- Special Offer10% offer on stays between 26th April - 5th September 2024
- £634 yr wythnos
- £91 y noson
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
- Smart TV
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau king/super-king
- 4 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
Ystafell ymolchi
- 3 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Mae'r llety cyfoes hwn y lleiaf o 3 bwthyn 5 seren hunan ddarpar ar Ynys Môn. Mae Llofft Marian mewn lleoliad heddychlon yn agos i bentref Trefdraeth (1 milltir) a'r arfordir yn Malltraeth (2.3 milltir). Mae traethau trawiadol Llanddwyn a Rhosneigr hefyd gerllaw, heb anghofio nifer o atyniadau megis Sw Môr Môn, Llwybr Arfordirol Cymru, Amgueddfa Trafnidiaeth ac Amaethyddiaeth Ynys Môn, a Parc Fferm Foel.
Gellir cyfuno'r tri bwthyn ar gyfer aduniadau teuluol neu ffrindiau i hyd at 18 o westeion.
Llawr Gwaelod
Ystafell wely 1 - gyda gwely maint king (gellir ei osod fel 2 wely sengl 2'6" os dymunir). En-suite gyda cawod bwerus, toiled a basn.
Ystafell wely 2 - gyda gwely maint king (gellir ei osod fel 2 wely sengl 2'6" os dymunir). En-suite gyda cawod bwerus, toiled a basn.
Ystafell gyda toiled a basn.
Llawr Cyntaf
Ardal fyw agored yn cynnwys lolfa, cegin ac ardal fwyta. Balconi bach yn edrych allan dros yr ardd.
Cegin/ardal fwyta - cegin werdd yn cynnwys hob anwytho a popty, meicrodon, peiriant golchi llestri, oergell gyda rhewgell fach oddi mewn, a pheiriant golchi/sychu dillad. Bwrdd gyda 4 o gadeiriau.
Lolfa yn cynnwys soffa ledr Chesterfield a dwy gadair o flaen bwrdd coffi a teledu Smart ar y wal.
Gardd
Patio gyda mainc y tu blaen i'r bwthyn.
Ardal gymunedol i fwyta ac eistedd, yn cael ei rannu gyda dau fwthyn arall.
Gwybodaeth ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, llaeth a siwgwr, a Bara Brith/cacennau cri. Os yn aros am 6 noson neu fwy, fe fyddwch hefyd yn cael potel o Prosecco, blodau ffres a hanner dwsin o wyau
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- 1 sychwr gwallt ar gael
- Wifi ar gael
- Cot, cadair uchel a giât i'r grisiau ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot
- Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn y bwthyn
- Mae'r canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad:
- Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri a thabledi i'r peiriant, clytiau, ffoil a ffilm glynu
- Ystafell ymolchi: sebon a 2 rolyn papur toiled
- Cynnyrch glanhau cyffredinol
- Lle parcio i hyd at 2 gar