- £635 per week
- £91 per night
- 8 Guests
- 4 Bedrooms
- 4 Bathrooms
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 3 o welyau dwbl
- 2 o welyau sengl
- 1 gwely soffa
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 4 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Ystafell wlyb
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
- Ystafell wlyb
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Wedi ei leoli yng nghefn gwlad hyfryd, ychydig tu allan i’r dref mae’r llety 5 seren hwn yn Llanfair-ym-Muallt yn berffaith i deulu neu ffrindiau ddod at ei gilydd. Gyda thrwydded bysgota leol yn gynwysedig a nifer o atyniadau, gweithgareddau a digwyddiadau’n gyfagos mae’r bwthyn yn le perffaith i fod yn weithredol yn yr awyr iach neu er mwyn ymlacio a chael seibiant.
Yn yr ystafell fawr eang ar gynllwyn agored mae’r gegin yn arwain at yr ardal fwyta a’r ardal fyw fawr. Gyda nifer o’r trawstiau gwreiddiol a rhai nodweddion gwreiddiol yn dyddio'n ôl 1784 mae’r adeilad wedi ei adnewyddu i fwthyn ecogyfeillgar gyda soleri panel a phwmp gwres aer. Mae gwres o dan y llawr ar y llawr gwaelod a gwres canolog ar y llawr cyntaf.
Penwythnos Sul y Mamau – Blodau a siocled am ddim i westai
Llawr Gwaelod
Ystafell fyw – Soffas lledr cyfforddus wedi eu gosod o amgylch stôf losgi coed fawr (pren yn gynwysedig).
Teledu freeview a DVD (gellir benthyg DVD’s gan y perchnogion). Mae hefyd amrywiaeth eang o lyfrau, gemau a syniadau o bethau i’w gwneud yn yr ardal.
Cegin - Wedi ei dylunio’n chwaethus yn cynnwys peiriant golchi llestri, oergell fawr, popty trydan, micro-don, cogydd araf a thostiwr.
Bwrdd bwyta gyda lle i 8 person.
Ystafell wely llawr gwaelod – Ystafell fawr sy’n cynnwys gwely dwbl a gwely soffa dwbl er mwyn cysgu 2 westai ychwanegol.
Ystafell ymolchi llawr gwaelod – Ystafell wlyb sy’n addas ar gyfer yn anabl, toiled a chawod.
Ystafell iwtiliti – yn cynnwys rhewgell maint llawn, peiriant golchi a sinc.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 2 – Mae’r brif ystafell wely hon yn ystafell fawr gyda golygfeydd ar draws Mynydd y Garth ac Aberedw. Gwely dwbl gyda chwpwrdd y gellir cerdded i mewn iddo, cawod ensuite a thoiled.
Prif ystafell ymolchi – Bath (dim cawod) a thoiled.
Ystafell wely 3 - Ystafell wely ddwbl fawr gyda chwpwrdd, yn arwain i ensuite gyda chawod a thoiled.
Ystafell wely 4 – Ystafell wely twin (2 wely sengl), cwpwrdd, ffenestr a ffenestr yn y to.
Gardd
Gardd a lawnt amgaeedig gyda bwrdd gardd a dodrefn. Wedi ei amgylchynu gan goed a’i osod uwch afon fach (Nantgwyn). Mae’n hyfryd eistedd tu allan a mwynhau s?n naturiol yr afon a’r bywyd gwyllt. Mae’r haul yn yr ardd am ran fwyaf o’r dydd.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Lleiniau gwely a thywelion dwylo / bath yn gynwysedig
- Cot a chadair uchel ar gael (dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot)
- Gwres o dan y llawr ar y llawr cyntaf
- Dim ysmygu nac anifeiliaid anwes
- Logiau yn gynwysedig
- Gwely soffa (dwbl) ar gael am gost ychwanegol o £25 y person.
- Wi-fi ar gael
- BBQ ar gael
- Coeden Nadolig ac addurniadau ar gyfer archebion dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd
- Pecyn croeso am ddim yn cynnwys pethau fel te, coffi, llefrith a chacennau
- Disgownt ar gael am lai o bobl
- Mynediad i’r anabl
- Cludiant siopau ar gael gan Asda, Tesco a Sainsbury’s