Ty Talcen

Aberdyfi, North Wales Snowdonia

  • 5 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer20% offer on Spring holidays - 12th April - 2nd May
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 5th September 2024

You can book this property from:

  • £486 per week
  • £69 per night
  • 5 Star

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite

Teuluoedd

  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Ty prydferth, modern ym mhentref hardd, hanesyddol Pennal, de Eryri. Lleoliad gwych rhwng hen brifddinas Cymru, Machynlleth, ac Aberdyfi; pentref Glan-y-môr prydferth â thraeth hir o dywod lle mae Afon Dyfi yn cwrdd â dyfroedd gleision Bae Ceredigion. Mae'r llety gwyliau hwn yn Eryri yn cynnig pob cysur a chyfleuster ar gyfer gwyliau o ymlacio moethus. Mwynhewch yr ystafelloedd helaeth, yr amgylchfyd gwledig a balconi'r ystafell wely ar gyfer coffi yn y bore neu wydraid o win gyda'r nos.

Llawr Gwaelod

Mae'r llawr gwaelod cynllun agored mawr yn cynnwys lolfa, lle bwyta a chegin. Mae yno hefyd ystafell ar wahân gyda basn ymolchi a thy bach.

Mae'r gegin fodern gyda'r holl gyfleusterau yn cynnwys ffwrn ddwbl drydan, oergell/rhewgell, peiriant golchi llestri, microdon, peiriant golchi dillad a bar brecwast.

Mae lle i chwech wrth y bwrdd bwyd sydd mewn cornel hyfryd o flaen y drysau patio, yn edrych allan ar yr ardd.

Ar ôl pryd da o fwyd, ewch draw at y lolfa i eistedd o flaen arwedd tân dymunol, modern, teledu mawr a chwaraewr DVD. Mae'r drysau patio triphlyg ar hyd blaen yr ystafell yn golygu y gallwch fwynhau'r olygfa eang a chael profiad bendigedig o'r lle, a hynny o gysur eich soffa ledr foethus.

Llawr Cyntaf

I fyny'r grisiau yn y llety hunan ddarpar hwn yn Eryri mae tair ystafell wely fawr a helaeth (dwy ystafell ddwbl ac un ystafell twin) ac ystafell ymolchi deuluol.

Mae'r ystafell ddwbl gyntaf wedi ei dodrefnu'n hyfryd ac mae drysau patio yn arwain at falconi sy'n wynebu'r de lle mae bwrdd a chadeiriau i fwynhau'r haul drwy'r dydd.

Mae'r ail ystafell ddwbl fawr yn cynnwys ystafell gawod ensuite gyda chawod ddwbl, basn ymolchi a thy bach.

Mae'r drydedd ystafell yn cynnwys dau wely sengl cyfforddus a dodrefn ystafell wely.

Mae'r ystafell ymolchi deuluol yn cynnwys bath gyda chymysgydd, cawod ar wahân, basn ymolchi, ty bach a rheilen gynnes i ddal tywelion.

Gardd

Lawnt laswelltog gyda dodrefn gardd, a heddwch cefn gwlad yn fôr o'i chwmpas.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwres canolog olew a thrydan yn gynwysedig

Dillad gwely (gobenyddion a charthenni gwrth-alergedd), tywelion a llieiniau sychu llestri’n cael eu darparu.

Cot, cadair uchel a choets yn cael eu darparu ar gais. Dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot.

Casgliad o DVDs, gemau, jig-sos a llyfrau ar gyfer gwesteion

Wifi ar gael

Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu yn y ty

Caiff y canlynol eu darparu ar gyfer eich arhosiad... tabledi i’r peiriant golchi llestri, hylif golchi llestri, papur cegin, ffoil a phapur toiled.

Bwrdd a haearn smwddio a basged picnic yn cael eu darparu.

Lle parcio i ddau gar.

Mae Ty Talcen yn sownd i fwthyn Ty Pellaf a gellir archebu’r ddau fwthyn yr un pryd i gysgu hyd at 12 person.

Pecyn croeso sy'n cynnwys te, coffi, llaeth, siwgr a photel o win.

