- £395 per week
- £56 per night
- 3 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- 1 Pet
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 1 gwely sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Wedi ei leoli ar fferm weithiol, mae’r bwthyn hwn ym Mannau Brycheiniog sy’n caniatáu anifeiliaid yn rhan o adnewyddiad sydd wedi ennill gwobrau. Gyda nifer o weithgareddau cerdded, beicio a mwy ger llaw, mae’r lleoliad yn un delfrydol i gymryd mantais o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae opsiwn i deuluoedd mwy neu grwpiau i aros mewn mwy nag un llety ar y safle.
Llawr Gwaelod
Ystafell fyw ac ardal fwyta ar gynllwyn agored gyda soffa lledr gyfforddus a bwrdd bwyta gyda lle i 4. Teledu a chwaraewr DVD, Blu-ray a Freesat.
Cegin dderw wedi ei gwneud â llaw, sy’n cynnwys popeth sydd ei angen arnoch – hob a phopty trydan, peiriant golchi llestri, oergell/rhewgell fawr a pheiriant golchi dillad.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 1 - Prif ystafell wely ddwbl gyda bath hyfryd sy’n sefyll ar ei ben ei hun, bwrdd gwisgo, cist ddroriau a chwpwrdd.
Ystafell ymolchi chwaethus – yn cynnwys uned gawod, toiled a sinc.
Ystafell wely 2 – Gwely sengl gyda droriau a ffenestr yn y to sy’n ddelfrydol ar gyfer edrych ar y sêr.
Ardal Gardd
Yn nhu blaen y llety mae buarth fferm a pharcio. Mae'r ardd yn cynnwys byrddau a chadeiriau, cadair siglo a barbeciw mawr nwy.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso lleol wrth i chi gyrraedd
- Dim anifeiliaid anwes
- Dillad gwely a thywelion bath wedi'u darparu
- Cot a chadair uchel ar gael. Dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot.
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Digon o le parcio preifat oddi ar y ffordd
- Beiciau mynydd ar gael i'w llogi o'r fferm (£25 am ddiwrnod cyfan neu £20 am hanner diwrnod). Mae modd trefnu i'ch gollwng neu i'ch casglu ar lwybrau cyfagos.
- Lle storio diogel
- Mae'r bwthyn ar dir fferm weithredol. Ni ddylid gadael i blant bach grwydro'r fferm heb oruchwyliaeth.
- WIFI am ddim
- Signal ffôn symudol ar y rhan fwyaf o rwydweithiau
- Pecynnau maldod ac ymlacio ar gael
- Hanner milltir o le pysgota preifat ar Afon Crai (un o isafonydd afon eog byd-enwog Wysg)
- Archfarchnad yn dosbarthu i'r ardal.
- Ni ellir sicrhau signal ffôn symudol ar y rhwydweithiau i gyd
- Hanner milltir o le pysgota preifat ar Afon Crai (un o isafonydd afon eog byd-enwog y Wysg)
- Archfarchnad yn dosbarthu i'r ardal.
- Drws nesaf i Fwthyn Tre-faen mae Llety Llyn y Fan, Bwthyn y Bannau ac Ysgubor y Dderwen. Gellir eu harchebu i gyd i gysgu hyd at 36 person (gan gynnwys gwlâu soffa). Gostyngiad o 10% wrth archebu’r ddau gyda’i gilydd. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
- Enillydd Gwobr Busnes Powys