Llanddygfael Hir

Cemaes Bay, Anglesey North Wales

  • 5 Star
  • This property can be found on Niche Retreats
  • Special OfferUp to 20% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
  • Special Offer15% offer 28th June – 18th July
  • Special Offer10% offer w/c 19th July

You can book this property from:

  • £1,057 per week
  • £151 per night
  • 5 Star
  • This property can be found on Niche Retreats

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Twb poeth
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 3 o welyau king/super-king
  • 1 gwely dwbl
  • 4 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 5 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 09:00

Description

Hardd a helaeth, dyma lety ysbrydoledig ar Ynys Môn. Yn agos i Bae Cemaes, y pentref mwyaf gogleddol yng Nghymru. Gyda twb poeth preifat, pedair ystafell wely ensuite, a nodweddion unigryw, dyma'r lleoliad perffaith i deuluoedd a ffrindiau ddod at ei gilydd.

Darganfyddwch arfordir trawiadol, treftadaeth gyfoethog, digon o draethau, tripiau cychod, pentrefi a threfi hardd, dal crancod o wal yr harbwr neu eistedd yn nol ac ymlacio yn y tŷ rhyfeddol hwn.

Llawr Gwaelod

Mae'r llawr gwaelod yn fodern ac agored gyda digon o olau naturiol.

Cegin - gydag ynys ganolog a thopiau carreg wen, mae'r gegin hardd yn cynnwys yr holl offer angenrheidiol - peiriant golchi llestri, popty a meicrodon ar lefel y llygad, rhewgell ac oergell o'r llawr i'r nenfwd, a digon o le i storio a pharatoi bwyd. 

Ardal fwyta ac eistedd - bwrdd bwyta mawr, teledu, DVD a Wii. Lle i eistedd gyda drysau patio i fwynhau'r golygfeydd.

Lolfa - mae'r brif lolfa yn mwynhau digon o olau dydd a golygfeydd o gefn gwlad. Gellir cau y rhan yma i ffwrdd o weddill yr ardal fyw i greu ystafell gaeedig a chlyd o flaen stôf bio ethanol a theledu.

Iwtiliti - gyda peiriannau golchi a sychu dillad.

Toiled gyda basn.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 1 - gwely maint king (neu dau wely sengl - noder eich dewis pan yn archebu). Cwpwrdd dillad mawr ac ensuite gyda cawod, toiled, basn a rheilen sychu tywelion. Golygfeydd o gefn gwlad drwy'r ffenestr.

Ystafell wely 2 - gwely dwbwl a balconi Juliet gyda golygfeydd o'r fferm a chefn gwlad yn ogystal â'r môr ar y gorwel. Cwpwrdd dillad mawr ac ensuite gyda cawod, basn a thoiled. 

Ystafell wely 3 - gwely maint king mawr (neu dau wely sengl - noder eich dewis pan yn archebu). Ensuite gyda cawod, toiled a basn, a golygfeydd o gefn gwlad a'r môr ar y gorwel. 

Ystafell wely 4 - gwely maint king, balconi gyda lle i eistedd i fwynhau'r golygfeydd. Cwpwrdd dillad mawr ac ensuite gyda baddon spa, cawod, basn a thoiled.

Ystafell pen grisiau gyda chaise longue yn y gornel i ymlacio. 

Gardd

Mae'r llety wedi ei leoli oddi mewn i dir caeedig, gerllaw fferm weithiol. Mae'r lawnt wastad yn cynnig digon o le i blant chwarae'n ddiogel. Mae palmant o amgylch y tŷ gyda tri ardal patio yn cynnwys un wedi ei orchuddio. Bwrdd a chadeiriau ar y patio a twb poeth preifat. 

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgwr a llaeth, yn ogystal â dewis o gynnyrch lleol 
  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig   
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig   
  • 2 sychwr gwallt ar gael
  • Cot trafeilio, cadair uchel a gât i'r staer ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot.  
  • Wifi ar gael
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn y llety  
  • Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri, tabledi i'r peiriant golchi llestri, clytiau newydd, ffoil, a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon hylif, 2 bapur toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol 
  • Digon o le parcio

Location

Mae'r llety trawiadol hwn wedi ei adeiladu'n ddiweddar gan ddefnyddio cerrig o'r hen dŷ fferm. Oddi mewn i hanner acer o dir, mae'n mwynhau lleoliad preifat drws nesaf i fferm deuluol y perchennog. Lleoliad hardd a gwledig ym mhen gogleddol Ynys Môn, yn wynebu Môr Iwerddon gyda golygfeydd o gefn gwlad, y môr a'r mynydd. Mae'n leoliad heddychlon a thawel, 3 milltir o Bae Cemaes, ac ond 15 milltir o dref porthladd Caergybi ble gellir dal y fferi i'r Iwerddon.

