- £437 per week
- £62 per night
- 6 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Pysgota
- Golff
Nodweddion Arbennig
- Ystafell chwaraeon
- Sawna
- Pwll nofio
- Cwrt tenis
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
- 1 gwely soffa
Cegin
- Peiriant golchi llestri
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Barbaciw
- Parcio preifat
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Gyda pwll nofio, llyn pysgota, maes pytio, cwrt tenis, parc chwarae, llwybrau cerdded a beicio gwych, i gyd ar y safle neu gerllaw, mae'r llety hunan ddarpar hwn yng Nghanolbarth Cymru y lle perffaith i fod yn anturus, neu i eistedd yn nol ac ymlacio wrth fwynhau'r tirwedd anhygoel o'ch cwmpas. Wedi ei leoli ar gydadeilad bychan mewn dyffryn tawel, mae'r llety hwn ar y llawr cyntaf ac yn cynnwys ystafell chwaraeon gyda bwrdd pŵl, bwrdd tenis, bwrdd dartiau, a llwer mwy.
Mae'r cydadeilad yn cynnwys nifer o fythynnod sydd yn rhannu'r cyfleusterau, ond eto yn leoliad tawel i fynd ar eich gwyliau. Mae'r tirwedd rhyfeddol yn rhoi teimlad o harddwch naturiol.
Yn cysgu 4 (gyda gwely soffa i gysgu 2 westai ychwanegol os oes angen).
Llawr Gwaelod
Lolfa, cegin ac ardal fwyta cynllun agored gyda bwrdd a chadeiriau i eistedd 4.
Cegin gyda'r holl offer yn cynnwys popty trydan, hob, oergell, tostiwr, peiriant golchi llestri, meicrodon, a tegell.
Lolfa gyda teledu, cadeiriau cysurus, gwely soffa i gysgu 2 westai ychwanegol os oes angen.
Ystafell wely 1 - gyda gwely dwbwl.
Ystafell wely 2 - gyda dau wely sengl.
Ystafell ymolchi gyda baddon a chawod oddi mewn, basn a thoiled.
Tu allan
Bwrdd picnic ac aceri o dir i fwynhau a darganfod.
Ystafell chwaraeon (yn cael ei rhannu) yn cynnwys bwrdd pŵl, bwrdd tenis, DVDs, llyfrau a bwrdd dartiau.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgwr, llaeth a bisgedi
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- Haearn a bwrdd smwddio ar gael
- Trydan a gwres yn gynwysedig
- Mynediad i'r llety i fyny grisiau
- Cadair uchel a chot trafeilio ar gael os dymunir - gellir gwneud cais pan yn archebu. Dewch â'ch dillad eich hun i'r cot.
- Dim Wi-fi yn y bwthyn ond fe ellir cael Wi-fi yn yr ystafell chwaraeon/ardal ddarllen
- Mae derbynfa yn y cyfadeilad sydd ar agor tan 5.00yh bob dydd
- Mae signal ffonau symudol yn wan, gyda dim signal ar gyfer rhai rhwydweithiau. Mae ffôn llinell tir ar y safle rhag ofn argyfwng
- Darperir y canlynol ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant golchi llestri, clytiau newydd, ffoil, ffilm glynu; Ystafell Ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur toiled ar gyfer pob toiled; Cynnyrch glanhau cyffredinol
- Mae'r pwll nofio ar agor rhwng 9yb a 7yh bob dydd
- Mae Asda yn danfon nwyddau i'r bwthyn gyda digon o gyflenwyr lleol yn nhref Llanfair ym Muallt gerllaw
- Dim ysmygu tu mewn a dim anifeiliaid anwes