Cwt y Bugail

Pentraeth, Anglesey North Wales

  • 3 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £447 yr wythnos
  • £64 y noson
  • 3 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 1 gwely sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Balconi
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Bwthyn hunan ddarpar ar Ynys Môn, wedi ei leoli ar fferm deuluol gyda parlwr godro a chyfleusterau gwneud caws, yn agos i Bentraeth a Thraeth Coch, Benllech, Porthaethwy a Biwmares. Mae'r bwthyn yn derbyn anifeiliaid anwes ac yn lleoliad gwych i ddarganfod Ynys Môn, arfordir Gogledd Cymru ac Eryri, gyda nifer o atyniadau mwyaf Cymru heb fod ymhell. 

Os hoffech ddod â theulu neu ffrindiau gyda chi, mae'r perchnogion hefyd yn cynnig cyfleusterau carafanio/campio yn y cae gerllaw. Mewn lleoliad heddychlon gyda golygfeydd panoramig o fynyddoedd Eryri, a lonydd gwledig tawel sy'n berffaith ar gyfer cerdded, dyma'r lle i fwynhau cefn gwlad hardd Ynys Môn.

Llawr Gwaelod

Ystafell fyw agored gyda lolfa groesawgar yn cynnwys soffa, cadair, teledu a dewis o lyfrau.

Cegin gyda'r holl offer angenrheidiol yn cynnwys popty a hob trydan, oergell/rhewgell, meicrodon a pheiriant golchi dillad. Bwrdd bwyta a chadeiriau.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 1 - gyda gwely maint king, cypyrddau bach a lampau ger y gwely, storfa a balconi bach.

Ystafell wely 2 - gwely sengl gyda chwpwrdd a lamp ger y gwely.

Ystafell ymolchi yn cynnwys cawod, toiled, basn a rheilen sychu tywelion. 

Gardd

Patio yn y cefn gyda bwrdd a chadeiriau. Barbaciw siarcol ar gael os dymunir.

Gwybodaeth ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys dewis o de, coffi, llaeth a siwgwr, a chaws Rhyd y Delyn. Mae'r caws poblogaidd hwn yn cael ei gynhyrchu gan y perchnogion yn defnyddio llaeth o'r fferm
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig   
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig   
  • Peiriant sychu dillad (£1) yn y safle campio yn y cae gerllaw    
  • 1 sychwr gwallt
  • Wifi ar gael
  • Cot, cadair uchel a giât i'r grisiau ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot    
  • Dim ysmygu tu mewn    
  • Croesewir 1 ci      
  • Mae'r canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad:
    • Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri, clytiau, ffoil a ffilm glynu     
    • Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur toiled    
    • Cynnyrch glanhau cyffredinol     
  • Lle parcio i 2 gar  

Lleoliad