Trehafod

Menai Bridge, Anglesey North Wales

  • 5 Star
  • This property can be found on Niche Retreats
  • Special OfferUp to 20% off Special Offer Discount - selected dates

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £1,061 yr wythnos
  • £152 y noson
  • 5 Star
  • This property can be found on Niche Retreats

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Twb poeth
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau king/super-king
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Popty Range/Aga
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 3 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 09:30

Disgrifiad

Llety helaeth yn sefyll ar ben ei hun, twb poeth 'swim spa' preifat gyda golygfeydd, stôf goed groesawgar, ac ystafelloedd moethus drwyddi draw. Dyma leoliad hollol arbennig ar gyfer eich gwyliau ar Ynys Môn, Gogledd Cymru. Mae Porthaethwy (2 filltir) a Biwmares (4.5 milltir) yn cynnig ystod eang o fwytai, caffis a siopau, ac mae nifer o atyniadau, a gweithgareddau arfordirol a mynyddig gerllaw. 

Llawr Gwaelod

Ardal fyw helaeth o gynllun agored sy'n cynnwys y lolfa, ardal fwyta a chegin. Gwres dan y llawr yn yr holl ystafelloedd ar y llawr gwaelod. 

Mae'r lolfa groesawgar yn eich cyfarch wrth ichi fynd i mewn i'r llety gyda soffas lledr - un i eistedd 3, a dwy i eistedd 2 - stôf goed nodweddiadol, teledu smart 48", chwaraewr DVD, a drws patio yn arwain allan i'r ardd breifat yn y cefn. 

Mae'r gegin a'r ardal fwyta fawr a steilus yn cynnig yr holl offer angenrheidiol, o bopty Range, hob trydan, peiriant golchi llestri, oergell/rhewgell, meicrodon a pheiriant coffi Tassimo. Mae'r peiriannau golchi a sychu dillad wedi eu lleoli mewn cwpwrdd iwtiliti sydd wedi ei guddio'n ddestlus.  

* Mae'r tair ystafell wely ar y llawr gwaelod yn elwa o ddrysau a ffenestri patio yn arwain allan i'r patio.

Ystafell wely 1 - ystafell helaeth gydag ystafell ymolchi ensuite a gwely Superking all droi mewn i ddau wely sengl os dymunir. Cypyrddau dillad, cabinet a lampau ger y gwely, yn ogystal â teledu smart, a chadair. Ensuite yn cynnwys baddon, cawod 'wlaw' ddwbwl arwahan, toiled, basn a rheilen sychu tywelion. 

Ystafell wely 2 - ystafell hardd gyda dau wely sengl (all droi mewn i wely Superking os dymunir). Hefyd yn cynnwys cwpwrdd dillad, cabinet a lampau ger y gwely a chadair.

Ystafell ymolchi - baddon, cawod 'wlaw' ddwbwl arwahan, basn, toiled a rheilen sychu tywelion. 

Ystafell wely 3 - ym mhen arall y bwthyn ac i lawr un step, mae'r ystafell hon gyda gwely maint King, ac Ensuite gyda cawod 'wlaw' fawr, toiled a rheilen sychu tywelion. 

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 4 - gwely dwbwl gyda teledu smart, chaise lounge, cwpwrdd dillad, cabinet a lampau ger y gwely.

Gardd

Gardd gaeedig yn y ffrynt a'r cefn gyda dodrefn gardd. Mwynhewch olygfeydd gwych o gefn gwlad Ynys Môn o'r twb poeth preifat yn yr ardd gefn. 

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys te a choffi, siwgwr a llaeth, a dewis o gynnyrch Cymreig - o Fara Brith a iogwrt Llaeth y Llan i Selsig a Bacwn Edwards a wyau lleol   
  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig   
  • Pecyn cychwynol o goed ar gyfer y stôf. Gellir prynu coed ychwanegol gan y perchnogion am £3.50 y bag 
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig   
  • 4 sychwr gwallt ar gael  
  • Cot trafeilio, cadair uchel a gât i'r grisiau ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot   
  • Wifi ar gael  
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu y tu mewn i'r bwthyn   
  • Darperir y canlynol ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant golchi llestri, clytiau newydd, ffoil, ffilm glynu; Ystafell Ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur toiled; Cynnyrch glanhau cyffredinol  
  • Digon o le parcio i 4 cerbyd. Bydd angen enwau ac ystod oed gwesteion cyn cyrraedd
  • Ar gyfer grwpiau mwy, mae lle i 10 person arall mewn bwthyn ar yr un safle - Tyddyn Hendre Menai Bridge. 

Lleoliad

Ysgubor wedi ei thrawsnewid i gynnig lleoliad heddychlon ar gyfer eich gwyliau yn Ynys Môn. Mae'r bwthyn yn sefyll oddi mewn i ardd gaeedig gyda golygfeydd pellgyrhaeddol o gefn gwlad. Dwy filltir o Borthaethwy a'r bont yn croesi dros Afon Menai i dir mawr Gogledd Cymru, dyma leoliad delfrydol ar gyfer darganfod Ynys Môn a gweddill Gogledd Cymru. 