Gellir dod o hyd i'r siop a'r dafarn agosaf ym mhentref Llanfechell (1.2 milltir), cartref i eglwys hardd a chaffi cymunedol sydd ar agor drwy'r dydd, gyda'r brecwast yn boblogaidd iawn. Ym mhentref glan môr Bae Cemaes mae nifer o dafarndai, caffis, cigydd, fferyllfa, yn ogystal â siop 'Sgodyn a Sglodion', sydd ag enw da am ddefnyddio cynnyrch lleol.

Ar gyfer y rheiny sy'n hoff o'u bwyd mae'r Llew Du (Black Lion)yn Llanfaethlu (4.5 milltir) wedi enill gwobrau am fwyd da, ac i'r rheiny sy'n hoff o fwyd môr mae'n rhaid ymweld â'r 'Lobster Pot' yn Rhydwyn (4.5 milltir) i flasu'r cimychiaid lleol. Mae Gwesty Gadlys ym Mae Cemaes, a 'Sea Shanty' ym Mae Trearddur (12.5 milltir) hefyd yn cael eu hargymell. Mae Ynys Môn yn cynnig ystod o lefydd bwyta poblogaidd, gyda nifer ohonynt o gwmpas Bae Trearddur, Biwmares a Phorthaethwy.

Mae'r ardal yn cynnig arfordir trawiadol ble gellir darganfod nifer o draethau, cildraethau cuddiedig a llwybrau cerdded. Ar gyfer diwrnod allan i'r teulu, profwch olygon, synau, ac aroglau fferm weithiol go iawn yn Fferm y Foel, Brynsiencyn - gall plant wneud siocled yma hefyd. I'r rheiny sy'n caru'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae'n rhaid ymweld â Phlas Newydd (cartref Marcwis Môn), gyda gerddi hardd yn cyrraedd i lawr at y Fenai.

Mae atyniadau eraill yn cynnwys Mynydd Paris; siambr gladdu o oes y cerrig yn Bryn Celli Ddu ger Llandaniel; a thaith o amgylch Melin Llynnon - yr unig felin wynt weithiol yng Nghymru. Ar gyfer y teulu cyfan mae canolfan Pili Palas, a Sŵ Môr Môn - acwariwm fwyaf Cymru lle gwelir byd syfrdanol y bywyd morol, llongddrylliadau a siarcod! 

Traethau

  • Bae Cemlyn - bae crwm unigryw gyda cefnen raean a elwir yn 'Esgair Cemlyn' yn rhannu'r môr agored â lagŵn arfordirol. Ystyrir ei fod yr esiampl gorau o'i fath yng Nghymru (3 milltir)      
  • Traeth Mawr, Bae Cemaes - traeth addas ar gyfer teuluoedd gyda promenâd (3 milltir)    
  • Porth Swtan - bae hardd sy'n cynnwys creigiau, cerrig a thywod. Wedi ennill gwobr y Faner Lâs. Poblogaidd ar gyfer nofio, hwylio a physgota. Mae'r cyfleusterau yn cynnwys parcio am ddim, toiledau, bwyty a chaffi (4.5 milltir)   

Cerdded

  • Llwybr Arfordirol Môn – llwybr cylchol 125 milltir o amgylch yr Ynys. Gellir ymuno â'r llwybr ym Mae Cemaes (3 milltir)   
  • Mynydd Paris, Amlwch - llwybr cylchol 4.8 o hyd o amgylch y mynydd copr (7.5 milltir)   

Golff

  • Clwb Golff Bull Bay, Amlwch - cwrs 18 twll (8.5 milltir)

Beicio

  • Mae beicio yn weithgaredd poblogaidd ar hyd y lonydd tawel - o stepen y drws  

Pysgota

  • Llyn Alaw, Llanbabo - un o'r llynnoedd gorau i bysgota am frithyll yng Nghymru (6 milltir)  
  • Tripiau pysgota môr o amgylch Ynys Môn - o'r pier Fictorianaidd ym Miwmares (20 milltir)   

Chwaraeon Dŵr

  • Syrffio, deifio, caiacio, arforneidio, hwylio ayb - i gyd heb fod ymhell o'r llety 

Marchogaeth

  • Porth y Post, Bae Trearddur - Ysgol Farchogaeth yn cynnig ystod o wersi reidio gyda hyfforddwyr cymwysedig (13 milltir)