Hen Ysgol

Beaumaris, Anglesey North Wales

  • 5 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
  • Special Offer15% May Half term - 24th May - 31st May 2024
  • Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
  • Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August

You can book this property from:

  • £622 per week
  • £89 per night
  • 5 Star

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Pysgota

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw

Hygyrchedd

  • Ar un lefel, dim grisiau
  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Mae'r Hen Ysgol yn adeilad Gradd II rhestredig, wedi ei adeiladu yn 1816, ac wedi ei adnewyddu i safon ardderchog gan y perchnogion presennol. Mae'r llety yng nghanol tref Biwmares, heb fod ymhell o'r siopau a'r arfordir, castell a charchar hanesyddol. Fe geir golygfeydd anhygoel o'r dre ar draws y Fenai i fynyddoedd trawiadol Eryri, ac mae rhai o draethau gorau Ynys Môn ond taith fer i ffwrdd.

Mae'r bwthyn gyda gardd fawr yn y cefn, ac ystafell haul lle gellir mwynhau torheulo neu wneud barbaciw yn yr ardal gaeedig a phreifat. Mae'r bwthyn i gyd ar un lefel ond gyda stepiau cerrig i fyny o'r ffordd. 

Ceir dodrefn o safon yn y lolfa yn cynnwys soffas lledr cyfforddus, teledu Smart/DVD, Wifi, tân nwy modern, dreser Gymreig hynafol gyda llestri cyfoes Portmeirion, a lluniau gan arlunydd lleol ar y waliau.

Mae unedau lliw hufen yn y gegin, ac offer yn cynnwys popty trydan, meicrodon, peiriannau golchi llestri a golchi dillad, ac oergell/rhewgell, yn ogystal â bwrdd a chadeiriau. Mae drws yn arwain i'r ystafell haul a'r ardd gefn. 

Yn arwain o'r cyntedd mae ystafell gotiau gyda thoiled a basn. 

Mae dwy ystafell wely wedi eu dodrefni'n steilus gyda gwelyau o safon a matresi Hypnos. 

Ystafell wely 1 - gwely maint king a chypyrddau dillad. Golygfeydd o'r eglwys hardd.

Ystafell wely 2 - dau wely sengl a theledu ar y wal. Golygfeydd o'r ardd gefn.

Ystafell ymolchi - gyda baddon, uned gawod, toiled a basn.  

Tu Allan - lawnt fach yn ffrynt y llety. Gardd yn y cefn yn arwain allan o'r ystafell haul sydd â bagiau ffa tu mewn/tu allan i ymlacio arnynt. Mae yma ddodrefn gardd a barbaciw, lleoliad ardderchog i ymlacio a mwynhau'r haul. Mae storfa feiciau ar gael. Mae lle ar gyfer gwagu'r car ar y stryd tu allan y llety, gyda lle i barcio yn y maes parcio gerllaw (gellir archebu trwydded wythnos ymwelwyr; cysylltwch â ni am fanylion). 

Mae Biwmares yn dref fach boblogaidd mewn lleoliad trawiadol. Mae digon i'w ddarganfod yma; yn ogystal â'r atyniadau hanesyddol, mae yma nifer o siopau, caffis, bwytai a thafarndai annibynnol. Os ydych am fentro ymhellach, i lawr y ffordd mae Priordy a Cholomendy Penmon gyda ffordd doll fychan yn arwain i Penmon ei hun, gyferbyn ag Ynys Seiriol a'i oleudy hardd. Mae'n werth ymweld â gerddi hanesyddol Plas Cadnant gerllaw. Gellir mynd ar drip ar gwch i ddarganfod yr arfordir a'r bywyd gwyllt. Ychydig yn bellach i ffwrdd ar hyd yr arfordir mae traethau poblogaidd megis Traeth Coch a Thywyn Niwbwrch. Mae Parc Cenedlaethol Eryri tua 15 milltir i ffwrdd, gyda golygfeydd trawiadol, cerdded mynyddoedd, beicio a nifer o weithgareddau antur eraill. 

Trydan a gwres yn gynwysedig

Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig

Dim ysmygu y tu mewn  

Location