Hen Gapel

Machynlleth, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special OfferEarly Bird offer - 10% discount between 24th May and 25th July
  • Special Offer15% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 5th September 2024

You can book this property from:

  • £447 per week
  • £64 per night
  • 4 Star

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Dringo
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 2 o welyau sengl
  • 1 gwely soffa

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Bwthyn gwyliau i 4 sydd newydd ei adnewyddu ger Machynlleth. Mae mewn lleoliad tawel ger nant fechan a choedwig, ac mae’n cynnwys pob cyfleuster modern a stôf llosgi coed. Mae hefyd yn cynnig nodweddion clyd fel nenfydau â thrawstiau, a simdde fawr sy’n cynnwys stôf llosgi coed, sy’n help i ymlacio ar ôl mynd am dro hir neu ddiwrnod allan i archwilio’r ardal. Mae llwybrau cerdded a beicio ardderchog gerllaw wrth droed mynyddoedd y Cambria, ac mae arfordir hyfryd Bae Ceredigion gerllaw. Dim ond 5 milltir i ffwrdd mae tref farchnad Machynlleth sydd â nifer o gaffis, bwytai a siopau unigryw, canolfan chwarae a chyfleusterau eraill.

Llawr Gwaelod

Cegin olau, agored gyda bwrdd bwyta i 5 person. Mae’r gegin yn cynnwys ffwrn, peiriant golchi llestri, peiriant golchi dillad, oergell, rhewgell, microdon, tostiwr, a thegell.


Ystafell fyw glyd gyda simdde fawr a stôf llosgi coed, soffas a theledu/chwaraewr DVD.

Tŷ bach a sinc ar y llawr gwaelod.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 1 – Gwely mawr iawn gyda golygfeydd dros y nant a’r wlad o amgylch. Gyda dau gwpwrdd wrth ochr y gwely, cwpwrdd dillad a chist ddillad. 

Ystafell wely 2 – Gwely sengl gyda chwpwrdd dillad a chwpwrdd wrth ochr y gwely.

Ystafell wely 3 – Gwely sengl, cwpwrdd dillad gwely, a chwpwrdd wrth ochr y gwely, gyda golygfeydd o gaeau. Mae hefyd yn cynnwys gwely soffa i westeion ychwanegol ar gais.  


Ystafell gawod gyda chawod fawr, uned sinc a thŷ bach.

Gardd

Mae gan y bwthyn gwyliau hwn ym Machynlleth ardd fawr sy’n wynebu’r de gyda lawnt, gwelyau blodau, ac ardal batio gyda dodrefn gardd. Mae’n gwbl amgaeedig ger nant fyrlymus gyda’i phont fach ei hunan. Mae barbeciw a lein ddillad ar gael hefyd.   

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Bydd pecyn yn barod i’ch croesawu sy’n cynnwys te, coffi, llaeth, siwgr a chacennau.
  • Darperir dillad gwely, a thyweli bach a mawr.
  • Darperir 1 sychwr gwallt
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig.
  • Darperir cyflenwad o goed ar gyfer y stôf llosgi coed am ddim. Mae coed ychwanegol ar gael gan y perchennog am £5 am lond basged fawr.
  • Darperir cot teithio a giât grisiau ar gais. Dewch â’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot, os gwelwch yn dda.
  • Wi-fi ar gael
  • Er gwybodaeth, nid oes signal ffôn symudol yn y bwthyn – perffaith i osgoi peiriannau digidol am gyfnod, fel sy’n boblogaidd iawn y dyddiau hyn. Fodd bynnag, os oes gennych iPhone 5 neu uwch, mae’n bosibl gwneud galwadau gan ddefnyddio’r Wi-fi.
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu y tu mewn i’r bwthyn.
  • Digon o le parcio preifat ar gael.
  • Mae’r eitemau eraill yn cynnwys:
    • Cegin: halen a phupur, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi peiriant golchi llestri, cadachau llestri a/neu sgwrwyr newydd, ffoil a glynlen/cling ffilm, bagiau bwyd, lliain sychu llestri, powdr peiriant golchi dillad, olew olewydd, finegr.
    • Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn o bapur ym mhob tŷ bach.
    • Cynnyrch glanhau cyffredinol: cannydd, glanhawr cawod, hylif gwrthfacterol, rheilen sychu dillad.

Location

Mae’r bwthyn gwyliau hyfryd hwn ger Machynlleth wedi’i leoli nepell o bentref Aberhosan. Mae mewn lleoliad tawel gyda nant fechan wrth ymyl yr ardd a choedwig gerllaw i fynd am dro tawel ynddi. Mae’r bwthyn yn un o bâr o dan yr un to ac mae’r ardd fawr sy’n wynebu’r de yn berffaith ar gyfer ymlacio a mwynhau clywed yr adar yn canu gerllaw.

