- £512 per week
- £73 per night
- 4 Guests
- 3 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- 2 Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Tân agored neu stôf goed
- Twb poeth
- Golygfeydd o'r afon
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
- 1 gwely soffa
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Balconi
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Dyma hen felin hardd, llawn cymeriad, a adeiladwyd o garreg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae wedi’i lleoli ar lan afon, a dyma’r lle perffaith i ymlacio a dadflino. Mae’r bwthyn gwyliau hwn yn Aberhonddu yn croesawu anifeiliaid anwes (caniateir 2 gi), ac mae ganddo hefyd dwb poeth preifat, a balconi sydd â golygfeydd dros yr afon. Adeg yr hydref, fe allwch chi hyd yn oed weld yr eog yn neidio wrth ichi eistedd y tu allan. Mae golygfa o’r afon o bron pob ystafell. Mae teithiau cerdded gwych o’r bwthyn, a dyma’r lle delfrydol i wneud yn fawr o’r heddwch neu i weithio’n galed, gyda llwybrau beicio mynydd gwych, beicio ar y ffyrdd, llwybrau cerdded a llawer mwy wrth law o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Llawr gwaelod
Lolfa gynnes a chlyd gyda stôf llosgi coed mewn lle tân nodweddiadol â simdde fawr. Teledu, y rhyngrwyd, radio DAB, a pheiriant DVD/Blu-ray. Mae soffas cyffyrddus yn eistedd hyd at 6 o bobl.
Cegin â phob dim y byddech yn ei ddisgwyl, gyda ffwrn drydan a hob, peiriant golchi llestri, tostiwr, microdon, peiriant golchi, a bar brecwast â golygfeydd dros yr afon.
Ystafell fwyta gyda drysau mawr yn agor allan i falconi dros yr afon. Bwrdd bwyta â lle i 6 o bobl.
Llawr cyntaf
Prif ystafell wely – gwely dwbl, lle storio, a golygfeydd o’r afon.
Ystafell wely fawr gyda thŷ bach, basn, rheilen cynhesu tywelion, bath a chawod dros y bath.
Ystafell 2 – ystafell wely sengl gyda chwpwrdd a golygfeydd o’r afon.
Ystafell 3 – ystafell en-suite sengl.
Mae’r en-suite yn cynnwys tŷ bach, basn a chawod.
Silffoedd llyfrau ar ben y grisiau gyda detholiad da o lyfrau i’w mwynhau.
Tu allan
Twb poeth preifat – y lle delfrydol i ymlacio a gwrando ar yr afon yn sisial ganu gerllaw.
Balconi dros yr afon, ac ardal â dec (cadwch olwg ar unrhyw blant sydd ar y balconi), gyda bwrdd bychan a dwy gadair.
Gardd i’r ochr â golygfeydd o lan yr afon. Yma, mae ardal ddiogel â phatio. Mae bwrdd sy’n eistedd 4 o bobl ynghyd â ‘chiminea’ i’ch cadw chi’n gynnes wrth fwyta yn yr awyr agored.
Gwybodaeth ychwanegol
Bydd pecyn yn barod i’ch croesawu, a bydd yn cynnwys llaeth, bara brith neu fisgedi o Gymru, te, coffi a siwgr. Bydd potelaid o win hefyd i westeion sy’n aros am wythnos lawn.
Darperir dillad gwely, tywelion a sebon.
Mae’r trydan a’r gwres canolog olew hefyd yn gynwysedig.
Mae lle parcio i 1 car ar y dreif, ond mae mwy o le parcio ar gael oddi ar y ffordd os bydd angen, sydd 50 llath i ffwrdd dros y bont wrth ymyl yr afon.
Wi-fi ar gael (band eang ffibr, cyflymder uchel).
Bydd yr eitemau hyn hefyd ar gael i chi yn y bwthyn. Cegin: hylif golchi llestri/tabledi i’r peiriant golchi llestri, lliain a sgwriwr newydd. Ystafell ymolchi: 2 rolyn o bapur ym mhob toiled. Cyntedd: ymbarelau, ffyn cerdded, a fflachlamp.
Dim ysmygu y tu mewn.
Croesewir anifeiliaid anwes (dim mwy na 2) am £15 y ci. Rhaid cadw anifeiliaid anwes y tu allan i’r ystafelloedd gwely ac oddi ar y dodrefn. Lleoliad gwledig yw hwn, felly dylid cadw cŵn dan reolaeth o gwmpas y tir fferm sydd gerllaw.
Mae Tesco, Asda, Sainsbury a Waitrose yn danfon bwyd yma, a dim ond 5 milltir i ffwrdd, yn Aberhonddu, mae Morrisons a Co-op i gael, ynghyd â chyflenwyr lleol da iawn.
Mae’r pecyn cyntaf o goed tân yn gynwysedig. Gallwch brynu mwy yn lleol yn ôl yr angen.
Rhaid rhoi o leiaf 48 awr o rybudd ar gyfer archebion ar-lein munud olaf. Cysylltwch â ni cyn archebu ar-lein os dyna yw eich dymuniad.