Mae Porthaethwy yn cynnig ystod o adnoddau yn cynnwys archfarchnad Waitrose, a darpariaeth wych o fwytai megis Dylan's, The Straits, Freckled Angel, a bwytai Seren Michelin y Sosban a The Old Butchers Restaurant. Os am ddiod ymlaciol, mae'r Fictoria a Thafarn y Bont yn cael eu cymeradwyo. Mae tref arfordirol Biwmares hefyd o fewn 5 milltir, gyda Castell (Safle treftadaeth y Byd), carchar a llys, Pier Fictorianaidd a thraeth, a dewis pellach o gaffis a bwytai gwych megis Ye old Bulls Head Inn. 

Fe leolir bwthyn Trehafod mewn safle delfrydol i ymweld â gweddill atyniadau'r ynys, yn ogystal â mynd dros y bont i'r tir mawr. Mae Ynys Môn yn cynnig ystod o draethau baner lâs o amgylch yr holl arfordir, mynydd copr Paris gyda'i dirwedd unigryw, a siambr gladdu o oes y cerrig ym Mryn Celli Ddu ger Llanddaniel. Cymerwch daith o amgylch Melin Llynnon - yr unig felin wynt weithiol yng Nghymru, ac i'r artistiaid yn eich plith, mae'n rhaid ymweld ag Oriel Môn gyda chaffi 'Blas Mwy'. 

Ar gyfer ymwelwyr iau mae canolfan Pili Palas (5 milltir) yn cynnig profiad hudol, gydag adar, nadroedd a rhywogaethau egsotig eraill i'w gweld yn ogystal. O fewn 10 milltir i'r bwthyn mae Sŵ Môr Mon, acwariwm mwyaf Cymru, yn cynnig byd anhygoel bywyd y môr, llongddrylliadau a phyllau siarcod. Mae Parc Fferm y Foel hefyd yn cynnig diwrnod allan gwych i'r holl deulu a gellir profi golygfeydd, synau ac arogleuon fferm weithiol go iawn. 

Dros y bont mae Parc Fforest Gelli Gyffwrdd (11 milltir) sydd wedi cael ei enwi fel un o'r atyniadau teuluol gorau yng Ngogledd Cymru, ac mae'n cynnwys yr unig roller coaster yn y byd sy'n cael ei bŵeru gan bwysau'r bobl yn unig. O dan y bont, mwynhewch daith heddychlon ar gwch, neu am daith llawn adrenalin gellir mentro ar y Rib Ride ar yr afon. I'r rhai mwy anturus, beth am reid ar y Zip Wire hiraf yn Ewrop ym Methesda, llai na 10 milltir i ffwrdd. Fel y sonwyd ynghynt, dyma leoliad perffaith ar gyfer eich gwyliau ar Ynys Môn.

Traethau

  • Traeth Coch (Red Wharf Bay) - traeth gyda tywod a cherrig gyda golygfeydd anhygoel ar draws y môr, ac adnoddau yn cynnwys caffi/bwyty a thafarn (5.5 milltir)   
  • Traeth Llanddona - traeth tywod baner lâs sy'n boblogaidd iawn gyda teuluoedd, pysgotwyr a morwyr (6 milltir)   
  • Traeth Llanddwyn – traeth baner lâs gyda milltiroedd o dywod a hanes rhamantus (12 milltir)   

Cerdded

  • Llwybr Arfordirol Ynys Môn – llwybr cylchol 125 milltir o hyd o gwmpas yr Ynys. Gellir ymuno yn agos at Bont Menai (2 filltir)   
  • Llwybr Cylchol Fforest Pentraeth – taith addfwyn gyda golygfeydd gwych (5 millltir)  

Golff

  • Clwb Golff Baron Hill, Biwmares - cwrs goll 9 twll (4 milltir)

Beicio

  • Nifer o lwybrau beicio megis Lon Las Cefni, taith 13 milltir o hyd o Lyn Cefni i Fforest Niwbwrch. Y rhan fwyaf o'r llwybr yn wastad sy'n ei wneud yn addas i deuluoedd. Gellir ymuno â'r llwybr yn Llangefni (5.5 milltir)   

Marchogaeth

Pysgota

  • Llyn pysgota Llyn y Gors - addas ar gyfer pob gallu. Siop ar y safle ar gyfer eich holl anghenion pysgota (3.5 milltir)    
  • Tripiau pysgota môr o amgylch Ynys Môn - o'r pier Fictorianaidd hardd ym Miwmares (4.5 milltir)   

Chwaraeon Dŵr

  • Syrffio, deifio, caiacio, hwylio ayb o fewn pellter cyfleus i'r bwthyn