- £1,141 per week
- £163 per night
- 9 Guests
- 4 Bedrooms
- 4 Bathrooms
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Twb poeth
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 3 o welyau king/super-king
- 1 gwely sengl
- 1 gwely sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 4 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Ystafell wlyb
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
- Ystafell wlyb
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Bwthyn gwyliau moethus a syfrdanol 5 seren gyda thwb poeth ym Mannau Brycheiniog. Wedi ei adeiladu fel eco-fwthyn gyda golwg ty pren clasurol, mae'n cynnig golygfeydd panoramig ar hyd y cwm. Mae’r bwthyn hunan ddarpar hwn yn ddelfrydol ar gyfer grwp mawr o deulu a ffrindiau i ymlacio a mwynhau amgylchfyd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae Bwthyn y Bannau wedi ei adeiladu o gerrig a choed traddodiadol Cymreig ac wedi ei gynllunio i fod mor wyrdd ac ynni effeithlon â phosibl, gyda boeler coed biomas sy'n defnyddio coed o'r fferm, paneli solar a system adennill gwres unigryw. Mae'r waliau coed wedi'u gorchuddio yn ychwanegu at y naws ‘bwthyn pren’ unigryw ac yn rhywbeth y gall pawb ei fwynhau.
Llawr Gwaelod
Ystafell wely 1 gyda dau wely sengl sy’n codi a gostwng. Gellir eu gwthio at ei gilydd gyda phen gwely dwbl (ar gais). Mae'r ystafell hon yn addas i bobl anabl, gyda gwelyau y gallwch eu rheoli yn electronig a theledu HD.
Mae ystafell wlyb fawr ensuite gyda chawod a thy bach, a system larwm anabl wedi ei gosod.
Mae'r lolfa yn cynnwys tair soffa fawr gyfforddus, bwrdd pwl, teledu HD mawr, chwaraewr DVD blue ray a gorsaf Ipod. Mae'r drysau patio yn agor allan ar y patio gorllewinol, y twb poeth a'r ardd. Mae’r stôl hir sy’n rhedeg ar hyd y wal hefyd yn darparu mwy o lefydd i eistedd.
Mae'r gegin yn cynnwys pob cyfleuster, gan gynnwys golchwr/sychwr dillad, peiriant golchi llestri, ac oergell/rhewgell maint llawn.
Ystafell gotiau llawr gwaelod gyda thy bach.
Llawr Cyntaf
Ystafell Wely 2 yw'r brif ystafell wely, gyda gwely maint king, teledu HD ac ystafell gawod ensuite â thy bach. Mae golygfeydd trawiadol o'r Mynyddoedd Duon i'w gweld drwy'r ffenestri.
Mae ystafell wely 3 yn ystafell berffaith i deulu gan ei fod yn cynnwys 3 gwely sengl neu gellir ei newid i 1 sengl ac 1 gwely super king. Teledu HD.
Mae gan ystafell wely 4 wely maint king, teledu HD a golygfeydd panoramig ar draws y dyffryn a dros y fferm.
Prif ystafell ymolchi yn cynnwys bath a chawod ar wahân.
Ceir casgliad helaeth o lyfrau yn y cwpwrdd ar y landing.
Gardd
Twb Poeth mawr wedi'i orchuddio (yn cael ei rannu gyda'r bwthyn drws nesaf). Mae’r mwyafrif o westeion yn gwneud cynlluniau ar ôl cyrraedd ond mae hefyd opsiwn i neilltuo’r twb poeth am slot o 2 awr o flaen llaw am £30 y sesiwn. Ar gael i’w ddefnyddio tan 10pm.
Trampolîn, ffrâm ddringo, llithren, siglen a digon o fannau agored mawr glaswelltog, yn ddelfrydol ar gyfer gemau teuluol a chwaraeon.
Ardal patio gyda bwrdd, cadeiriau a barbeciw (golosg).
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso lleol wrth i chi gyrraedd
- Dillad gwely a thywelion bath wedi'u darparu
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Cot a chadair uchel ar gael. Dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer cot.
- Dim anifeiliaid anwes
- Digon o le parcio preifat oddi ar y ffordd
- Addas i bobl anabl gyda rampiau mynediad a rheiliau
- Beiciau mynydd ar gael i'w llogi o'r fferm (£25 am ddiwrnod cyfan neu £20 am hanner diwrnod). Mae modd trefnu i'ch gollwng neu i'ch casglu ar lwybrau cyfagos.
- Lle diogel i storio beiciau
- Mae'r bwthyn wedi ei leoli ar fferm weithredol. Ni ddylid gadael i blant bach grwydro'r fferm heb oruchwyliaeth.
- WIFI am ddim
- Ni ellir sicrhau signal ffôn symudol ar y rhwydweithiau i gyd
- Pecynnau maldod ac ymlacio ar gael
- Hanner milltir o le pysgota preifat ar Afon Crai (un o isafonydd afon eog byd-enwog y Wysg)
- Archfarchnad yn dosbarthu i'r ardal.
- Mae bond 'gofal da am lety' ar y llety hwn am £150, sydd yn ad-daladwy ac yn ddyledus i Y Gorau o Gymru ar yr un pryd â balans eich gwyliau. Neu, gallwch osgoi y bond hwn drwy, yn hytrach, dalu ffî sydd ddim yn ad-daladwy am £5 y person
- Drws nesaf i Fwthyn y Bannau mae bwthyn Llety Llyn y Fan ac mae Ysgubor y Dderwen a Bwthyn Tre-faen ar yr un fferm hefyd. Gellir eu harchebu i gyd i gysgu hyd at 36 person (gan gynnwys gwlâu soffa). Gostyngiad o 10% wrth archebu’r ddau gyda’i gilydd. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
- Enillydd Gwobr Busnes Powys