Plas Rhiwlas

Machynlleth, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 5 Star
  • Special OfferUp to 20% off Special Offer Discount - selected dates

You can book this property from:

  • £1,518 per week
  • £217 per night
  • 5 Star

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Twb poeth
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd o'r afon
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau king/super-king
  • 1 gwely dwbl
  • 4 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 4 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Balconi
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Cartref trawiadol sy’n berffaith ar gyfer grwpiau mawr ac aduniadau teuluol. Tŷ pâr gyda chyfleusterau twb poeth, stôf goed, golygfeydd anhygoel, ac mewn lleoliad hynod gyfleus. O fewn pellter cerdded i fwyty/tafarn bentref a thref farchnad Machynlleth (prifddinas hynafol Cymru), ac o fewn 10 milltir i draethau hardd, Parc Cenedlaethol Eryri a llawer mwy.

Llawr gwaelod

Cegin deuluol helaeth gydag unedau modern, popty trydan mawr, peiriant golchi llestri, oergell/rhewgell a pheiriant golchi dillad. Mynediad cyfleus i’r tu allan gyda lle i eistedd, ardal barbaciw a twb poeth.

Ystafell fwyta gyda bwrdd derw mawr a chadeiriau i 10, wedi ei leoli o flaen ffenestr sy’n gwneud y mwyaf o’r golygfeydd godidog. Llyfrgell gyda dewis o lyfrau, mapiau a gemau ar gyfer plant ac oedolion.

Lolfa groesawus gyda ffenestr fawr arall, stôf goed a theledu 50” gyda ‘freeview’ a chwaraewr DVD. Dwy soffa ledr, bwrdd coffi isel a llawr pren.

Ystafell gotiau gyda toiled.

Llawr Cyntaf

Tair llofft ddwbl, i gyd gyda teledu ar y wal, cwpwrdd dillad, bwrdd gwisgo gyda stol, a set o droriau. Tywelion a sebon Cymreig, sydd wedi ei wneud yn lleol, ym mhob llofft.

Llofft 1 - Ystafell helaeth gyda gwely maint king, en-suite gyda cawod a thoiled. Golygfeydd o’r ardd gefn

Llofft 2 - Llofft fawr gyfforddus gyda gwely maint king, en-suite gyda cawod a thoiled, a golygfeydd anhygoel i lawr yr afon Ddyfi

Llofft 3 - Llofft ddwbl hardd gyda’r un olygfa â llofft 2

Ystafell ymolchi deuluol - bath Spa modern lle gellir ymlacio a chawod uwchben, basn a thoiled

Ail Lawr

Ardal eang gyda teganau i blant, bwrdd a chadeiriau

Llofft 4 a 5 - dwy ystafell yn yr atig, y ddwy wedi eu gosod allan gyda dau qwely sengl.

Gardd

Wedi ei amgylchynu gan dir a gerddi mae’r llety hardd hwn yn cynnig y lleoliad delfrydol i ymlacio a mwynhau golygfeydd o’r afon Ddyfi. Ceir dodrefn gardd ar gyfer 10 o westeion, barbaciw nwy a twb poeth. Lawnt gaeedig gyda rhai teganau tu allan.

Mae’r ardd ffrynt helaeth ar fwy nag un lefel, sydd yn gweddu yn naturiol i’r tirwedd anhygoel.

Gwybodaeth ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys cacennau cartref a chyflenwad cychwynnol o goffi, te, siwgr, llaeth, olew yr olewydd, a perlysiau sych
  • Trydan a gwres canolog yn gynwysedig
  • Mae'r llety hwn gyda cyflenwad dwr ei hun sy'n cael ei brofi a'i ffiltro
  • Darperir dillad gwelyau, tywelion llaw a bath
  • 3 sychwr gwallt ar gael
  • Coed ar gyfer y stôf dân, a nwy ar gyfer y Barbaciw yn gynwysedig, yn rhad ac am ddim
  • Sgrîn dân ar gael os oes gennych blant ifanc yn eich grŵp
  • Cot teithio, cadair uchel a gât i’r staer ar gael. Rhaid dod â dillad eich hun i’r cot
  • Tabledi i’r peiriant golchi llestri ac offer glanhau sylfaenol ar gael
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu
  • Man parcio preifat ar gyfer hyd at 5 car
  • Garej gyda clo ar gyfer beiciau
  • Co-op yw’r archfarchnad lleol sydd yn darparu ar gyfer eich holl anghenion bwyd

Location

Mae Plas Rhiwlas yn gartref sydd wedi ei leoli yn awyrgylch ddarluniadwy yr afon Ddyfi. Mae’r llety helaeth hwn, gyda chyfleusterau twb poeth, o fewn tiroedd preifat, ac o fewn pellter cerdded i dafarn/bwyty ym mhentref Derwenlas. Mae’n cynnig golygfeydd panoramig sydd yn ymledu yn naturiol o waelod yr ardd.

