- £434 per week
- £62 per night
- 4 Guests
- 3 Bedrooms
- 1 Bathroom
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau dwbl
- 1 gwely sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- Tywelion ar gael
Teuluoedd
- Cot trafeilio
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Parcio preifat
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Os ydych yn chwilio am hoe heddychlon, tawel ac ymlaciol, bydd y llety hyfryd hwn ym Machynlleth yn eich siwtio i’r dim. Wedi ei osod yn ei ardd gaeëdig ei hun mae ganddo olygfeydd gogoneddus o gefn gwlad, mewn lleoliad gwych yn agos at y mynyddoedd a’r arfordir. Gyda dwy stôf llosgi coed, mae’r bwthyn eang hwn hefyd yn glyd iawn – perffaith wedi diwrnod hir o gerdded neu feicio. Mae atyniadau amrywiol gerllaw.
Llawr Gwaleod
Cegin fferm gyda llawr llechi gwreiddiol ac unedau cegin derw modern. Mae’n cynnwys popty trydan, hob seramig, microdon, oergell a rhewgell yn un a golchwr llestri.
Ystafell fwyta eang gyda thrawstiau, bwrdd gyda lle i 6 a golygfeydd hardd o gefn gwlad. Llawr llechi gwreiddiol a stôf llosgi coed ar gyfer nosweithiau oerach. Soffa fawr gyfforddus a theledu gyda Freeview.
Ystafell fyw fodern a chynnes gyda charped gwlân, soffa gyfforddus, stôf llosgi coed, teledu gyda Freeview a chwaraewr DVD. Ystafell olau gyda ffenestri yn y cefn a’r tu blaen, perffaith er mwyn gallu ymlacio’n llwyr.
Ystafell iwtiliti y gellir ei gloi, gyda offer golchi, golchwr a sychwr dillad. Delfrydol ar gyfer cadw a golchi beics.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely ddwbl tu blaen 1 – Ystafell ddwbl fawr gyda matres ddwfn a chyfforddus a Chwilt Tapestri Cymreig cynnes. Dodrefnu Laura Ashley a chwpwrdd pîn sy’n cyd-fynd, cist ddroriau a droriau wrth y gwely.
Ystafell wely ddwbl tu blaen 2 – Hefyd gyda matres ddofn a chyfforddus, Cwilt Tapestri Cymreig a dodrefnu Laura Ashley. Cwpwrdd pîn sy’n cyd-fynd, cist ddroriau a droriau wrth y gwely. Mae’r lle tân gwreiddiol yn ychwanegu cymeriad i'r ystafell.
Ystafell wely sengl – Ystafell wely eang gyda gwely sengl, matres ddofn a Blanced Gymreig gynnes. Wedi ei dodrefnu’n chwaethus gyda chwpwrdd pîn a chist ddroriau sy’n cyd-fynd.
Ystafell molchi deuluol gyda swît gwyn. Cawod dros y baddon a golygfeydd cefn gwlad hyfryd.
Gardd
Mae’r llety hwn ger Machynlleth wedi ei osod yn ei ardd gaeëdig ei hun. Mae ardal gyda glaswellt a blodau yn nhu blaen y ty gyda lle i eistedd ar y patio – y lleoliad perffaith i fwynhau’r golygfeydd hyfryd o Gadair Idris a’r tir fferm o amgylch.
Buarth mawr amgaeëdig yng nghefn y ty gyda lle parcio.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Llieiniau gwely, tyweli dwylo a baddon yn gynwysiedig
- Gwres a thrydan yn gynwysiedig
- Ni chaniateir anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn i’r llety hwn ym Machynlleth
- Digon o lefydd parcio