Tri llety steilus a thrawiadol ar gyfer 18 o westeion. Perffaith ar gyfer aduniadau teuluol neu grwpiau sy'n dymuno mwynhau llety modern a godidog.
- £2,084 per week
- £298 per night
- 18 Guests
- 9 Bedrooms
- 6 Bathrooms
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
- Smart TV
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 9 o welyau king/super-king
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
Ystafell ymolchi
- 7 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Ystafell wlyb
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
- Ystafell wlyb
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Description
Tri llety steilus a thrawiadol ar gyfer 18 o westeion. Perffaith ar gyfer aduniadau teuluol neu grwpiau sy'n dymuno mwynhau llety modern a godidog. Wedi ei leoli mewn ardal wledig heddychlon gyda golygfeydd gwych o Eryri a'r môr. Gyda gardd gymunedol, mae gan Hendy Marian a Stabal Marian hefyd batio preifat sy'n rhoi'r gorau o ddau fyd.
Gellir archebu'r tri llety hunan ddarpar yn unigol neu fel rhan o grwp. Am fwy o wybodaeth am y bythynnod ewch i Stabal Marian (cysgu 6), Hendy Marian (cysgu 8), Llofft Marian (cysgu 4).
Bwthyn 1 - Hendy Marian (cysgu 8 mewn 4 ystafell wely yn cynnwys 4 gwely maint king mawr y gellir eu gosod fel dau wely sengl os dymunir).
Llawr Gwaelod
Y mwyaf o'r 3 bwthyn, mae Hendy Marian yn ddeflfrydol ar gyfer aduniadau gyda 2 lolfa arwahan. Ystafell fyw agored gyda cegin lwyd foethus yn cynnwys peiriant golchi llestri, hob anwytho a phopty, meicrodon, oergell/rhewgell a pheiriant golchi/sychu dillad. Bwrdd mawr a chadeiriau i 10. Drysau mawr deu-blyg ar ddwy ochr yr ystafell gyda golygfeydd o gefn gwlad a'r arfordir. Teledu Smart.
Ystafell wely 1 - gwely king mawr (gellir ei osod fel dau wely sengl os dymunir).
Ystafell wely 2 - gwely king mawr (gellir ei osod fel dau wely sengl os dymunir).
Ystafell wlyb - gyda mynediad i'r anabl ac yn cynnwys cawod wlaw, cadair i'r gawod, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.
Llawr Cyntaf
Lolfa 2 - ystafell hyfryd i ymlacio gyda soffa fawr siâp 'L' a 2 gadair o flaen teledu Smart. Balconi bach i fwynhau'r golygfeydd.
Ystafell wely 3 - gwely king mawr (gellir ei osod fel dau wely sengl os dymunir) a balconi bach. En-suite gyda cawod, toiled a basn.
Ystafell wely 4 - gwely king mawr (gellir ei osod fel dau wely sengl os dymunir) a ffenestr i fwynhau'r golygfeydd arfordirol, yn ogystal â balconi bach. En-suite gyda cawod, toiled a basn.
Bwthyn 2 - Sabal Marian (yn cysgu 6 mewn 3 ystafell wely)
Llawr Gwaelod
Ystafell fyw agored gyda cegin, ardal fwyta a lolfa, a drysau yn arwain allan i'r patio gyda golygfeydd o gefn gwlad a'r arfordir.
Cegin las a gwyn foethus yn cynnwys peiriant golchi llestri, hob anwytho a phopty, meicrodon, oergell/rhewgell a pheiriant golchi/sychu dillad. Ardal fwyta gyda bwrdd mawr a chadeiriau yn edrych allan dros y patio.
Ystafell wely 1 - gyda gwely maint king (gellir eu gosod fel 2 wely sengl 2'6" os dymunir). Ystafell gawod Jac a Gill gyda cawod, toiled a basn.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 2 - gyda gwely king mawr yn cydffinio gydag ystafell cot. Balconi bach i fwynhau'r golygfeydd.
Ystafell cot - yn ffinio ag ystafell 2, yn ei gwneud yn ddelfrydol ar gyfer teuluoedd gyda babi. Yn ogystal â cot mawr, gellir defnyddio'r ystafell hon fel ystafell chwarae, gyda ceffyl pren, llyfrau a gemau, a bwrdd a chadeiriau bychan.
Ystafell wely 3 - gyda gwely maint king mawr y gellir ei osod yn ddau wely sengl os dymunir, a balconi bach.
Ystafell ymolchi - yn cynnwys cawod bwerus a baddon arwahan, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.
Bwthyn 3 - Llofft Marian (yn cysgu 4 mewn 2 ystafell wely)
Llawr Gwaelod
Y lleiaf o'r tri bwthyn.
Ystafell wely 1 - gyda gwely maint king (gellir ei osod fel 2 wely sengl 2'6" os dymunir). En-suite gyda cawod bwerus, toiled a basn.
Ystafell wely 2 - gyda gwely maint king (gellir ei osod fel 2 wely sengl 2'6" os dymunir). En-suite gyda cawod bwerus, toiled a basn.
Ystafell gyda toiled a basn.
Llawr Cyntaf
Ardal fyw agored yn cynnwys lolfa, cegin ac ardal fwyta. Balconi bach yn edrych allan dros yr ardd.
Cegin/ardal fwyta - cegin werdd yn cynnwys hob anwytho a popty, meicrodon, peiriant golchi llestri, oergell gyda rhewgell fach oddi mewn, a pheiriant golchi/sychu dillad. Bwrdd gyda 4 o gadeiriau.
Lolfa yn cynnwys soffa ledr Chesterfield a dwy gadair o flaen bwrdd coffi a teledu Smart ar y wal.
Gardd
Mae'r tri bwthyn yn elwa o lawnt a iard gymunedol y tu allan sy'n ardal gymdeithasol wych.
Mae Stabal Marian a Hendy Marian gyda patio preifat.
Gwybodaeth ychwanegol
- Pecyn croeso ym mhob bwthyn yn cynnwys te, coffi, llaeth a siwgwr, a Bara Brith/cacennau cri. Os yn aros am 6 noson neu fwy, fe fyddwch hefyd yn cael potel o Prosecco, blodau ffres a hanner dwsin o wyau
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- 1 sychwr gwallt ar gael ym mhob bwthyn
- Wifi ar gael
- Cot, cadair uchel a gât i'r grisiau ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot
- Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn y bwthyn
- Mae'r canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad:
- Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri a thabledi i'r peiriant, clytiau, ffoil a ffilm glynu
- Ystafell ymolchi: sebon a 2 rolyn papur toiled
- Cynnyrch glanhau cyffredinol
- Digon o le parcio ar y safle