Bodhyfryd

Llanfairpwll, Anglesey North Wales

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer10% october Half Term offer for stays between 18th until 31st October 2024

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £541 yr wythnos
  • £77 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau dwbl
  • 2 o welyau bync

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell wlyb

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn
  • Ystafell wlyb

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mae’r bwthyn hunanarlwyo moethus hwn yn Sir Fôn yn sefyll mewn saith acer o gefn gwlad agored gyda golygfeydd panoramig o Fynyddoedd Eryri. Mae’r bwthyn wedi ei ddylunio yn addas ar gyfer yr anabl. Dafliad carreg i ffwrdd o bentref Llanfairpwll, talfyriad o’r enw lle hiraf ym Mhrydain, mae’r bwthyn yn cynnig safle delfrydol er mwyn ymweld amrywiaeth o atyniadau lleol diddorol ar Ynys Môn yn ogystal ag ar y tir mawr.

Mae bwthyn Bodhyfryd, un o Fythynnod Gwyliau Garnedd Ddu (Enillwyr Gwobrau Twristiaeth Môn 2008/2009), yn helaeth a chyfforddus ac wedi ei adnewyddu’n chwaethus ar gyfer gwyliau i’r anabl ac i’r abl.

Llawr Gwaelod

Mae’r bwthyn clud un llawr hwn yn cynnwys lolfa, cegin ac ardal fwyta ar gynllun agored. Ymhlith offer y gegin ceir popty trydan, oergell, popty microdon, peiriant golchi dillad a golchwr llestri. Mae 2 soffa gyfforddus, teledu a sianeli am ddim a thân trydan yn y lolfa.

Ceir 3 ystafell wely glyd yn y bwthyn - 2 gyda gwely dwbl ac un gyda gwely bync maint llawn.
Ystafell gawod (wlyb) yn cynnwys cawod, toiled a basn.

Ystafell ymolchi ar wahân gyda bath, basn ymolchi a bidet.

Gardd

Gardd amgaeedig ac ardal batio o flaen y bwthyn, yn ogystal â lawntiau ehangach. Digonedd o le parcio a gall gwestai ddefnyddio’r dodrefn gardd a’r set barbeciw fel ag y mynnant.

Gwasanaethau Ychwanegol

Mae’r bwthyn wedi ei gynllunio ar gyfer cadeiriau olwyn. Mae hyn yn cynnwys rhiniog isel wrth y brif fynedfa a drysau llydan drwy’r bwthyn.

Darperir dillad gwely, tywelion bath a llaw.

Gwres olew canolog yn gynwysedig. Trydan yn daladwy drwy roi £1 yn y meter. (gan amlaf nid yw’r gost yn fwy na £2-3 y diwrnod).

Cot a chadair uchel ar gael ar gais. Dewch â’ch dillad gwely eich hunain os gwelwch yn dda.

Darperir offer, llestri a chyllyll a ffyrc ar gyfer y gegin.

Croesewir anifeiliaid anwes am £10 yr anifail. Cysylltwch â ni os oes gennych chi fwy na 2 anifail anwes os gwelwch yn dda.

Cadeiriau ar gyfer y gawod, seddau toiled wedi eu codi, rheilen o amgylch yr ystafell ymolchi - gellir eu darparu ar gais.

Mae gan y bwthyn ei ardal barcio ei hunan wedi ei balmantu.

Lleoliad

Mae Bwthyn Hunan-arlwyo Bodhyfryd wedi’i leoli mewn llecyn gwledig hyfryd, filltir o Lanfairpwll ar Ynys Môn. Pentref Llanfairpwll, neu Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch i roi ei enw llawn, sydd â’r enw lle hiraf ym Mhrydain.

