Mae'r stiwdio drawiadol hon yn Aberdaron ar y llawr gwaelod ac yn mwynhau golygfeydd panoramig a di-dor o'r môr a'r traeth, y pentref a chefn gwlad.
- £929 per week
- £133 per night
- 2 Guests
- 1 Bedroom
- 1 Bathroom
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Ystafell wlyb
- Cawod
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Balconi
- Storfa tu allan
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Ar un lefel, dim grisiau
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
- Ystafell wlyb
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Sorry, infants (aged under 2) are not allowed at this property
- Sorry, children (aged between 2 and 17) are not allowed at this property
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Description
Mae'r stiwdio drawiadol hon yn Aberdaron ar y llawr gwaelod ac yn mwynhau golygfeydd panoramig a di-dor o'r môr a'r traeth, y pentref a chefn gwlad. O fewn 200 llath i'r siopau, caffis, tafarndai, Canolfan Groeso'r Ymddiriedaeth Genedlaethol, Llwybr Arfordirol Cymru a thraeth milltir o hyd.
Mae'r llety wedi ei ddylunio yn chwaethus gyda'r holl offer angenrheidiol
Disgrifiad
- Gwely maint King
- Peiriant Golchi Llestri
- Oergell/Rhewgell
- Hob induction 2-gylch
- Cyfuniad o feicrodon/popty/gril
- Dwr berwedig parod Quooker
- Peiriant coffi Nespresso
- Tostiwr
- Peiriant golchi/sychu dillad
- Teledu Smart 40” a chwaraewr DVD
- Soffa Lledr
- Bwrdd addas i ddau fwyta
- Cypyrddau dillad
- Ystafell ymolchi gyda cawod fawr, basn, toiled, rheilen sychu tywelion
Gardd
Mae'r drysau patio yn agor allan i ardal dec gyda dodrefn gardd. Pod gardd gyda lle i hamddena neu fwyta gan fwynhau golygfeydd eang o'r mor. Gellir hefyd fwynhau'r lawnt un acer o flaen y llety.
Sied gardd wedi ei chloi yn addas ar gyfer beiciau ayb
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys llaeth, te, coffi, siwgwr a bisgedi
- Dillad gwelyau a thywelion ar gael
- Gwres dan draed a thrydan yn gynwysedig
- Sychwr gwallt ar gael
- Wi-fi am ddim ar gael
- Rhewgell ychwanegol ar gael
- Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, clytiau newydd, ffoil, a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon a papur toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol
- Dim anifeiliaid anwes a dim ysmygu y tu mewn
- Dim plant na babanod
- Parcio preifat
Location
Fflat stiwdio hardd yn Aberdaron sy'n mwynhau lleoliad ar godiad lle ceir golygfeydd anhygoel dros y pentref ac allan i'r môr. Mae Aberdaron yn bentref glan môr hardd ym mhen pellaf Penrhyn Llŷn sydd yn cynnig croeso cynnes Cymreig. Ceir yma draeth gwych milltir o hyd, caffis bach unigryw a dwy dafarn ardderchog. Mae yma hefyd ganolfan ymwelwyr, siop sgodyn a sglodion, têc awê pitsa, siop bapur, cigydd ac archfarchnad fach.
Yn cynnig mynediad uniongyrchol i Lwybr Arfordirol Cymru, mae'r pentref hefyd yn gartref i eglwys hynafol Sant Hywyn, sydd yn dyddio nol i'r 6ed ganrif. Wedi ei lleoli ar lwybr y pererinion sydd yn arwain i ynys gysegredig Enlli, dwy filltir o'r lan, dyma daith sy'n dal i gael ei mwynhau gan lawer, gyda teithiau cwch ar gael o Borth Meudwy, 1.5 milltir o Aberdaron. Cofiwch edrych allan am forloi, dolffiniaid a bob math o adar. Gellir hefyd hurio beiciau yn y pentref os ydych yn dewis darganfod harddwch Llŷn ar ddwy olwyn.
Mae Penrhyn Llŷn yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Gyda nifer o bentrefi bach trawiadol, cildraethau cuddiedig a thraethau melyn o amgylch y penrhyn, mae'n sicr yn werth ymweld â nhw. Fe argymhellir ymweliad â Plas Glyn y Weddw, maenordy gwych gyda galeriau, gerddi hardd ac ystafell de gyda golygfeydd o'r môr, a Pharc Glasfryn sydd yn ddiwrnod allan gwych gyda gwîb-gartio, bowlio deg, saethyddiaeth ayb. Mae atyniadau poblogaidd eraill yn cynnwys Rheilffyrdd stêm Ffestiniog a'r Ucheldir, cestyll Criccieth a Chaernarfon, pentref Eidalaidd Portmeirion, a'r Wyddfa, mynydd uchaf Cymru.
Traethau
Traeth Aberdaron - traeth euraidd milltir o hyd gyda pentref hardd Aberdaron yn gefndir (0.2 milltir)
Cerdded
Llwybr Arfordirol Llŷn – 84 milltir sy'n rhan o Lwybr Arfordirol Cymru - gellir ymuno â'r rhan yma 0.2 milltir o'r llety
Yr Eifl – cadwyn o fynyddoedd sy'n cynnwys copa uchaf Penrhyn Llŷn - 4.5 milltir o hyd (17 milltir)
Beicio
Gellir hurio beiciau yn y pentref
Marchogaeth
Canolfan Farchogaeth a Styd Pen Llŷn – Pwllheli. Fferm styd a reidiau sy'n addas ar gyfer pob lefel o brofiad (8 milltir)
Canolfan Farchogaeth Cilan – Abersoch. Reidiau ar y traeth a mwy. Addas ar gyfer pob oed (15 milltir)
Pysgota
Nifer o gyfleoedd i bysgota o amgylch y Penrhyn - opsiynau addas ar gyfer pob oed
Chwaraeon Dŵr
Mae traeth Abersoch yn cynnig dŵr llonnydd ar gyfer pob math o chwaraeon dŵr (12 milltir)
Mae Porth Neigwl yn le poblogaidd ar gyfer syrffwyr (13 milltir)
Golff
Clwb Golff Abersoch - cwrs golff 18 twll ger y traeth (12 milltir)
Clwb Golff Nefyn a'r Cylch - 26 twll, yn cynnig 2 gwrs 18 twll gyda golygfeydd anhygoel o'r arfordir (12 milltir)