Llofft Marian

Malltraeth, Anglesey North Wales

  • 5 Star
  • Special Offer10% offer on stays between 26th April - 5th September 2024

You can book this property from:

  • £634 per week
  • £91 per night
  • 5 Star

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau king/super-king
  • 4 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri

Ystafell ymolchi

  • 3 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Mae'r llety cyfoes hwn y lleiaf o 3 bwthyn 5 seren hunan ddarpar ar Ynys Môn. Mae Llofft Marian mewn lleoliad heddychlon yn agos i bentref Trefdraeth (1 milltir) a'r arfordir yn Malltraeth (2.3 milltir). Mae traethau trawiadol Llanddwyn a Rhosneigr hefyd gerllaw, heb anghofio nifer o atyniadau megis Sw Môr Môn, Llwybr Arfordirol Cymru, Amgueddfa Trafnidiaeth ac Amaethyddiaeth Ynys Môn, a Parc Fferm Foel. 

Gellir cyfuno'r tri bwthyn ar gyfer aduniadau teuluol neu ffrindiau i hyd at 18 o westeion. 

Llawr Gwaelod

Ystafell wely 1 - gyda gwely maint king (gellir ei osod fel 2 wely sengl 2'6" os dymunir). En-suite gyda cawod bwerus, toiled a basn. 

Ystafell wely 2 - gyda gwely maint king (gellir ei osod fel 2 wely sengl 2'6" os dymunir). En-suite gyda cawod bwerus, toiled a basn. 

Ystafell gyda toiled a basn.

Llawr Cyntaf

Ardal fyw agored yn cynnwys lolfa, cegin ac ardal fwyta. Balconi bach yn edrych allan dros yr ardd.

Cegin/ardal fwyta - cegin werdd yn cynnwys hob anwytho a popty, meicrodon, peiriant golchi llestri, oergell gyda rhewgell fach oddi mewn, a pheiriant golchi/sychu dillad. Bwrdd gyda 4 o gadeiriau.

Lolfa yn cynnwys soffa ledr Chesterfield a dwy gadair o flaen bwrdd coffi a teledu Smart ar y wal. 

Gardd

Patio gyda mainc y tu blaen i'r bwthyn.

Ardal gymunedol i fwyta ac eistedd, yn cael ei rannu gyda dau fwthyn arall. 

Gwybodaeth ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, llaeth a siwgwr, a Bara Brith/cacennau cri. Os yn aros am 6 noson neu fwy, fe fyddwch hefyd yn cael potel o Prosecco, blodau ffres a hanner dwsin o wyau
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig   
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig     
  • 1 sychwr gwallt ar gael
  • Wifi ar gael
  • Cot, cadair uchel a giât i'r grisiau ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot    
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn y bwthyn    
  • Mae'r canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad:
    • Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri a thabledi i'r peiriant, clytiau, ffoil a ffilm glynu     
    • Ystafell ymolchi: sebon a 2 rolyn papur toiled    
    • Cynnyrch glanhau cyffredinol     
  • Lle parcio i hyd at 2 gar  

Location