Llety Hiriaeth

Machynlleth, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 4 Star
  • Awaiting Grading
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May

You can book this property from:

  • £468 per week
  • £67 per night
  • 4 Star
  • Awaiting Grading

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Dringo
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 2 o welyau dwbl
  • 1 gwely sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 09:00

Description

Mae Llety Hiriaeth yn cynnig llety cysurus, eang hunan-ddarpar yng Nghanolbarth Cymru ac wedi ei leoli ar fferm weithiol organic ger Machynlleth. Gyda’i erddi prydferth ei hun a’r nant yn sisial gerllaw mae wedi ei ddodrefnu yn chwaethus yn unol â chymeriad y ffermdy traddodiadol Cymreig. Mewn llecyn heddychlon a phreifat, mae’n cynnig lle ar gyfer ymlacio’n llwyr - ond eto yn gyfleus iawn o fewn cyrraedd i’r traeth yn Aberdyfi, mynyddoedd hardd Eryri a llawer o atyniadau lleol. Y gwyliau perffaith mewn ffermdy.

Llawr Gwaelod

Mae prif ddrws y ffermdy yn arwain i mewn i gyntedd mawr croesawgar. O’r cyntedd gallwch fynd i mewn i ddwy ystafell fyw, y gegin, y pantri ac i fyny’r grisiau. Ar ben pellaf y cyntedd ceir drws blaen sy’n arwain i ystafell wydr fechan.

Ceir 3 o ystafelloedd byw mawr a chyfforddus yn y ffermdy, un gyda llosgwr coed o fewn y pentan gyda’i bopty bara gwreiddiol. Mae'r ddwy lolfa gyntaf hefyd yn cynnwys teledu a sianeli am ddim yn ogystal â chwaraewyr DVD. Mae’r drydedd ystafell fyw yn berffaith ar gyfer darllen ac ymlacio mewn tawelwch.

Lleolir y gegin dderw draddodiadol Gymreig, gyda’i lle bwyta yn hen ran y ty ac fe’i cyrhaeddir o’r prif gyntedd i lawr un gris. Caiff yr holl offer cegin eu darparu gyda’r llestri a’r offer cegin arferol. Mae yna bopty trydan, microdon yn ogystal ag Aga hyfryd yn rhedeg ar olew fel y byddech yn ei ddisgwyl o wyliau mewn ffermdy.

Mae’r gegin yn arwain at yr ystafell fyw wedi ei charpedu, gyda phentan a llosgwr coed. Lleolir y pantri gyda’i lawr llechi ar brif lefel y ty ac yma y cedwir yr oergell a’r rhewgell. Mae’r iwtiliti gyda’r peiriant golchi a’r sychwr dillad wedi ei leoli i fyny ychydig o risiau o’r gegin.

Mae'r ystafell ymolchi cyntaf ar y llawr yma ac yn cynnwys cawod a thoiled.

Llawr Cyntaf

Ceir 4 ystafell wely fawr a chyfforddus. Mae gwely maint king yn y brif ystafell, dau ystafell wely gyda gwelyau dwbl ac un ystafell gyda gwely sengl, pob un wedi eu dodrefnu yn chwaethus. Nodir fod yr eiddo hwn ar gyfer 6 gwestai yn unig. 

Yn yr ystafell ymolchi i’r teulu i fyny grisiau ceir cawod uwchben y bath.

Gardd

Mwynhewch gyfoeth o fywyd gwyllt o foethusrwydd eich gardd fawr eich hun gyda dodrefn gardd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r gwelyau wedi eu paratoi gyda dillad gwely ffres yn barod ar eich cyfer. Tywelion yn cael eu darparu.

Trydan a gwres yn gynwysedig.

Darperir Wi-fi.

Darperir cot a chadair uchel. Dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda.

Pentwr cychwynnol o logiau yn cael eu darparu am ddim, logiau ychwanegol yn gallu cael eu prynu gan y perchennog.

Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu.

Darperir Pecyn Croeso, tywelion te, hylif golchi llestri, ffoil a thoiled rôl.

Gellir archebu arosiadau byr yn ystod y tymhorau tawel, gweler ‘Prisiau’.

