Llety Llyn y Fan

Brecon, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 5 Star
  • Special OfferUp to 20% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer20% offer on Spring holidays - 12th April - 2nd May

You can book this property from:

  • £1,275 per week
  • £182 per night
  • 5 Star

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Twb poeth

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau king/super-king
  • 1 gwely dwbl
  • 4 o welyau sengl
  • 1 gwely soffa

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Ystafell wlyb

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn
  • Ystafell wlyb

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Mae Llety Llyn y Fan yn fwthyn arbennig a moethus gyda thwb poeth mawr, yn berffaith ar gyfer gwyliau ym Mannau Brycheiniog. Yn sownd i fwthyn arall ac wedi'i adeiladu fel eco-fwthyn gyda golwg ty pren clasurol, mae'n cynnig golygfeydd panoramig ar hyd y cwm ac i fyny tuag at Lyn-y-Fan. Gyda theithiau cerdded o garreg y drws a lle preifat i bysgota mae digon i'w weld ac i'w wneud. Mae Llety Llyn y Fan yn ddelfrydol i grwp mawr o deulu a ffrindiau fwynhau amgylchfyd hyfryd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Wedi’i adeiladu o goed a cherrig traddodiadol Cymreig, dyluniwyd Llety Llyn y Fan i fod mor wyrdd ac eco-effeithlon â phosibl. Ynddo mae boeler coed biomas sy'n defnyddio coed o'r fferm, paneli solar, gwres dan y llawr a system adennill gwres unigryw. Mae'r waliau coed wedi'u gorchuddio yn rhoi teimlad bwthyn unigryw y gall pawb ei fwynhau, ac mae lle i ddau westai arall yn y gwely soffa yn yr ystafell deuluol.

Llawr Gwaelod

Ystafell wely 1 yn cynnwys 2 wely sengl sy’n codi a gostwng. Gellir eu gwthio at ei gilydd gyda phen gwely dwbl (ar gais). Mae'r ystafell hon yn addas i bobl anabl, gyda gwelyau y gallwch eu rheoli yn electronig a theledu HD.

Mae ystafell wlyb fawr ensuite gyda chawod a thy bach. System larwm anabl wedi ei gosod.

Mae'r lolfa yn cynnwys tair soffa fawr gyfforddus, bwrdd pwl, teledu mawr HD, chwaraewr DVD blue ray a gorsaf Ipod. Mae'r drysau patio yn agor allan ar y patio gorllewinol, y twb poeth a'r ardd.

Mae'r gegin yn cynnwys pob cyfleuster, gan gynnwys golchwr/sychwr dillad, peiriant golchi llestri, ac oergell/rhewgell maint llawn.

Ystafell gotiau llawr gwaelod gyda thy bach.

Llawr Cyntaf

Ystafell Wely 2 yw'r brif ystafell wely, gyda gwely maint brenin, teledu HD ac ystafell gawod ensuite â thy bach. Mae golygfeydd trawiadol o'r Mynyddoedd Duon i'w gweld drwy'r ffenestri.

Mae Ystafell Wely 3 yn cynnwys 2 wely sengl a theledu HD.

Ystafell deuluol yw Ystafell Wely 4, gyda gwely maint brenin a gwely soffa dwbl (ar gyfer gwesteion ychwanegol), a theledu HD.

Yn Ystafell Wely 5 mae gwely maint brenin, teledu HD a golygfeydd panoramig dros y Cwm ac uwchlaw'r fferm.

Prif ystafell ymolchi yn cynnwys bath a chawod ar wahân.

Gardd

Twb Poeth mawr wedi'i orchuddio (yn cael ei rannu gyda'r bwthyn drws nesaf). Mae’r mwyafrif o westeion yn gwneud cynlluniau ar ôl cyrraedd ond mae hefyd opsiwn i neilltuo’r twb poeth am slot o 2 awr o flaen llaw am £30 y sesiwn. Ar gael i’w ddefnyddio tan 10pm.

Trampolîn, ffrâm ddringo, llithren, siglen a digon o fannau agored mawr glaswelltog, yn ddelfrydol ar gyfer gemau teuluol a chwaraeon.

