Bwthyn steilus, eco-gyfeillgar ger Malltraeth, Traeth Llanddwyn, Sw Môr Môn, Rhosneigr a nifer o atyniadau eraill.
- £764 per week
- £109 per night
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
- Smart TV
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau king/super-king
- 2 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Balconi
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Description
Bwthyn steilus, eco-gyfeillgar ger Malltraeth, Traeth Llanddwyn, Sw Môr Môn, Rhosneigr a nifer o atyniadau eraill. Mae Stabal Marian yn cynnig llety 5 seren gyda golygfeydd pell-gyrhaeddol, nodweddion hyfryd oddi mewn, a'r hyblygrwydd i gael y gwelyau king mawr a king wedi eu gosod fel gwelyau sengl os dymunir.
Gyda'i gornel preifat a patio, mae Stabal Marian yn un o dri bwthyn hardd wedi eu gosod mewn siâp 'L', a gellir eu harchebu gyda'i gilydd ar gyfer aduniadau ffrindiau neu deulu.
Llawr Gwaelod
Ystafell fyw agored gyda cegin, ardal fwyta a lolfa. Drysau mawr deu-blyg yn arwain allan i'r patio gyda golygfeydd o gefn gwlad a'r arfordir.
Cegin las a gwyn foethus yn cynnwys peiriant golchi llestri, hob anwytho a phopty, meicrodon, oergell/rhewgell a pheiriant golchi/sychu dillad.
Ardal fwyta gyda bwrdd mawr a chadeiriau yn edrych allan dros y patio.
Lolfa - 2 soffa gyfoes o flaen teledu ar y wal ac hefyd yn mwynhau golygfeydd allan dros y patio.
Ystafell wely 1 - gyda gwely maint king (gellir eu gosod fel 2 wely sengl 2'6" os dymunir). Ystafell gawod Jac a Gill gyda cawod, toiled a basn.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 2 - gyda gwely king mawr yn cydffinio gydag ystafell cot. Balconi bach i fwynhau'r golygfeydd.
Ystafell cot - yn ffinio ag ystafell 2, yn ei gwneud yn ddelfrydol ar gyfer teuluoedd gyda babi. Yn ogystal â cot mawr, gellir defnyddio'r ystafell hon fel ystafell chwarae, gyda ceffyl pren, llyfrau a gemau, a bwrdd a chadeiriau bychan.
Ystafell wely 3 - gyda gwely maint king mawr y gellir ei osod yn ddau wely sengl os dymunir, a balconi bach.
Ystafell ymolchi - yn cynnwys cawod bwerus a baddon arwahan, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.
Gardd
Patio preifat gyda golygfeydd yn ymestyn i lawr i Malltraeth ar yr arfordir ac Eryri ar y gorwel. Lleoliad heddychlon gyda bwrdd a chadeiriau.
Ardal gymunedol i fwyta ac eistedd o flaen y bwthyn, yn cael ei rannu gyda dau fwthyn arall.
Gwybodaeth ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, llaeth a siwgwr, a Bara Brith/cacennau cri. Os yn aros am 6 noson neu fwy, fe fyddwch hefyd yn cael potel o Prosecco, blodau ffres a hanner dwsin o wyau
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- 1 sychwr gwallt ar gael
- Wifi ar gael
- Cot, cadair uchel a giât i'r grisiau ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot
- Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn y bwthyn
- Mae'r canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad:
- Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri a thabledi i'r peiriant, clytiau, ffoil a ffilm glynu
- Ystafell ymolchi: sebon a 2 rolyn papur toiled
- Cynnyrch glanhau cyffredinol
- Lle parcio i hyd at 3 car