Location

Mae ty fferm Llety Hiriaeth o fewn milltir i bentref Cemaes sydd gyda thafarn draddodiadol ei hun. 7 milltir o Fachynlleth (Prifddinas Hynafol Cymru) sydd yn cynnig safle gwych i ddarganfod Canolbarth Cymru, de Eryri a Bae Ceredigion.

Diarffordd ond eto yn hawdd cael mynediad ato, mae’r bwthyn hunan-ddarpar moethus hwn yng Nghanolbarth Cymru yn mwynhau lleoliad heddychlon ac yn darparu golygfeydd anhygoel dros gefn gwlad Dyffryn Dyfi. Gellwch fwynhau cyfoeth o fywyd gwyllt o foethusrwydd eich gardd, gweld y Barcud Coch yn hedfan uwchben, yr adar yn nythu ac fe ellwch gymryd llwybrau hyfryd o drothwy eich drws.

Dim ond taith fer yn y car yw traethau euraid tywodlyd Aberdyfi ac Ynys Las, golygfeydd godidog mynyddoedd Eryri yn ogystal â llawer o atyniadau lleol megis y Ganolfan ar gyfer Technoleg Amgen, Cestyll Hanesyddol, a Gwarchodfa Natur RSPB, hefyd yn Ynys Las. Mae yna amrywiaeth o gyrsiau golff, llwybrau cerdded a beicio gyda chanolfan feicio mynydd sydd yn enwog yn fyd-eang yng Nghoed y Brenin ger Dolgellau.

Cerdded

Mae Llwybr Glyndwr yn llwybr cerdded traws gwlad yng Nghanolbarth Cymru a gafodd statws Llwybr Cenedlaethol yn 2000. Gellir cael gafael ar fapiau a chanllawiau o Ganolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr ym Machynlleth. Ymunwch â’r llwybr filltir o’r ffermdy.

Mae Llwybr Dyffryn Dyfi yn dilyn yr afon Dyfi o’i haber yn Aberdyfi i’w tharddle ar grib yr Aran Fawddwy ac yna yn ôl i lawr gydag ochr dde'r afon trwy Fachynlleth ac i lawr i’r Borth. Gellir cael gafael ar fapiau a chanllawiau o Ganolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr ym Machynlleth. Ymunwch â’r llwybr filltir o’r ffermdy.

Llwybr y Mawddach - addas ar gyfer pob oedran - cerddwyr, beicwyr a defnyddwyr cadair olwyn, 16 milltir.

Llwybr Cynwch - Dolgellau - addas ar gyfer pob oedran, 18 milltir o’r ffermdy.

Cader Idris (mynydd Eryri) - 3 prif lwybr yn cychwyn o Ddolgellau (16 milltir), Minffordd (16 milltir) ac Abergynolwyn (20 milltir).

Beicio

Beicio Mynydd Dyfi - Llogi beic ar gael o siop The Holy Trail ym Machynlleth. Pob llwybr yn cychwyn o Fachynlleth, 7 milltir.

Llwybr y Mawddach - fel y soniwyd uchod.

Canolfan Feicio Mynydd Coed-y-Brenin - Llwybrau addas i bob oed, 22 milltir.

Llyn Fyrnwy - cylchdaith 12 milltir llawn golygfeydd o amgylch Llyn Fyrnwy. Addas i’r holl deulu, 23 milltir.

Chwaraeon Dwr

Chwaraeon dwr yn Aberdyfi yn cynnwys hwylio, hwylfyrddio, rhwyfo, canwio, pysgota a thripiau cwch, 18 milltir.

Clwb Hwylio Clywedog - llyn 6 milltir, agored ar gyfer pob math o fadau dwr sydd heb eu pweru o ganwod i hwylfyrddion i ddingis, criwser a llongau, 17 milltir.

Llyn Fyrnwy - canwio, caiacio, hwylio a hwyl syrffio - addas i’r holl deulu, 23 milltir.

Pysgota

Mae Afon Dyfi yn cynnig pysgota gwych ac mae’n enwog am ei frithyll brown, ei frithyll môr a’i eogiaid. Mae’r afon yn llifo hanner milltir i ffwrdd a gellir prynu trwyddedau yn y swyddfa bost leol, 2 filltir.

Golff

Clwb Golff Machynlleth - cwrs golff 9 twll, 7 milltir.

Clwb Golff Aberdyfi - cwrs golff 18 twll, 18 milltir.