Ochr y Rhiw

Machynlleth, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 5 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates

You can book this property from:

  • £523 per week
  • £75 per night
  • 5 Star

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd o'r afon
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau bync

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Popty Range/Aga
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell wlyb
  • Baddon
  • Cawod

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Storfa tu allan
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn
  • Ystafell wlyb

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 15:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Mae Ochr y Rhiw yn fwthyn carreg hyfryd yn edrych lawr ar yr afon, y coetir a'r bryniau. Mae'r bwthyn steilus yn cyfuno'r cyfoes gyda nodweddion gwreiddiol megis lle tân carreg a thrawstiau agored. Gyda drysau deu-blyg yn ymestyn lled y gegin, a theras dyrchafedig sy'n cynnig estyniad naturiol i ddod â'r tu allan i'r tu mewn. Fe fyddai'n hawdd iawn gwario'r diwrnod cyfan yma, yn edmygu'r golygfeydd tawel a'r lliaws o adar, wedi eu denu at yr orsaf fwydo mwyaf poblogaidd o bosib yng Nghanolbarth Cymru.

Mewn lleoliad preifat oddi mewn i bentref Cwmllinau, yn ganolog i drefi marchnad Machynlleth a Dolgellau, yn ogystal â Pharc Cenedlaethol Eryri a Bae Ceredigion. Pun ai'n chwilio am encil cartrefol ble mae modd ymlacio mewn steil, neu leoliad cyfleus i fedru darganfod yr ardal brydferth hon gyda'ch teulu, ffrindiau neu anifeiliaid anwes, fe argymhellir Ochr y Rhiw yn uchel iawn. 1.2 milltir o siop bentref/caffi a thafarn, mae nifer dda o fwytai ac atyniadau gerllaw. Mae rhain yn cynnwys Senedd-dŷ Owain Glyndŵr a Chanolfan y Dechnoleg Amgen, Gwarchodfa Natur Ynys-Hir, Labyrinth y Brenin Arthur a Chanolfan Grefftau Corris, heb sôn am nifer o lwybrau cerdded a beicio.

Llawr Gwaelod

  • Cegin/Ardal fwyta: cynllun agored gyda gwres o dan y llawr llechen. Cegin gyda'r holl offer yn cynnwys oergell/rhewgell, peiriant golchi llestri, meicrodon a popty Range oddi mewn i'r lle tân gwreiddiol. Bwrdd bwyta derw gyda 6 cadair. Dwy gadair freichiau gysurus o flaen drysau deu-blyg sy'n arwain allan i'r teras - y lleoliad perffaith i fwynhau'r golygfeydd a'r adar tra'n sipian te/coffi neu lasied o wín.
  • Ystafell Fyw: gyda gwres dan y llawr, mae'r ystafell fyw yn cynnig encil croesawgar gyda stôf losgi coed yn y lle tân carreg. Dwy soffa gyfforddus sy'n eistedd tri, ynghyd â bwrdd coffi, dreser Gymreig hynafol a stôl droed. Teledu Smart a nifer o gemau i'ch diddanu.
  • Mynedfa/Ystafell Iwtiliti: mae'r llawr llechen yn cynnig croeso cynnes fel yr ydych yn mynd i mewn i'r bwthyn. Pegiau derw i hongian cotiau a digon o le ar gyfer esgidiau. Uned sinc gyda peiriant golchi/sychu dillad. 
  • Ystafell wlyb: gyda gwres dan y llawr, cawod drydan, toiled a basn.

Llawr Cyntaf

  • Ystafell wely 1: prif ystafell wely gyda gwely maint king ac yn llawn cymeriad, o'r lle tân carreg, cwpwrdd gwisgo hynafol, blanced tapestri Cymreig gwreiddiol a chlustogau sy'n cydfynd. Gwely efydd gyda matres o ansawdd uchel a chypyrddau dillad. Mwynhewch weld y wawr yn torri o'ch gwely, neu o gadair retro wreiddiol sydd wedi ei lleoli o flaen y ffenestr.
  • Ystafell wely 2: gwely dwbl cyfforddus gyda matres, eto o ansawdd uchel, a chypyrddau dillad. Lloriau pín gyda matiau bob ochr i'r gwely.
  • Ystafell wely 3: gwely bync maint llawn, lloriau pín a chypyrddau dillad.
  • Ystafell ymolchi: bath yn sefyll ar ben ei hun a chawod. Rheilen sychu tywelion.
  • Pen grisiau: gyda ffenestr yn edrych allan dros yr afon. Mae yma gadair ac ysbienddrych i chi gael eistedd i wylio'r adar a mwynhau'r golygfeydd. Lloriau pín.

Gardd

  • Teras mawr ble gellir mwynhau pryd o fwyd alfresco o gwmpas bwrdd patio i 6, tra'n edrych allan dros yr afon. Stand ar gyfer barbaciw tafladwy.
  • Llwybr yn arwain lawr i ardd estynedig ger glan yr afon gyda sied a rhagor o le i eistedd. Pan fydd yr afon yn fás, bydd rhyd yn ymddangos - gellir ei chroesi i gael mynediad i lwybr ar yr ochr arall. 
  • Mae yna dap a phibell ddwr i olchi eich ci/beic wrth ymyl y drws ffrynt.

Gwybodaeth Ychwanegol 

  • Darperir dillad gwelyau a thywelion o ansawdd uchel
  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig    
  • Croesewir hyd at 2 anifail anwes - £20 yr anifail (llawr gwaelod yn unig a ddim ar y dodrefn). Gât ci ar gael   
  • Dim ysmygu y tu mewn    
  • Parcio preifat oddi ar y ffordd ar gyfer 2 gar      

Location