Y Gorlan, Podiau Môn

Menai Bridge, Anglesey North Wales

  • Gyda golygfeydd panoramig o Eryri o'r patio preifat, soffa a'r gwely, mae'r pod croesawgar hwn ar Ynys Môn yn lleoliad delfrydol i ymlacio.

     

You can book this property from:

  • £659 per week
  • £94 per night

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 1 gwely soffa

Cegin

  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Cawod

Teuluoedd

  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 4:00pm
  • Amser gadael: 9:00am

Description

Gyda golygfeydd anhygoel tuag at fynyddoedd Eryri, mae'r pod cysurus hwn ar Ynys Môn ond 3 milltir o Bont ac Afon Menai. Wedi ei leoli ar fferm weithiol mewn lleoliad tawel, mae'r pod yn un o dri ar y safle, gyda patio ac ardal picnic preifat. Gellir hefyd fwynhau'r golygfeydd o gysur eich soffa neu o'r gwely - pa ffordd well i gychwn y diwrnod?

Mae gan Ynys Môn gymaint i'w gynnig - o'r ystod eang o fwytai a chaffis gwych ym Mhorthaethwy i restr ddiddiwedd o weithgareddau ac atyniadau. Castell (Safle Treftadaeth y Byd), carchar a llys, Pier Fictorianaidd a thraeth ym Miwmares, Ynys Llanddwyn ar gyfer diwrnod rhamantus ar y traeth, Rib Ride ar Afon Menai, nifer o safleoedd treftadaeth a Sŵ Môr Môn. Croeswch y bont i Eryri ar gyfer anturiaethau megis Zip World a thaith ar y trên i fyny'r Wyddfa.  

Tu Mewn

  • Ardal fyw: ardal ar gynllun agored gyda soffa gornel a theledu, bwrdd bwyta a 2 gadair.
  • Cegin: gyda hob anwytho, meicrodon, oergell gyda rhewgell fach oddi mewn, sinc, tegell, tostiwr a'r holl lestri, cytleri ac offer angenrheidiol. Peiriannau golchi a sychu dillad ar gael ar y safle.
  • Gwely: gwely dwbl, yn ogystal â gwely soffa dwbl - gyda golygfeydd gwych tuag at Eryri.
  • Ystafell ymolchi: uned gawod fawr, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.

Tu Allan

Patio preifat gyda bwrdd picnic i fwynhau prydau bwyd tu allan gyda golygfeydd panoramig tuag at Eryri.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Dillad gwely a thywelion yn gynwysedig
  • Trydan a gwres yn gynwysedig
  • Dim anifeiliaid anwes
  • Dim ysmygu y tu mewn
  • Parcio - 60 metr o'r pod ar hyd llwybr llechi

Location