Gyda golygfeydd panoramig o Eryri o'r patio preifat, soffa a'r gwely, mae'r pod croesawgar hwn ar Ynys Môn yn lleoliad delfrydol i ymlacio.
- £659 yr wythnos
- £94 y noson
- 2 Guests
- 1 Bedroom
- 1 Bathroom
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 1 gwely soffa
Cegin
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Cawod
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 4:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Gyda golygfeydd anhygoel tuag at fynyddoedd Eryri, mae'r pod cysurus hwn ar Ynys Môn ond 3 milltir o Bont ac Afon Menai. Wedi ei leoli ar fferm weithiol mewn lleoliad tawel, mae'r pod yn un o dri ar y safle, gyda patio ac ardal picnic preifat. Gellir hefyd fwynhau'r golygfeydd o gysur eich soffa neu o'r gwely - pa ffordd well i gychwn y diwrnod?
Mae gan Ynys Môn gymaint i'w gynnig - o'r ystod eang o fwytai a chaffis gwych ym Mhorthaethwy i restr ddiddiwedd o weithgareddau ac atyniadau. Castell (Safle Treftadaeth y Byd), carchar a llys, Pier Fictorianaidd a thraeth ym Miwmares, Ynys Llanddwyn ar gyfer diwrnod rhamantus ar y traeth, Rib Ride ar Afon Menai, nifer o safleoedd treftadaeth a Sŵ Môr Môn. Croeswch y bont i Eryri ar gyfer anturiaethau megis Zip World a thaith ar y trên i fyny'r Wyddfa.
Tu Mewn
- Ardal fyw: ardal ar gynllun agored gyda soffa gornel a theledu, bwrdd bwyta a 2 gadair.
- Cegin: gyda hob anwytho, meicrodon, oergell gyda rhewgell fach oddi mewn, sinc, tegell, tostiwr a'r holl lestri, cytleri ac offer angenrheidiol. Peiriannau golchi a sychu dillad ar gael ar y safle.
- Gwely: gwely dwbl, yn ogystal â gwely soffa dwbl - gyda golygfeydd gwych tuag at Eryri.
- Ystafell ymolchi: uned gawod fawr, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.
Tu Allan
Patio preifat gyda bwrdd picnic i fwynhau prydau bwyd tu allan gyda golygfeydd panoramig tuag at Eryri.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Dillad gwely a thywelion yn gynwysedig
- Trydan a gwres yn gynwysedig
- Dim anifeiliaid anwes
- Dim ysmygu y tu mewn
- Parcio - 60 metr o'r pod ar hyd llwybr llechi