- £643 per week
- £92 per night
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Twb poeth
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Parcio preifat
- Pwynt gwefru modur trydan
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Mae Pen Tarw Uchaf yn ffurfio hanner hen ysgubor wedi'i hadnewyddu ar fferm weithiol y perchennog, yng nghanol bryniau hardd i'r gogledd o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, 8 milltir o Aberhonddu, 5.5 milltir o Pontsenni a 7 milltir o Trecastell. Llwybrau cerdded gwych yn yr ardal a digon i neud ar y safle hefyd!. Mae'r llety yn cysgu 4, gyda parcio ar y safle, dec wedi'i godi i gael mwynhau'r golygfeydd hyfryd a chyfleusterau sy'n cael eu rhannu, yn cynnwys ffram ddringo a siglen plant, tenis bwrdd, pwl a gemau eraill.
Mae'r llety hwn gyda wifi, stôf goed, gwres canolog, a pwynt gwefru car trydan.
Llawr Gwaelod:
Cegin gydag unedau, popty trydan a hob serameg, meicrodon, oergell/rhewgell, peiriannau golchi llestri a golchi dillad; bwrdd a phedair cadair. Ystafell boeler sy'n ddefnyddiol ar gyfer sychu cotiau ac esgidiau.
Ystafell fwyta gyda thrawstiau yn y nenfwd, llawr teils, bwrdd bwyta a chadeiriau i eistedd 8.
Ystafell wely gyda dau wely sengl a chwpwrdd dillad.
En-suite gydag uned gawod, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.
Grisiau yn arwain o'r ystafell fwyta i'r llawr cyntaf.
Llawr Cyntaf:
Lolfa gyda thrawstiau yn y nenfwd, dwy soffa, dwy gadair gyfforddus, stof goed, teledu Freesat, chwaraewr DVD, telesgop; drysau gwydr yn arwain allan i'r dec a'r patio.
Ystafell wely dwbwl, cwpwrdd dillad, nenfwd ar osgo i un ochor sy'n golygu rhywfaint o le cyfyngedig.
En-suite gyda bath, toiled, basn, pwynt eilliwr a rheilen sychu tywelion.
Tu Allan:
Bwrdd a chadeiriau ar lefel y llawr gwaelod gyda twb poeth dan do; patio a dec ar lefel y llawr cyntaf gyda bwrdd a chadeiriau i fedru mwynhau'r golygfeydd o gefn gwlad. Barbaciw nwy.
Ffram ddringo a siglenni plant; bwrdd tenis ayb mewn adeilad fferm - i gyd yn cael eu rhannu.
Parcio ar gyfer 1 i 2 gar ar yr iard tu allan, gyda pwynt gwefru car trydan.
Trydan a gwres canolog yn gynwysedig; basgedaid gychwynnol o goed, yna gellir cael rhagor gan y perchennog am bris ychwanegol
Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
Cot, cadair uchel a gât i'r grisiau ar gael