Location

Ty mawr, hyfryd ar ben stryd deras, wedi ei leoli mewn lle tawel a heddychlon ym mhentref hardd Pennal o fewn Parc Cenedlaethol Eryri. Dim ond 6 milltir i ffwrdd o bentref arfordirol Aberdyfi (siopau, bwytai a thafarndai) gyda’i draethau tywodlyd hardd, ble mae’r Afon Dyfi’n ymuno â dyfroedd Bae Ceredigion. Mae’r llety hunan darpar moethus hwn yn Eryri hefyd o fewn 3 milltir i dref marchnad draddodiadol Machynlleth - prif ddinas hynafol Cymru.

Dim ond taith fer ar droed o’ch bwthyn moethus mae tafarn Riverside, tafarn gyfeillgar sydd wedi ei hadnewyddu’n ddiweddar, gyda bwydlen sydd yn newid bob tymor ac yn cynnig cynnyrch lleol. Mae siop y pentref hefyd o fewn pellter cerdded ac yn darparu’r rhan fwyaf o nwyddau yn ogystal â bara ffres o’r becws lleol.

Yn ogystal gallwch gerdded o’r ty i sba Plas Talgarth. Yma gallwch ymlacio drwy dylino’r corff, amrywiaeth o driniaethau harddwch neu fwynhau pyllau nofio tu mewn a’r tu allan, sawna, jacuzzi ac ystafell stêm. Mae gan Blas Talgarth hefyd swît ffitrwydd, byrddau snwcer, cwrt sboncen, tennis bwrdd, cwrt tennis, parc chwarae i blant a llwybrau cerdded coedwig.

Mae’r bwthyn hunan ddarpar yma yn Eryri hefyd wedi ei leoli mewn lle delfrydol i fedru mwynhau amrywiaeth o weithgareddau eraill hefyd, yn cynnwys chwaraeon dwr, golff, pysgota, gweithgareddau antur a marchogaeth. Mae atyniadau megis trên stêm Tal-y-llyn, Portmeirion, castell Harlech, Canolfan Dechnoleg Amgen, Labrinth y Brenin Arthur, Canolfan Grefft Corris i gyd yn cynnig dyddiau llawn hwyl a mwynhad.

Traethau
Traeth Aberdyfi – traeth tywod hir – perffaith ar gyfer gwyliau i’r teulu. 6 milltir o’r bwthyn

Ceir hefyd nifer o draethau eraill cyfagos ar hyd arfordir gogledd Cymru

Cerdded
Llwybr y Llyn Barfog – bydd y llwybr 10 milltir yn mynd â chi i fyny i’r bryniau y tu cefn i Aberdyfi at y Llyn Barfog. 6 milltir.

Mae Llwybr Dyffryn Dyfi yn dilyn Afon Dyfi o’r aber yn Aberdyfi at ei tharddiad wrth gopa’r Aran Fawddwy ac yna’n ô li lawr ar hyd ochr ddeheuol yr afon trwy dref Machynlleth a lawr i’r Borth. Gellir cael mapiau a chyfeirlyfrau yn y Ganolfan Croeso yn Aberdyfi. 0 milltir o’r bwthyn.

Cadair Idris (llwybr mynydd) – mae’r llwybr agosaf yn cychwyn o Lanfihangel-y-Pennant ac yn dringo’n raddol ar ran deheuol llwybr pilin pwn. 10 milltir i’r copa – gradd ganolig/caled. 18 milltir o’r bwthyn

Chwaraeon Dwr
Mae’r Chwaraeon Dwr yn Aberdyfi yn cynnwys hwylio, hwylfyrddio, rhwyfo, canwio, pysgota a thripiau cychod. 6 milltir

Golff
Clwb Golff Aberdyfi – cwrs golff 18 twll. 6 milltir

Clwb Golff Machynlleth – cwrs golff 9 twll. 3.5 milltir

Pysgota
Mae Afon Dyfi yn cynnig pysgota gwych ac mae’n enwog am ei brithyll brown, eog a sewin. 0.5 milltir

Wedi’i amgylchynu gan y môr, afonydd a llynnoedd, dyma un o’r lleoedd gorau sydd ar gael i bysgota. Rhowch dro ar bysgota o’r lan yn Aberdyfi a Thywyn (4 milltir) neu bysgota llyn yn Nhal-y-llyn (14 milltir).
Darllenwch ragor am bysgota yn Aberdyfi a’r ardal amgylchynol.

Merlota
Canolfan Ferlota Fferm Bwlchgwyn – addas i unrhyw un dros 4 oed. 23 milltir