Mae’r bwthyn yn cynnig lleoliad delfrydol ar gyfer ymweld ag amrywiaeth o atyniadau lleol diddorol, ac mae cestyll Biwmares ar Ynys Môn, a Chaernarfon ar y tir mawr, ill dau gerllaw. Gallwch ymweld â thraethau Baner Las godidog, mwynhau llwybr arfordir 125 milltir Môn, neu ddringo’r Wyddfa. Mae Ynys a thraeth Llanddwyn gerllaw yn ganolog i hanes a chwedlau’r fro, a chanddi gysylltiad clos â Santes Dwynwen, Nawddsant Cariadon Cymru.

Mae atyniadau eraill Môn yn cynnwys y Mynydd Copr, gyda’i dirwedd sydd yn debyg i wyneb y lleuad, Gwyl Wystrys Môn ym mis Hydref, a siambr gladdu arbennig Bryn Celli Ddu, ger Llanddaniel Fab sy’n dyddio o Oes y Cerrig. Ewch ar daith o amgylch Melin Llynnon - yr unig felin Wynt sy’n dal ar waith yng Nghymru, ac ymweld ag Oriel Tegfryn, Oriel gelf hynaf Cymru.

I’r ymwelwyr iau, mae canolfan loÿnnod byw Pili Palas yn cynnig profiad hudolus, a hefyd yn cynnwys adar, nadroedd a rhai rhywogaethau egsotig eraill. Mae Sw Môr Môn, acwariwm mwyaf Cymru’n cynnig byd anhygoel o fywyd môr, llongddrylliadau a gridiau pwll siarcod. Mae croesi’r bont i dir mawr Gogledd Cymru’n cynnig hyd yn oed rhagor o atyniadau i’r teulu, yn cynnwys Parc Glasfryn sydd â chartio, bowlio, beicio pedair olwyn ac ati, a’r Hwylfan yng Nghaernarfon, y ganolfan hwyl dan do fwyaf yng ngogledd Cymru.

Traethau

Traeth Llanddwyn - traeth Baner Las gyda milltiroedd o dywod a hanes rhamantus. 9 milltir.

Chwaraeon Dwr

Mae cyfleoedd i syrffio, deifio, caiacio, sgramblo’r arfordir, hwylio ac ati ar gael o fewn ½ awr o’r bwthyn.

Cerdded

Llwybr Arfordir Môn - llwybr cylchol 125 milltir o amgylch yr Ynys. Gellir ymuno â’r llwybr gerllaw ar Ynys Llanddwyn (9 milltir) a Llanidan (6 milltir).

Pwllfanogl (2 filltir o’r bwthyn) - Biwmares - llwybr 7.5 milltir heibio’r pontydd enwog gyda golygfeydd gwych tuag at ddinas Bangor ac Eryri, yr holl ffordd at dref hanesyddol Biwmares gyda’i chastell Edwardaidd (Safle Treftadaeth y Byd), ei bwytai niferus a llawer o atyniadau eraill.

Golff
Cwrs Golff a Meysydd Ymarfer Llangefni - Academi Sylfaenol Llangefni gyda chwrs golff 9 twll, 5 milltir.

Clwb Golff Môn - Rhosneigr. Cwrs golff 18 twll. 14 milltir.

Beicio

Lôn Las Cefni - llwybr 13 milltir o Goedwig Niwbwrch at Lyn Cefni. Gwastad yn bennaf - llwybr beicio gwych i’r teulu. Man ymuno agosaf = Llangefni, 5 milltir.

Pysgota

Pysgota môr gwyllt o gwmpas yr ynys gyda llawer o farciau pysgota oddi ar greigiau, pysgota aberoedd a physgota oddi ar yr arfordir, 5 milltir.

Pysgota bras mewn sawl lleoliad yn cynnwys Pysgodfa Tyddyn Sargent sydd yn addas ar gyfer yr anabl, 13 milltir.

Marchogaeth Ceffylau

Canolfan Farchogaeth Ynys Môn - Dwyran. Marchogaeth ar y traeth ac ar lwybrau glaswellt. Hyfforddiant addas ar gyfer pob safon. 8.5 milltir.