- £1,311 per week
- £187 per night
- 11 Guests
- 6 Bedrooms
- 5 Bathrooms
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Tân agored neu stôf goed
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 3 o welyau king/super-king
- 1 gwely dwbl
- 3 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 5 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Mae'r ffermdy traddodiadol hwn wedi ei leoli mewn ardal wledig drawiadol ac wedi ei adnewyddu'n ysblennydd i gadw cymaint o'r nodweddion gwreiddiol â phosib, gan roi cymysgedd hudol o'r hen a'r newydd. Mae yna gerfiadau ar un o'r trawsiau yn y bwthyn hwn ger Llanwrtyd sydd yn dyddio nol i 1678. Yn eistedd ar fryncyn yn edrych allan dros y dyffryn a'r mynyddoedd, dyma lety perffaith ar gyfer aduniad teuluol, grŵp o ffrindiau, neu achlysur arbennig. Fe geir nifer o weithgareddau awyr agored gwych yn yr ardal, yn cynnwys beicio mynydd, seiclo, cerdded, pysgota, ac fe gynhelir nifer o weithgareddau yn nhref fach Llanwrtyd megis Marathon Man vs Horse, Real Ale Wobble, Bog Snorkelling a Ras Cario'r Wraig!
Llawr Gwaelod
Cegin helaeth gyda llawr cerrig, offer yn cynnwys oergell/rhewgell, popty 6 hob Rangemaster, peiriant golchi llestri, meicrodon, tostiwr, bwrdd a cadeiriau.
Ystafell fwyta eang gyda lle i 11 eistedd. Lle tân traddodiadol gyda stof losgi coed. Mae 1678 wedi ei gerfio ar y trawst uwchben y lle tân sydd yn tynnu'n sylw at oedran y llety.
Lolfa gyda teledu a DVD.
Ystafell iwtiliti gyda peiriannau golchi a sychu dillad
Ystafell gydag uned gawod, toiled a basn.
Cyntedd yn arwain at risiau gwreiddiol sydd wedi eu hadnewyddu
Llawr Cyntaf
Ystafell Wely 1 - gwely dwbwl, gydag ystafell gawod ensuite
Ystafell wely 2 - gwely maint king, gydag ystafell gawod ensuite
Ystafell wely 3 - dau wely sengl
Ystafell wely 4 - gwely sengl
Ystafell ymolchi gyda baddon, toiled a basn
Ystafell gydag uned gawod, toiled a basn
Ail Lawr
Ystafell wely 5 - ystafell eang gyda gwely maint king, yn arwain at ardal all gael ei ddefnyddio fel ystafell ddarllen, ail lolfa/ystafell chwarae, gydag ystafell ymolchi ensuite yn cynnwys uned gawod a basn.
Ystafell wely 6 - gwely maint king, mynediad i'r ystafell hon i fyny grisiau arwahan.
Gardd
Lawnt o flaen y llety gyda bwrdd a chadeiriau i gael eistedd allan a mwynhau edrych ar olygfeydd anhygoel o'r mynyddoedd o'ch cwmpas.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Dillad gwelyau a'r holl dywelion yn gynwysedig
- Cot a chadair uchel ar gael, ynghyd â photi a chytleri plastig. Gellir gwneud cais am warchodwr plant. Dewch â'ch dillad eich hun i'r cot.
- DIM anifeiliaid anwes nac ysmygu
- Wifi yn gynwysedig
- Noder fod mynediad i ystafell wely 6 i fyny grisiau sy'n fwy serth na'r arfer
- Cyflenwad cyntaf o goed tân yn gynwysedig (gellir prynu rhagor o goed)
- Coeden Nadolig ac addurniadau yn gynwysedig ar gyfer archebion y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
- Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, llaeth, bara a chacennau. Gellir gwneud cais am fwy os dymunir
- Gellir gwneud cais am gael eich pigo fyny o'r orsaf drên agosaf os dymunir (rhaid trefnu ymlaen llaw)
- Gellir archebu ar y cyd â Llety Llanwrtyd i gysgu cyfanswm o 21