Bwthyn Blaencar

Brecon, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 4 Star
  • Awaiting Grading
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
  • Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
  • Special Offer15% May Half term - 24th May - 31st May 2024
  • Special Offer15% offer 28th June – 18th July
  • Special Offer10% offer w/c 19th July
  • Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
  • Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August

You can book this property from:

  • £511 per week
  • £73 per night
  • 4 Star
  • Awaiting Grading

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Awyr Agored

  • Barbaciw

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Bwthyn clyd a rhamantus i 2 ar fferm weithiol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Milltir o'r pentref agosaf ble gellir dod o hyd i ddwy dafarn leol. Mae nifer o lwybrau a lonydd i gerdded a beicio gerllaw'r bwthyn, neu beth am ymlacio a mwynhau golygfeydd cefn gwlad. Mae'r bwthyn yn cynnwys hanner milltir o bysgota eog a brithyll preifat ar yr afon Wysg, sy'n ei wneud yn leoliad delfrydol ar gyfer pysgotwyr brwd. Dyma'r bwthyn perffaith i 2 ym Mannau Brycheiniog.

Llawr Gwaelod

Cegin/ardal fwyta a lolfa ar gynllun agored gyda soffas cysurus, bwrdd a chadeiriau, teledu, DVDs a dewis o lyfrau a gemau.

Cegin gyda'r holl offer yn cynnwys meicrodon, peiriannau golchi llestri a golchi dillad, oergell/rhewgell, popty a hob trydan.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely gyda gwely mawr pedwar postyn. Uned ymolchi a chwpwrdd dillad. 

Ystafell ymolchi yn cynnwys baddon a chawod oddi mewn, toiled a basn.

Tu Allan

Patio ac ardal graeanog yn edrych allan dros buarth y fferm, gyda bwrdd a chadeiriau. Nifer o aceri o dir fferm a chefn gwlad i'w mwynhau.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Dillad gwely a thywelion yn gynwysedig   
  • Pecyn croeso yn cynnwys cynnyrch cartref a lleol  
  • Dewis da o lyfrau a gemau  
  • Storfa beiciau diogel  
  • Wifi ar gael
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig  
  • Dim ysmygu   
  • Dim anifeiliaid anwes   
  • Parcio tu allan y bwthyn  

Location

Bwthyn rhamantus sy'n ffinio â'r ffermdŷ ar fferm weithiol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'r fferm ond milltir o bentref Defynnog sydd â dwy dafarn leol, y Tanners a'r Old Yew Tree. Mae hefyd yn gartref i Ganolfan Genedlaethol Welsh Rarebit sydd yn gweini bwyd ardderchog. Mae Pont Senni, pentref ar yr afon Wysg, hefyd gerllaw, gyda siop nwyddau, swyddfa bôst, garej a nifer o dafarndai.

Mae tref farchnad Aberhonddu 8 milltir i ffwrdd gyda siopau gwych yn gwerthu cynnyrch lleol. Mae'r tŷ cychod ar yr afon Wysg yn leoliad poblogaidd ar gyfer llogi pedalos a chychod rhwyfo. Dyma hefyd gychwyn Llwybr y Tâf (Taff Trail), llwybr beiciau 56 milltir o hyd sy'n arwain yr holl ffordd lawr i Gaerdydd. 

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd y cyntaf yn y DU i dderbyn statws Geopark fel rhan o Rwydwaith Byd-eang Geoparks UNESCO. Mae hefyd yn warchodfa swyddogol Awyr Dywyll, ac ar noson glir, cewch eich syfrdanu gan yr awyr seriog. Mae atyniadau yn yr ardal yn cynnwys rhaeadrau anhygoel Ystradfellte, Rheilffordd Mynydd Aberhonddu, ac Ogofau Dan yr Ogof.

Mae Caerdydd yn gyrchfan poblogaidd, ac o fewn 40 milltir. O ddigwyddiadau chwaraeon yn y stadiwm i siopa gwych, mae yma rywbeth i bawb.

Cerdded

Mae digon o lwybrau cerdded ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn cynnwys nifer y gellir cael mynediad iddynt yn uniongyrchol o'r bwthyn (0.1 milltir)    

Pysgota

Mae pysgota preifat am eog a brithyll ar yr afon Wysg yn gynwysedig gyda'r bwthyn (2 filltir)   

Beicio

Beicio gwych ar hyd milltiroedd o lonydd gwledig tawel (0.1 milltir)    

Nifer o lwybrau gerllaw ac hefyd Parc Beiciau Cymru sydd ond 20 munud i ffwrdd (20 milltir)   

Marchogaeth

Mae Gilfach Equitation yn cynnig trecio, reidio mynyddig, gwersi a chyrsiau marchogaeth (3.2 milltir)   

Golff

Clwb Golff Aberhonddu - cwrs 9 twll gyda golygfeydd o'r mynyddoedd yn cynnwys Pen y Fan (8 milltir)   

Chwaraeon Dŵr

Mae digon o ddewis ar gyfer y rheiny sy'n hoff o chwaraeon dŵr gyda'r afon Wysg yn cynnig canŵio dŵr gwyn (3 milltir) a Llyn Llangors (16 milltir)