Lle patio gyda bwrdd, cadeiriau a barbeciw (golosg).

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso lleol wrth i chi gyrraedd
  • Dim anifeiliaid anwes
  • Dillad gwely a thywelion bath wedi'u darparu
  • Cot a chadair uchel ar gael. Dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot.
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig
  • Digon o le parcio preifat oddi ar y ffordd
  • Addas i bobl anabl gyda rampiau mynediad a rheiliau
  • Beiciau mynydd ar gael i'w llogi o'r fferm (£25 am ddiwrnod cyfan neu £20 am hanner diwrnod). Mae modd trefnu i'ch gollwng neu i'ch casglu ar lwybrau cyfagos.
  • Lle storio diogel
  • Mae'r bwthyn ar dir fferm weithredol. Ni ddylid gadael i blant bach grwydro'r fferm heb oruchwyliaeth.
  • WIFI am ddim
  • Signal ffôn symudol ar y rhan fwyaf o rwydweithiau
  • Pecynnau maldod ac ymlacio ar gael
  • Hanner milltir o le pysgota preifat ar Afon Crai (un o isafonydd afon eog byd-enwog Wysg)
  • Archfarchnad yn dosbarthu i'r ardal.
  • Ni ellir sicrhau signal ffôn symudol ar y rhwydweithiau i gyd
  • Hanner milltir o le pysgota preifat ar Afon Crai (un o isafonydd afon eog byd-enwog y Wysg)
  • Archfarchnad yn dosbarthu i'r ardal.
  • Drws nesaf i Lety Llyn y Fan mae Bwthyn y Bannau ac mae Ysgubor y Dderwen a Bwthyn Tre-faen ar yr un fferm hefyd. Gellir eu harchebu i gyd i gysgu hyd at 36 person (gan gynnwys gwlâu soffa). Gostyngiad o 10% wrth archebu’r ddau gyda’i gilydd. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
  • Enillydd Gwobr Busnes Powys

Location

Bannau Brycheiniog yw’r Parc Cenedlaethol cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael statws Geopark. Wedi ei sefydlu’n 1957, mae’r parc yn cynnwys rhai o’r tiroedd mwyaf trawiadol yn Ne Prydain, yn cynnwys ardal o 1347 km sgwâr. Mae nifer o atyniadau yn yr ardal yn cynnwys rhaeadrau hyfryd Ystradfellte. Mae Rheilffordd Mynydd Aberhonddu ac Ogofau Dan yr Ogof sydd yn un o atyniadau gorau Cymru a hefyd wedi ei bleidleisio’n rhyfeddod naturiol gorau Prydain.

Er gwaethaf ei leoliad gwledig a heddychlon, mae’r bwthyn yn agos at lonydd sy’n cysylltu ‘r ardal gydag Abertawe (tua 45 munud) a Chaerdydd (tua 50 munud). Mae llwybr bws i Aberhonddu wedi ei leoli taith cerdded fer o’r bwthyn.

Cerdded

Gellir dod o hyd i lwybrau cerdded anhygoel ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gyda chopa Pen y Fan, Cornddu a Chriban, yn ogystal â Llwybr Epynt sy’n 90 cilomedr. Llwybrau’n mynd yn syth o’r bwthyn. 0.1 milltir.

Pysgota

Mae’r bwthyn yn cynnwys hanner milltir o bysgota preifat ar Afon Grai, isafon i’r Afon Wysg sy’n enwog am ei heogiaid. 0.1 milltir.

Beicio

Nifer fawr o lwybrau - gallwch feicio ar hyd yr afon Gwy o’i dechrau, drwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Llwybrau lleol a lonydd gwledig. 3.2 milltir.

Marchogaeth

Canolfan Farchogaeth Gilfach ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnig gwersi a chyrsiau marchogaeth, marchogaeth mynydd a merlota. 5 milltir.

Golff

Clwb Golff Cradoc – cwrs golff 18 twll gyda goleuadau. Golygfeydd gwych dros Fannau Brycheiniog a Phen y Fan. 10 milltir.

Chwaraeon Dwr

Mae’r Afon Wysg yn darparu canwio dwr gwyn. 3.0 milltir.

Llyn Llangorse. 18 milltir