Llanddewi Retreat

Llandrindod Wells, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer15% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer20% off Easter holidays - 22nd March - 11th April
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 5th September 2024

You can book this property from:

  • £508 per week
  • £73 per night
  • 4 Star

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Dringo
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • Tân agored neu stôf goed
  • Twb poeth
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Wedi ei amgylchynu gan fryniau a thir amaethyddol agored, mae'r bwthyn hwn gyda twb poeth yng Nghanolbarth Cymru yn cynnig y fangre ddelfrydol ar gyfer teuluoedd, cyplau neu ffrindiau sy'n chwilio am leoliad gwledig heddychlon. Tawel, diarffordd, heb signal wi-fi na ffôn symudol, dyma'r encil perffaith ar gyfer ymlacio a dadflino. Mae'r ardal yn ddelfrydol ar gyfer cerdded, beicio, pysgota a gweithgareddau awyr agored eraill.

Llawr Gwaelod

Cegin, ardal fwyta a lolfa agored.

Cegin gyda'r holl offer angenrheidiol yn cynnwys oergell gyda rhewgell oddi mewn, peiriant golchi dillad, tostiwr, tegell, meicrodon, popty a hob trydan. Ardal fwyta gyda bwrdd a chadeiriau i 4. Mae yna rewgell maint llawn ar gael at ddefnydd y gwesteion mewn sied gyfagos.

Lolfa gyda stôf losgi coed (darperir un basgedaid o goed), cadeiriau lledr cyfforddus, teledu a chwaraewr DVD.

Ystafell ymolchi - uned gawod, toiled a basn.

Ystafell wely 1 - gwely dwbwl gyda chwpwrdd dillad.

Ystafell wely 2 - ystafell gyda dau wely sengl a storfa.


Tu Allan

Gardd gaeedig. Patio wedi'i orchuddio gyda twb poeth a barbaciw. Lawnt i ochr a chefn y llety, a tharmac yn y ffrynt. Sied (gyda rhewgell). 


Gwybodaeth Ychwanegol

  • Dillad gwelyau, tywelion a sychwr gwallt ar gael  
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig  
  • Dim cot na chadair uchel. Gellir dod â rhai eich hunan   
  • Dim ysmygu    
  • Dim anifeiliaid anwes        
  • Digon o le parcio preifat      
  • Signal ffôn symudol yn gyfyngedig. Weithiau mae'n bosib cael signal ar rai rhwydweithiau drwy gerdded i ben y ffordd       
  • Gall Tesco (ac archfarchnadoedd eraill) ddanfon nwyddau i'r llety     
  • Un basgedaid o goed yn gynwysedig ar gyfer y stôf goed - gellir prynu mwy yn lleol      
  • Darperir y canlynol ar gyfer eich arhosiad yn y llety - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri, clytiau newydd, ffoil, a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon hylif, 1 rholyn papur ar gyfer pob toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol        
  • Mae nant fach o flaen y llety felly dylid goruchwylio plant bach ar bob adeg    

Location

Bwthyn ar ben ei hun mewn mangre diarffordd yng nghanol cefn gwlad. Y llety agosaf yw ffermdy sydd wedi ei leoli tua chwarter milltir i ffwrdd. Mae'r dafarn agosaf 2.5 milltir o Llandewi Retreat, a'r siop agosaf 3 milltir i ffwrdd, gyda siop gymunedol wych yn Llanbadarn Fynydd hefyd.

Mae tref sba Llandrindod 11 milltir i ffwrdd gydag amrywiaeth o siopau lleol, archfarchnad a digon o lefydd i fwyta. Mae'r llyn yn atyniad gwych yn ogystal â'r clwb golff gerllaw. Mae Llanelwedd, a maes y Sioe, ond 15 milltir i ffwrdd, sy'n gwneud y bwthyn hwn yn leoliad delfrydol ar gyfer digwyddiadau ac atyniadau sydd yn mynd ymlaen yno, megis Sioe Amaethyddol Cymru.  

Mae Cwm Elan 14 milltir i ffwrdd ac mae'n cynnwys 72 milltir sgwar o harddwch gyda chronfeydd dwr a digon o weithgareddau awyr agored, yn cynnwys cerdded, beicio, pysgota ac hyd yn oed tripiau saffari. Mae'r ganolfan bwydo barcutiaid coch ger Rhaeadr yn atyniad poblogaidd arall.

Os am fynd i lan y môr am y dydd, fe ellir cyrraedd arfordir Bae Ceredigion gyda'i draethau gwych mewn ychydig dros awr. Mae Bae Ceredigion yn enwog am ei ddolffiniaid, a gellir mynd ar drip mewn cwch i'w gweld. I'r dwyrain, mae nifer o drefi'r ffîn o fewn taith awr, gan gynnwys Henffordd a Llwydlo, y ddwy dref yn cynnig diwrnod allan diddorol gyda mynediad rhwydd i ac o'r Canolbarth.

Golff

Mae Clwb Golff Llandrindod yn edrych allan dros y dref, yn 5800 llath o hyd a par 69 (11 milltir)   

Gwylio Adar

Mae'n werth ymweld â Chanolfan Fwydo Barcutiaid Coch yn Rhaeadr ble gellir gweld yr adar hudolus hyn yn hedfan yn yr awyr (12 milltir)    

Marchogaeth

Gellir archebu reidiau marchogaeth drwy Westy'r Lion Royal yn Rhaeadr, gyda nifer o deithiau gwahanol yng Nghwm Elan a chefn gwlad o gwmpas (12 milltir)     

Cerdded

Gellir cerdded yn uniongyrchol o'r bwthyn ar hyd nifer o lwybrau a thir comin agored (0.1 milltir)    

Beicio

Mae'r ffyrdd gwledig gerllaw yn ddelfrydol ar gyfer beicio (0.1 milltir)   

Mae yna lwybrau beicio mynydd sy'n addas ar gyfer pob gallu, yn cynnwys 2 o'r llwybrau MTB gorau yn y DU yn Rhaeadr (12 milltir)     

Pysgota

Nifer o lynnoedd ac afonydd i bysgota'n lleol. Gellir cael trwyddedau dyddiol o glybiau lleol (4 milltir)     

Gweithgareddau Dwr

Mae Cwm Elan yn cynnig canwio, caiacio a rafftio (14 milltir)