Mae’r bwthyn gwyliau hwn ym Machynlleth 5 milltir yn unig i ffwrdd o’r dref ei hun – tref farchnad hardd sy’n Brifddinas Hynafol Cymru hefyd. Mae gan Fachynlleth gaffis bach hyfryd, digonedd o siopau unigryw, dwy archfarchnad a nifer o fwytai da. Ymhlith y bwytai y gallwn eu hargymell mae Bistro Number Twenty One a’r Wynnstay ym Machynlleth, y Llew Du yn Nerwen-las (8 milltir) a Glanyrafon ym Mhennal (10 milltir). Gallwch ddod o hyd i’r holl gyfleusterau sydd eu hangen arnoch ym Machynlleth, gan gynnwys banciau, modurdai a nifer o fwytai prydau parod a thafarndai (gan gynnwys y Llew Gwyn a’r Ceffyl Gwyn).

Ymysg y prif atyniadau mae’r traethau tywod yn Aberdyfi ac Ynyslas (ar naill ben aber Dyfi a’r llall) a mynyddoedd arbennig Eryri. Gallwch ddewis o blith nifer o ddiwrnodau allan gwych hefyd, gan gynnwys taith ymlaciol ar Reilffordd Tal-y-llyn, ymweliad â gwarchodfa’r RSPB a Phrosiect y Gweilch yn Ynys-hir, Canolfan y Dechnoleg Amgen, Labrinth y Brenin Arthur a Chwareli Corris. Mae’n werth ymweld â thref glan y môr Aberystwyth hefyd heb os, sy’n gartref i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, rheilffordd Dyffryn Rheidol, sinema draddodiadol a’r ganolfan gelfyddydol fwyaf yng Nghymru.

Cerdded

  • Moel Fadian. Llwybr sy’n arwain i’r copa uchaf yn Sir Drefaldwy, gyda golygfeydd gwych ar draws mynyddoedd Pumlumon. 1 filltir.
  • Llwybr Glyndŵr – llwybr troed hir yng Nghanolbarth Cymru a enillodd statws Llwybr Cenedlaethol yn y flwyddyn 2000. Ymunwch â’r llwybr 0.5 milltir o’r bwthyn.
  • Mae Llwybr Dyffryn Dyfi yn dilyn afon Dyfi o’r aber yn Aberdyfi i’w ffynhonnell ar gopa Aran Fawddwy ac yn ôl i lawr ar hyd ochr ddeheuol yr afon, drwy Fachynlleth ac i lawr i Borth. Ymunwch â’r llwybr ym Machynlleth. 5 milltir.
  • Cadair Idris (mynydd) – 3 prif lwybr yn dechrau o Finffordd (15 milltir), Abergynolwyn (18 milltir) a Dolgellau (20 milltir).

Beicio

  • Llwybr Sustrans – gallwch ymuno â’r rhan rhwng Machynlleth a Chaersws ar ffordd fynydd Machynlleth – Llanidloes, llai na 2 filltir o’r bwthyn.
  • Beicio Mynydd Dyfi – Mae pob llwybr yn dechrau o Fachynlleth. 5 milltir.
  • Llwybr Mawddach – Addas i bobl o bob oedran. Perffaith ar gyfer beicio a cherdded, a hefyd yn addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Dolgellau (23 milltir) i Abermo.
  • Canolfan Beicio Mynydd Coed-y-Brenin – Llwybrau addas ar gyfer pob oedran. 29 milltir.

Pysgota

  • Afon Dulas – 2 filltir.
  • Mae afon Dyfi yn cynnig pysgota rhagorol ac mae’n enwog am frithyll brown, eog a brithyll y môr. 5 milltir.

Golff

  • Clwb Golff Machynlleth – cwrs golff 9 twll. 4 milltir.
  • Cwrs Golff Aberdyfi – cwrs golff 18 twll. 15 milltir.
  • Clwb Golff Borth – cwrs golff 18 twll. 19 milltir.

Traethau

  • Aberdyfi – Traeth tywod hir ar ochr ogleddol aber afon Dyfi. Arhosfan glan y môr hyfryd gyda digon o gaffis, siopau a bwytai. 15 milltir.
  • Ynyslas – Traeth hyfryd ar ochr ddeuehol aber afon Dyfi, gyda thwyni tywod yn gefn iddo. Mae caffi a lle parcio ar y traeth. 18 milltir.

Chwaraeon Dŵr

  • Clwb Hwylio Clywedog – llyn 6 milltir, sy’n agored i bob math o gychod di-bŵer o ganŵs a byrddau hwylio i ddingis, criwserau a chelfadau (keelboats). 10 milltir.
  • Mae’r chwaraeon dŵr sydd i’w cael yn Aberdyfi yn cynnwys hwylio, hwylfyrddio, rhwyfo, canŵio, pysgota a thripiau mewn cwch. 15 milltir.

Marchogaeth

  • Canolfan Farchogaeth Rheidol ger Aberystwyth. 25 milltir.