Plas Bach

Holy Island, Anglesey North Wales

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special OfferEarly Bird offer - 10% discount between 24th May and 25th July

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £864 yr wythnos
  • £123 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 3 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mwynhewch leoliad delfrydol yn y bwthyn Cymreig traddodiadol hwn ar Ynys Môn. 200 llath o ymyl dwr Culfor Cymyran, sydd yn gwahanu Môn o Ynys Cybi. Wedi ei amgylchynu gan 5 acer o dir, dyma leoliad gwych i ymlacio, ymlwybro i lawr i'r traethau, neu ddarganfod Llwybr Arfordirol Cymru. Os hoffech fentro ymhellach, mae nifer o atyniadau a gweithgareddau ar Ynys Môn heb orfod mynd ymhell.

Fe gyrhaeddir y bwthyn unigryw hwn ar hyd trac garw ac yna ar draws blaendraeth sydd yn achlysurol yn cael ei effeithio gan y llanw. Fe ellir cael amserlen y llanw gan y perchnogion os ydych yn dymuno mynd a dod pan fydd y llanw i mewn; mae yna hefyd lwybr byr arall yn arwain i fan parcio bychan ar hyd y trac.

Mae'r bwthyn yn cael ei hysbysebu ar gyfer 5, ond mae'r bosib lletya 6 ar gais - gweler nodyn ar ystafell wely 3. Noder hefyd fod y bwthyn wedi ei leoli yn agos at RAF Valley. 

Llawr Gwaelod

Cegin fwyta - cegin gyda'r holl offer angenrheidiol yn cynnwys popty/hob, meicrodon, oergell/rhewgell, peiriannau golchi dillad a golchi llestri. Bwrdd bwyta a chadeiriau.

Lolfa - gellir ymlacio o gwmpas y stôf goed yn y lle tân ar ddwy soffa cyfforddus. Teledu a chwaraewr DVD.

Ystafell wely 1 - gwely dwbwl, cypyrddau dillad a goleuadau ar gypyrddau bach ger y gwely. 

Ystafell wely 2 - dau wely sengl, cypyrddau a goleuadau ger y gwely.

Ystafell wely 3 - gwely dwbwl bach (4'), cypyrddau dillad a goleuadau. Noder fod un step i lawr o'r lolfa i gyrraedd ystafell wely  3. * Gall y gwely hwn gysgu 2 westai ond noder ei fod 6" yn gulach na'r gwely dwbwl arferol. 

Ystafell haul - soffa a chadeiriau, bwrdd coffi retro, teledu a lampiau. Noder fod 4 step i gyrraedd yr ystafell haul.

Gardd

5 acer o dir mewn lleoliad heddychlon, yn cychwyn gydag ardal bychan caeedig o gwmpas y bwthyn. Mae lawntiau pellach ar gael i'w mwynhau, yn ogystal â golygfeydd o'r culfor rhwng Môn ac Ynys Cybi. Bwrdd, cadeiriau a parasol, a barbaciw ar gael.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys gwîn a diod meddal, cacennau a bisgedi Cymreig      
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig     
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig   
  • Coed tân a glô ar gyfer y stôf goed  
  • 1 sychwr gwallt ar gael    
  • Wifi ar gael   
  • Noder fod 1 step i lawr o'r lolfa i ystafell wely 3, a 4 step i gyrraedd yr ystafell haul   
  • Cot trafeilio a chadair uchel ar gael ar gais. Dewch â dillad eich hun ar gyfer y cot   
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu y tu mewn i'r bwthyn    
  • Digon o le parcio   
  • Eitemau eraill sy'n cael eu cynnwys:
    • Cegin: pupur a halen, papur cegin, clytiau newydd, ffoil a ffilm glynu     
    • Ystafell ymolchi: sebon a 2 rolyn papur toiled  

Lleoliad

Bwthyn Cymreig traddodiadol mewn lleoliad heddychlon, 200 llath o Gulfor Cymyran, yn edrych o Ynys Môn draw i Ynys Cybi. Mae'n mwynhau ei leoliad preifat ei hun oddi mewn i 5 acer o dir sy'n cynnwys lawntiau i'r ffrynt a'r cefn. Gellir cyrraedd y traethau mewn ychydig funudau, delfrydol ar gyfer nofio, pysgota, hwylio a llawer mwy. Mae tir amaethyddol yn amgylchynu'r bwthyn gyda nifer o lwybrau cyhoeddus i fynd am dro. 

Mae'r siopau agosaf filltir i ffwrdd ym mhentref Valley, gyda dwy siop groser, swyddfa bost, fferyllydd a chigydd. Mae yna hefyd ystafell de, dwy siop sgodyn a sglodion, têcawê pizza a Tsieiniaidd. Mae rhai o fwytai gorau'r ardal yn cynnwys Catch22, Gwesty Valley a'r Bull Hotel yn Valley, yn ogystal â Gwesty'r Anchorage yn Four-Mile-Bridge (1.5 milltir), Sea Shanty a Black Seal ym Mae Trearddur (3.5 milltir), a Langdons ym Marina Caergybi (6 milltir). Mae Gwesty'r Valley a'r Bull Hotel hefyd yn ddelfrydol ar gyfer diod ymlaciol. 

Ymysg y prif atyniadau gerllaw, mae Cartio Môn (3.5 milltir), Parc Gwledig Breakwater a sinema yng Nghaergybi (7 milltir) a Goleudy South Stack (8 milltir). Fe argymhellir hefyd ymweliad â Biwmares gyda'i gastell a charchar Treftadaeth y Byd, traethau braf Baner Lâs, ac ynys hanesyddol Llanddwyn sydd wedi ei chysylltu'n agos â Santes Dwynwen, Nawddsant Cariadon Cymru.

Ar gyfer ymwelwyr iau mae canolfan Pili Palas yn cynnig profiad hudol gyda gloynnod byw, adar, nadroedd a rhywogaethau egsotig eraill. Mae Sw Môr Môn, acwariwm fwyaf Cymru, yn cynnig byd bywyd morol anhygoel, llongddrylliadau a phwll siarcod. Mae'r bont drosodd i'r tir mawr yn cynnig mwy o atyniadau i'r teulu yn cynnwys Parc Fforest Gelli Gyffwrdd, Fforest Sipsi, Canolfan Hwylfan a llawer mwy. 

Traethau

Plas Bach - traeth hardd gyda golygfeydd anhygoel (300 metr)   

Bae Trearddur - traeth mawr gyda phyllau creigiog, caffis a chyfleusterau eraill (3.5 milltir)  

Rhosneigr - 2 draeth syfrdanol (10 milltir - - llai os yn cerdded Llwybr Arfordirol Cymru)    

Chwaraeon Dwr

Syrffio, deifio, caiacio, hwylio ayb i gyd o fewn hanner awr i'r bwthyn 

Cerdded

Llwybr Arfordirol Cymru (300 metr)    

Nifer o lwybrau eraill yn cychwyn o stepen y drws   

Beicio

Nifer o ffyrdd gwledig o stepen y drws   

Lon Las Cefni –  llwybr 13 milltir o hyd o Fforest Niwbwrch i Llyn Cefni. Llwybr delfrydol ar gyfer yr holl deulu. Gellir cychwyn o Langefni (13 milltir)     

Pysgota

Plas Bach (300 metr)

Golff

Bae Trearddur (3.5 milltir)

Clwb Golff Ynys Môn, Rhosneigr - cwrs golff 18 twll (10 milltir)    

Marchogaeth

Canolfan Farchogaeth Ynys Môn, Dwyran - ar gyfer pob gallu (19 milltir)