Blaenglanhanog

Caersws, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 4 Star
  • Bwthyn hunan ddarpar hyfryd yng Nghanolbarth Cymru - diarffordd, gyda stôf goed, golygfeydd anhygoel a phwll nofio 'diddiwedd'.

You can book this property from:

  • £410 per week
  • £59 per night
  • 4 Star

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Golff

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:30

Description

Mae Blaenglanhanog yn cynnwys nifer fawr o’r nodweddion y byddech yn ei ddisgwyl gan fwthyn gwyliau uchel ei safon yng Nghymru - wifi, stôf llosgi coed, caniatau cwn a golygfeydd gwefreiddiol o safle gwledig heddychlon a hardd. Gallwch hefyd wneud defnydd o bwll nofio 'Endless' sydd wedi ei leoli ar y safle am ffî ychwanegol. Hen ffermdy i borthmon yw'r bwthyn hunanarlwyo 250 mlwydd oed hwn a saif 1,000 o droedfeddi i fyny ym Mynyddoedd y Cambrian ger pentref Carno - man cychwyn Laura Ashley (siop leol dda, swyddfa’r post, eglwys a thafarn). Cadwch lygad am y barcud coch, mentrwch i Goedwig Hafren neu ymwelwch â Chronfa Ddwr ac Argae Clywedog a threfi marchnad hyfryd Canolbarth Cymru.

Llawr Gwaelod

O gyntedd y bwthyn, rydych yn camu i mewn i ystafell fyw gysurus gyda thrawstiau derw, carped a phentan mawr yn cynnwys stôf llosgi coed. Ceir dwy soffa yn eistedd 2 a 3 ac un gadair yn ogystal â chlustogau a chyrtens Laura Ashley. Teledu sgrin fflat, DVD, CD a radio. Grisiau yn arwain i’r llawr nesaf.

Trwodd i’r dde ceir ystafell fwyta fechan gyda thrawstiau, bwrdd derw a chadeiriau i 6 o bobl. Ffenestr yn edrych allan ar yr ardd a theils chwarel gwreiddiol ar lawr.

Mae cegin olau yn y bwthyn gydag unedau derw traddodiadol, sinc ceramig, oergell/rhewgell a phopty trydan. Ceir amrediad helaeth o offer a rac platiau gyda set llestri. Mae iwtiliti wedi ei hatodi i’r gegin, i fyny un gris, gyda microdon, golchwr llestri, sychwr dillad a pheiriant golchi. Ceir cwpwrdd awyru, bwrdd a haearn smwddio a gwresogydd canolog yma hefyd.

Yn yr ystafell ymolchi gwaelod ceir llawr cerrig, rheilen cynhesu tyweli, bath modern siâp “P” gyda chawod drosto. Sinc modern mawr a thoiled.

Mae’r ystafell wely ar y llawr gwaelod yr ochr arall i’r ystafell fyw yn ystafell olau gyda dwy ffenest, un yn edrych dros y dyffryn hardd. Dau wely sengl gyda chwiltiau plu dwbl a gobenyddion newydd. Cwpwrdd dillad, cypyrddau a lampau wrth y gwelyau, cadair siglo a chist ddroriau gyda drych.

Llawr Cyntaf

Ceir dwy ystafell wely ddwbl gysurus iawn i fyny’r grisiau yn y bwthyn hwn. Mae’r ystafell gyntaf yn cynnwys trawstiau gwreiddiol ar y nenfwd, cwpwrdd dillad, cistiau ddroriau â drych yn ogystal â chypyrddau a lampau ger y gwelyau. Mae gan yr ail drawstiau gwreiddiol ar y nenfwd, to panelog cwpwrdd yn y wal, cistiau ddroriau â drych a chypyrddau a lampau ger y gwelyau. Daw’r ddau wely dwbl gyda chwiltiau plu maint king a gobenyddion newydd.

Mae ystafell ymolchi'r llawr cyntaf hefyd â nenfwd trawstiog, llawr teils ac unedau modern gwyn yn cynnwys cawod ar lefel y llawr, toiled a sinc. Rheilen cynhesu tyweli, cabinet, drych a soced eillio yn cael eu darparu hefyd.

