Hendy Marian

Malltraeth, Anglesey North Wales

  • 5 Star
  • Special Offer10% offer on stays between 1st March - 25th April 2024

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £795 yr wythnos
  • £114 y noson
  • 5 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau king/super-king
  • 4 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 3 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Ystafell wlyb
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Balconi
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn
  • Ystafell wlyb

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Y mwyaf o dri bwthyn 5 seren ar y safle, mae'r llety hwn yn Ynys Môn yn ddelfrydol ar gyfer aduniadau gyda 2 lolfa a 4 ystafell wely y gellir eu gosod fel gwelyau king mawr neu welyau sengl. Wedi ei leoli mewn ardal gwledig a heddychlon, yn agos i'r arfordir gyda golygfeydd anhygoel o Eryri a'r môr. Yn agos at nifer o atyniadau yn cynnwys Malltraeth a Thraeth Llanddwyn, Llwybr Arfordirol Cymru, Sw Môr Môn a Rhosneigr.

Os hoffech wahodd mwy o deulu a ffrindiau, gellir archebu'r tri bwthyn i letya hyd at 18 o westeion. Mae Hendy Marian yn addas ar gyfer yr anabl drwy'r llawr gwaelod.

Llawr Gwaelod

Ystafell fyw agored gyda cegin, ardal fwyta a lolfa. Drysau mawr deu-blyg ar ddwy ochr yr ystafell gyda golygfeydd o gefn gwlad a'r arfordir.

Cegin lwyd foethus yn cynnwys peiriant golchi llestri, hob anwytho a phopty, meicrodon, oergell/rhewgell a pheiriant golchi/sychu dillad.

Ardal fwyta gyda bwrdd mawr a chadeiriau i 10, yn edrych allan dros y patio.

Lolfa - soffa gyfoes a chadeiriau o flaen teledu Smart ar y wal ac hefyd yn mwynhau golygfeydd allan dros y patio.

Ystafell wely 1 - gwely king mawr (gellir ei osod fel dau wely sengl os dymunir).

Ystafell wely 2 - gwely king mawr (gellir ei osod fel dau wely sengl os dymunir).

Ystafell wlyb - gyda mynediad i'r anabl ac yn cynnwys cawod wlaw, cadair i'r gawod, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.

Llawr Cyntaf

Lolfa 2 - ystafell hyfryd i ymlacio gyda soffa fawr siâp 'L' a 2 gadair o flaen teledu Smart. Balconi bach i fwynhau'r golygfeydd.

Ystafell wely 3 - gwely king mawr (gellir ei osod fel dau wely sengl os dymunir) a balconi bach. En-suite gyda cawod, toiled a basn.

Ystafell wely 4 - gwely king mawr (gellir ei osod fel dau wely sengl os dymunir) a ffenestr i fwynhau'r golygfeydd arfordirol, yn ogystal â balconi bach. En-suite gyda cawod, toiled a basn.

Gardd

Drysau deu-blyg yn arwain allan i'r ffrynt a'r cefn. Patio preifat gyda golygfeydd yn ymestyn i lawr i Malltraeth ar yr arfordir ac Eryri ar y gorwel. Lleoliad heddychlon gyda bwrdd a chadeiriau.

 Ardal gymunedol i fwyta ac eistedd o flaen y bwthyn, yn cael ei rannu gyda dau fwthyn arall. 

Gwybodaeth ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, llaeth a siwgwr, a Bara Brith/cacennau cri. Os yn aros am 6 noson neu fwy, fe fyddwch hefyd yn cael potel o Prosecco, blodau ffres a hanner dwsin o wyau
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig   
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig     
  • 2 sychwr gwallt ar gael
  • Wifi ar gael
  • Cot, cadair uchel a giât i'r grisiau ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot    
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn y bwthyn    
  • Mae'r canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad:
    • Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri a thabledi i'r peiriant, clytiau, ffoil a ffilm glynu     
    • Ystafell ymolchi: sebon a 2 rolyn papur toiled    
    • Cynnyrch glanhau cyffredinol     
  • Lle parcio i hyd at 4 car  

Lleoliad