- £519 per week
- £74 per night
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- 1 Pet
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Pecyn croeso
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Parcio ar y stryd
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
O fewn pellter cerdded i bob cyfleuster gan gynnwys bwytai gwych, caffis a siopau unigryw, mae’r bwthyn hwn sy’n llawn cymeriad yn cynnig llety croesawgar i chi ym Machynlleth, sef tref farchnad fechan yn Nyffryn Dyfi hyfryd. Mae’r ardal yn rhan o Fïosffer Dyfi sydd wedi’i ddynodi gan UNESCO, ac mae hefyd yn borth deheuol i Barc Cenedlaethol Eryri. Mae Ysgubor Newydd yn enghraifft brin o adeilad canoloesol trefol, ac mae’n lle gwych i fynd i fwynhau prifddinas hynafol Cymru. Mae’n ganolog i ogledd, canolbarth a de Cymru gyda chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwych o bob cyfeiriad.
Llawr Gwaelod
Mae’r llety hwn ym Machynlleth yn llawn cymeriad, ac mae’n eich croesawu gyda chyntedd mawr sy’n arwain i’r ystafell fyw ar y llawr cyntaf, a’r ddwy lofft a’r ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod.
Ystafell wely 1 – Gwely dwbl gyda chypyrddau a lampau wrth ochr y gwely. Rheilen ddillad a chist ddillad.
Ystafell wely 2 – Ystafell wely â dau wely sengl maint llawn. Mae cypyrddau wrth ochr y gwely â lampau arnynt, a chwpwrdd dillad mawr â droriau. Simdde fawr nodweddiadol (addurn yn unig).
Ystafell ymolchi – Bath gyda chawod drosto, tŷ bach, basn ymolchi a rheilen cynhesu tyweli.
Llawr Cyntaf
Ystafell cynllun agored fawr sy’n defnyddio llawr cyntaf y bwthyn i gyd.
Cegin – Peiriant golchi llestri, peiriant golchi / sychu dillad, microdon a thegell, oergell, hob nwy a ffwrn drydan.
Man bwyta – Bwrdd bwyta gyda lle i hyd at 6 o westeion.
Lolfa – 2 soffa gyfforddus o flaen tân trydan gydag effaith fflam a lampau darllen. Teledu a chwaraewr BluRay / DVD.
Y Tu Allan
Mae’r bwthyn i lawr stryd dawel (lôn sengl), ac mae o fewn pellter cerdded i bopeth sydd gan Machynlleth i’w gynnig. Mae hyn yn cynnwys tir y Plas sy’n cynnwys gerddi addurniadol, mannau picnic, man chwarae plant a llwybrau cerdded hyfryd.
Ceir caffi / deli rownd y gornel o’r bwthyn hefyd ac mae digon o gaffis eraill, ystafelloedd te, bwytai a thafarndai croesawgar o gwmpas y dref.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Mae’r pecyn sy’n eich croesawu yn cynnwys te a choffi, llaeth a siwgr, cacen a naill ai botel o win coch/gwyn neu 'fruit juice'.
- Gwres a thrydan yn gynwysedig.
- Darperir dillad gwely, a thyweli bach a mawr.
- Darperir 1 sychwr gwallt.
- Wi-fi ar gael.
- Mae cot babi, cadair uchel a giatiau ar ben ac ar waelod y grisiau ar gael ar gais. Dewch â’ch dillad gwely eich hun ar gyfer y cot os gwelwch yn dda.
- Croesewir 1 anifail anwes am ddim.
- Parcio am ddim drws nesaf i’r bwthyn (6yh – 8yb), neu yn y maes parcio y tu ôl i Moma Machynlleth ar bob adeg arall (200 llath o’r bwthyn) – am ddim hefyd.
- Mae’r eitemau eraill sydd ar gael i chi yn cynnwys:.
- Cegin: papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi peiriant golchi llestri, cadachau llestri a/neu sgwrwyr newydd, ffoil a glynlen/cling ffilm
- Ystafell ymolchi:sebon llaw a 2 rolyn o bapur ym mhob tŷ bach.
- Cynnyrch glanhau cyffredinol:cannydd, glanhawr cawod, hylif gwrthfacteria ac ati.