Gardd

Gardd amgaeedig tu blaen y bwthyn gydag ardal i eistedd a set patio ar gyfer 6. Mwynhewch y golygfeydd hyfryd dros y dyffryn.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Darperir te, coffi, siwgr a bara brith cartref am ddim.
  • Dillad gwely, tyweli dwylo a bath yn gynwysedig
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig. Y fasged (fawr) gyntaf o goed tân am ddim. Mwy o goed tân ar gael am £4 y fasged.
  • Cot a chadair uchel ar gael ar gais. Dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot.
  • Wi-fi ar gael
  • Caniateir uchafswm o 2 anifail anwes ufudd am ffi fechan o £12 yr anifail. Nodwch nad oes caniatâd i’r anifeiliaid yn yr ystafelloedd gwely nag ar y dodrefn.
  • Parcio i 2 neu 3 o geir
  • Man gwefrio cerbydau trydan sydd am ddim i westeion.
  • Hawdd ei gyrraedd, ¾ milltir oddi wrth yr A470 i fyny ffordd gyhoeddus sy’n terfynu ar y tir. Addas i bobl â mudoledd cyfyngedig ond ddim i gadair olwyn oherwydd y newidiadau yn lefel y llawr gwaelod.
  • Mae Blaenglanhanog yn fwthyn dim ysmygu.
  • Ffeil fawr gyda manylion am weithgareddau ac atyniadau lleol.

Location

Y bwthyn hwn oedd y ffermdy gwreiddiol ar gyfer y tir sydd o’i gwmpas, a chaiff ei amgylchynu gan olygfeydd cefn gwlad a llonyddwch.

Y pentref agosaf yw Carno, sef pentref “Laura Ashley” (1.5 milltir) sydd â siop leol dda, swyddfa bost, eglwys a thafarn, sy’n gwneud prydau bar blasus. Mae’r pentref tua 15 milltir o drefi marchnad Machynlleth, Llanidloes a’r Drenewydd, ac mae gan y tair ohonynt ddigon o siopau annibynnol diddorol a marchnadoedd gwledig da.

Mae’r orsaf reilffordd agosaf 6 milltir o’r bwthyn, gyda chysylltiadau i rannau eraill o Gymru a thu hwnt, ac mae gwasanaeth bws lleol sy’n aros ar gais ar waelod y ffordd.

Mae’r atyniadau diddorol yn yr ardal yn cynnwys y Barcutiaid Coch, Coedwig Hafren, Cronfa Ddwr ac Argae Clywedog, Parc Cenedlaethol Eryri (12 milltir), fferm wynt fwyaf Ewrop a Chanolfan y Dechnoleg Amgen (12 milltir).

Ymhlith y Gweithgareddau poblogaidd yn yr ardal mae Ysgol Rali'r Forest Experience yng Ngharno, ac o fewn rhai milltiroedd mae beiciau modur pedair olwyn, golff, seiclo, saethu colomennod clai, rheilffyrdd cul, gwylio adar, cerdded, hwylio a physgota. Dair milltir o’r bwthyn, mae Machinations, sydd ag arddangosfa modelau symudol, caffi, ardal chwarae i blant a phentref cwningod.

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen o fewn tua 25 munud yn y car, ac mae traethau hardd o fewn cyrraedd hwylus (tua 40 munud). Mae gan Y Drenewydd theatr leol dda, a digon o leoedd i fwyta. Mae gan Fachynlleth a Llanidloes fwytai sydd wedi ennill gwobrau a marchnadoedd gwych ar rai o ddyddiau’r wythnos a’r penwythnos. Mae diddordeb “eco” mawr yn yr ardal, ac mae cyfanfwydydd a bwydydd lleol yn cael lle blaenllaw.

Cerdded

Llwybr Glyndwr – llwybr cerdded hir yng nghanolbarth Cymru a gafodd statws Llwybr Cenedlaethol yn 2000. 3 milltir o’r bwthyn.

Beicio

Llwybr Coedwig Hafren – llwybrau amrywiol sy’n addas i seiclwyr, ychydig y tu allan i dref Llanidloes. 16 milltir

Beicio Mynydd Dyfi – Mae pob llwybr yn cychwyn o Fachynlleth. 15 milltir

Chwaraeon Dwr

Clwb Hwylio Clywedog – llyn 6 milltir, agored i bob math o gychod heb beiriant, o ganw i fwrdd hwylio i ddingi a chriwser. 17 milltir

Golff

Cwrs Golff Maesmawr – cwrs golff 9 twll a maes ymarfer gyda 16 bae. 6 milltir

Cwrs Golff Llanidloes – cwrs golff 9 twll. 16 milltir