Wedi ei leoli ar godiad uwchben yr Afon Ddyfi, ac o fewn 1.5 milltir i dref farchnad hanesyddol a phrysur Machynlleth. Yn cael ei hadnabod fel Prifddinas Hanesyddol Cymru, mae Machynlleth yn cynnig digonedd o siopau unigryw, bwytai, caffis, bwytai prydau parod, ynghyd ag ystod o gyfleusterau megis archfarchnad, garej, banciau ayb. Mae hefyd yn gartref i’r farchnad stryd hynaf ym Mhrydain sy’n cael ei chynnal bob dydd Mercher, a MOMA Cymru sydd yn arddangos celfyddyd modern Cymreig. Mae llwybr cerdded/beicio yn arwain o bentref Derwenlas i dref Machynlleth.

Mae digon o fannau bwyta gwych yn yr ardal, gan gynnwys y Llew Du (Black Lion) ar stepen eich drws; y Pizzeria a Bistro Number 21 ym Machynlleth; Glan yr Afon a’r Garth ym Mhennal (6 milltir); bwyty’r Sea Breeze yn Aberdyfi (12 milltir); ac am ychydig mwy o steil, y bwyty seren Michelin yn Ynyshir. Ceir hefyd ddewis o dafarndai gwych ym Machynlleth, gan gynnwys y Llew Gwyn gyda’i ystod o gwrw.

Mae Plas Rhiwlas yn agos i draethau hardd a thref brifysgol Aberystwyth, ac yn fan delfrydol i ymweld â hyfrydwch Parc Cenedlaethol Eryri ac arfordir Ceredigion. Mae rhai o’r atyniadau gerllaw yn cynnwys Gwarchodfa RSPB Ynyshir (lleoliad diweddar rhaglen deledu ‘Springwatch’), Canolfan y Dechnoleg Amgen, a Labyrinth y Brenin Arthur (anturiaeth tanddaearol). Mae Prosiect Gweilch Dyfi a rheilffordd gul Talyllyn hefyd yn cynnig diwrnodau allan gwych. Ar gyfer profiad hollol wahanol, beth am fentro i Blaenau Ffestiniog am antur ar y Zip Wire neu Bounce Below.


Cerdded

  • Gellir cael mynediad i lwybr cerdded o du allan y llety
  • Llwybr Glyndwr - llwybr hir yng Nghanolbarth Cymru gafodd statws Llwybr Cenedlaethol yn y flwyddyn 2000. Ymunwch â’r llwybr 0.5 milltir o’r llety
  • Mae Llwybr Dyffryn Dyfi yn dilyn yr Afon Ddyfi o’r aber yn Aberdyfi i’r tarddiad ar gopa Aran Fawddwy, ac i lawr yn nol ar ochr ddeheuol yr afon drwy Fachynlleth ac i lawr i’r Borth. Gellir ymuno â’r llwybr ym Machynlleth (1.5 milltir)
  • Mynydd Cader Idris - 3 prif lwybr yn cychwyn o Minffordd (10 milltir), Abergynolwyn (13.5 milltir) a Dolgellau (17 milltir)

Beicio

  • Gellir cael mynediad i’r llwybr beicio i Machynlleth o du allan y llety (0 milltir)
  • Beicio Mynydd Dyfi - 4 taith gylchol y gellir ymuno â nhw ym Machynlleth (1.5 milltir)
  • Llwybr Mawddach - yn addas ar gyfer pob oedran. Yn berffaith ar gyfer beicio, cerdded a defnyddwyr cadair olwyn - Dolgellau i Abermaw (17 milltir)
  • Coed-y-Brenin - Canolfan Beicio Mynydd - yn addas ar gyfer pob oedran (24 milltir)

Pysgota

  • Mae’r Afon Ddyfi yn cynnig pysgota gwych ac yn enwog am frithyll brown, eog a brithyll y mor (angen trwydded) (0 milltir)
  • Pysgota môr yn Aberdyfi (12 milltir) ac Aberystwyth (16 milltir)

Golff

  • Clwb Golff Machynlleth - cwrs golff 9 twll (2 milltir)
  • Clwb Golff Aberdyfi - cwrs golff 18 twll (12 milltir)
  • Clwb Golff y Borth - cwrs golff 18 twll (12 milltir)

Traethau

  • Ynyslas - traeth braf ar ochr ddeheuol aber yr Afon Ddyfi, wedi ei amgylchynu gan dwyni tywod. Caffi a parcio ar y traeth (10 milltir)
  • Aberdyfi - traeth tywod hir ar ochr ogleddol aber yr afon Ddyfi. Cyrchfan gwyliau glan y môr gyda digonedd o siopau, caffis a bwytai (12 milltir)

Chwaraeon Dŵr

  • Chwaraeon Dŵr yn Aberdyfi yn cynnwys hwylio, hwyl fyrddio, rhwyfo, canŵio, pysgota a tripiau cychod (12 miltir)

Marchogaeth

  • Canolfan Farchogaeth Rheidol - dwy arena farchogaeth llawn maint wedi eu goleuo - un tu mewn ac un tu allan, cwrs neidio a thrawsgwlad, a merlota gwych o amgylch Cwm Rheidol (17 milltir)