golchi dillad. Mynediad cyfleus i’r tu allan gyda lle i eistedd, ardal barbaciw a twb poeth.
Cegin 2 - cegin fodern arall gyda meicrodon, popty a hob trydan, oergell/rhewgell, peiriant golchi llestri a pheiriant coffi. Ystafell iwtiliti gerllaw gyda peiriant golchi dillad,
Ystafell fwyta 1 - bwrdd derw mawr a chadeiriau i 10-16, wedi ei leoli o flaen ffenestr sy’n gwneud y mwyaf o’r golygfeydd godidog. Llyfrgell gyda dewis o lyfrau, mapiau a gemau ar gyfer plant ac oedolion.
Ystafell fwyta 2 - ystafell helaeth gyda bwrdd derw yn eistedd 6 a dwy gadair freichiau.
Lolfa 1 - ystafell groesawus gyda ffenestr fawr arall, stôf goed a theledu 50” gyda ‘freeview’ a chwaraewr DVD. Dwy soffa ledr, bwrdd coffi isel a llawr pren - gall eistedd 16 o westeion.
Lolfa 2 - ystafell fawr arall gyda stôf goed, teledu mawr, dwy soffa ledr a chadeiriau ar gyfer 8 o westeion.
2 doiled arwahan gyda basn.
Llawr Cyntaf
Chwech ystafell wely ddwbwl, i gyda gyda teledu ar y wal, seddi yn y ffenestri i fwynhau'r golygfeydd, cypyrddau dillad. Tywelion a sebon Cymreig, sydd wedi ei wneud yn lleol, ym mhob llofft.
Ystafell wely 1 - gwely maint king, ystafell gawod ensuite. Golygfeydd o'r ardd gefn.
Ystafell wely 2 - ystafell gysurus gyda gwely maint king, ystafell gawod ensuite, a golygfeydd i lawr aber yr afon Ddyfi.
Ystafell wely 3 - gwely dwbwl gyda golygfeydd fel ystafell wely 2.
Ystafell ymolchi deuluol - baddon spa modern i ymlacio gyda cawod uwchben y baddon, basn a thoiled.
Ystafell wely 4 - ystafell helaeth gyda gwely maint king a dwy gadair, ystafell ensuite gyda cawod wlaw ddwbwl, toiled a basn. Golygfeydd o'r ardd gefn.
Ystafell wely 5 - gyda gwely dwbwl, cadair a golygfeydd dros y twb poeth a'r patio.
Ystafell wely 6 - ystafell gyda dwy ffenestr a gwely maint king, gyda golygfeydd dros y dyffryn a'r patio.
Ystafell ymolchi - baddon yn sefyll ar ben ei hun, cawod wlaw arwahan, rheilen sychu tywelion, basn.
Ail Lawr
Ardal eang gyda teganau i blant, bwrdd a chadeiriau
Ystafelloedd gwely 7 ac 8 - dwy ystafell yn yr atig, y ddwy wedi eu gosod allan gyda dau qwely sengl. Gellir newid y ddau wely sengl hyn i fod yn wely maint king os dymunir. Gadewch i ni wybod ymlaen llaw os mai dyna beth yw eich dewis
Gardd
Mae Rhiwlas wedi ei amgylchynu gan dir a gerddi sy'n cynnig y lleoliad delfrydol i ymlacio a mwynhau golygfeydd o’r afon Ddyfi. Mae'r twb poeth i 6 yn gwneud y mwyaf o'r golygfeydd hyn. Barbaciw nwy ar gael a rhai teganau tu allan.
Mae’r ardd ffrynt helaeth ar fwy nag un lefel, sydd yn gweddu yn naturiol i’r tirwedd anhygoel.
Gwybodaeth ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys cacennau cartref a chyflenwad cychwynnol o goffi, te, siwgr, llaeth, olew yr olewydd, a perlysiau sych
- Trydan a gwres canolog yn gynwysedig
- Mae'r llety hwn gyda cyflenwad dwr ei hun sy'n cael ei brofi a'i ffiltro
- Darperir dillad gwelyau, tywelion llaw a bath
- Sychwyr gwallt ar gael
- Coed ar gyfer y stôf dân, a nwy ar gyfer y Barbaciw yn gynwysedig, yn rhad ac am ddim
- Sgrîn dân ar gael os oes gennych blant ifanc yn eich grŵp
- Cot teithio, cadair uchel a gât i’r staer ar gael. Rhaid dod â dillad eich hun i’r cot
- Tabledi i’r peiriant golchi llestri ac offer glanhau sylfaenol ar gael
- Bwrdd a haearn smwddio x 2
- Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu
- Man parcio preifat ar gyfer hyd at 5 car
- Garej gyda clo ar gyfer beiciau
- Co-op yw’r archfarchnad lleol sydd yn darparu ar gyfer eich holl anghenion bwyd