- Special OfferUp to 20% off Special Offer Discount - selected dates
- Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
- Special Offer15% offer 28th June – 18th July
- Special Offer10% offer w/c 19th July
- £1,057 yr wythnos
- £151 y noson
- 8 Guests
- 4 Bedrooms
- 4 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Twb poeth
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 3 o welyau king/super-king
- 1 gwely dwbl
- 4 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 5 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 09:00
Disgrifiad
Hardd a helaeth, dyma lety ysbrydoledig ar Ynys Môn. Yn agos i Bae Cemaes, y pentref mwyaf gogleddol yng Nghymru. Gyda twb poeth preifat, pedair ystafell wely ensuite, a nodweddion unigryw, dyma'r lleoliad perffaith i deuluoedd a ffrindiau ddod at ei gilydd.
Darganfyddwch arfordir trawiadol, treftadaeth gyfoethog, digon o draethau, tripiau cychod, pentrefi a threfi hardd, dal crancod o wal yr harbwr neu eistedd yn nol ac ymlacio yn y tŷ rhyfeddol hwn.
Llawr Gwaelod
Mae'r llawr gwaelod yn fodern ac agored gyda digon o olau naturiol.
Cegin - gydag ynys ganolog a thopiau carreg wen, mae'r gegin hardd yn cynnwys yr holl offer angenrheidiol - peiriant golchi llestri, popty a meicrodon ar lefel y llygad, rhewgell ac oergell o'r llawr i'r nenfwd, a digon o le i storio a pharatoi bwyd.
Ardal fwyta ac eistedd - bwrdd bwyta mawr, teledu, DVD a Wii. Lle i eistedd gyda drysau patio i fwynhau'r golygfeydd.
Lolfa - mae'r brif lolfa yn mwynhau digon o olau dydd a golygfeydd o gefn gwlad. Gellir cau y rhan yma i ffwrdd o weddill yr ardal fyw i greu ystafell gaeedig a chlyd o flaen stôf bio ethanol a theledu.
Iwtiliti - gyda peiriannau golchi a sychu dillad.
Toiled gyda basn.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 1 - gwely maint king (neu dau wely sengl - noder eich dewis pan yn archebu). Cwpwrdd dillad mawr ac ensuite gyda cawod, toiled, basn a rheilen sychu tywelion. Golygfeydd o gefn gwlad drwy'r ffenestr.
Ystafell wely 2 - gwely dwbwl a balconi Juliet gyda golygfeydd o'r fferm a chefn gwlad yn ogystal â'r môr ar y gorwel. Cwpwrdd dillad mawr ac ensuite gyda cawod, basn a thoiled.
Ystafell wely 3 - gwely maint king mawr (neu dau wely sengl - noder eich dewis pan yn archebu). Ensuite gyda cawod, toiled a basn, a golygfeydd o gefn gwlad a'r môr ar y gorwel.
Ystafell wely 4 - gwely maint king, balconi gyda lle i eistedd i fwynhau'r golygfeydd. Cwpwrdd dillad mawr ac ensuite gyda baddon spa, cawod, basn a thoiled.
Ystafell pen grisiau gyda chaise longue yn y gornel i ymlacio.
Gardd
Mae'r llety wedi ei leoli oddi mewn i dir caeedig, gerllaw fferm weithiol. Mae'r lawnt wastad yn cynnig digon o le i blant chwarae'n ddiogel. Mae palmant o amgylch y tŷ gyda tri ardal patio yn cynnwys un wedi ei orchuddio. Bwrdd a chadeiriau ar y patio a twb poeth preifat.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgwr a llaeth, yn ogystal â dewis o gynnyrch lleol
- Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- 2 sychwr gwallt ar gael
- Cot trafeilio, cadair uchel a gât i'r staer ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot.
- Wifi ar gael
- Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn y llety
- Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri, tabledi i'r peiriant golchi llestri, clytiau newydd, ffoil, a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon hylif, 2 bapur toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol
- Digon o le parcio
Lleoliad
Mae'r llety trawiadol hwn wedi ei adeiladu'n ddiweddar gan ddefnyddio cerrig o'r hen dŷ fferm. Oddi mewn i hanner acer o dir, mae'n mwynhau lleoliad preifat drws nesaf i fferm deuluol y perchennog. Lleoliad hardd a gwledig ym mhen gogleddol Ynys Môn, yn wynebu Môr Iwerddon gyda golygfeydd o gefn gwlad, y môr a'r mynydd. Mae'n leoliad heddychlon a thawel, 3 milltir o Bae Cemaes, ac ond 15 milltir o dref porthladd Caergybi ble gellir dal y fferi i'r Iwerddon.
Gellir dod o hyd i'r siop a'r dafarn agosaf ym mhentref Llanfechell (1.2 milltir), cartref i eglwys hardd a chaffi cymunedol sydd ar agor drwy'r dydd, gyda'r brecwast yn boblogaidd iawn. Ym mhentref glan môr Bae Cemaes mae nifer o dafarndai, caffis, cigydd, fferyllfa, yn ogystal â siop 'Sgodyn a Sglodion', sydd ag enw da am ddefnyddio cynnyrch lleol.
Ar gyfer y rheiny sy'n hoff o'u bwyd mae'r Llew Du (Black Lion)yn Llanfaethlu (4.5 milltir) wedi enill gwobrau am fwyd da, ac i'r rheiny sy'n hoff o fwyd môr mae'n rhaid ymweld â'r 'Lobster Pot' yn Rhydwyn (4.5 milltir) i flasu'r cimychiaid lleol. Mae Gwesty Gadlys ym Mae Cemaes, a 'Sea Shanty' ym Mae Trearddur (12.5 milltir) hefyd yn cael eu hargymell. Mae Ynys Môn yn cynnig ystod o lefydd bwyta poblogaidd, gyda nifer ohonynt o gwmpas Bae Trearddur, Biwmares a Phorthaethwy.
Mae'r ardal yn cynnig arfordir trawiadol ble gellir darganfod nifer o draethau, cildraethau cuddiedig a llwybrau cerdded. Ar gyfer diwrnod allan i'r teulu, profwch olygon, synau, ac aroglau fferm weithiol go iawn yn Fferm y Foel, Brynsiencyn - gall plant wneud siocled yma hefyd. I'r rheiny sy'n caru'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae'n rhaid ymweld â Phlas Newydd (cartref Marcwis Môn), gyda gerddi hardd yn cyrraedd i lawr at y Fenai.
Mae atyniadau eraill yn cynnwys Mynydd Paris; siambr gladdu o oes y cerrig yn Bryn Celli Ddu ger Llandaniel; a thaith o amgylch Melin Llynnon - yr unig felin wynt weithiol yng Nghymru. Ar gyfer y teulu cyfan mae canolfan Pili Palas, a Sŵ Môr Môn - acwariwm fwyaf Cymru lle gwelir byd syfrdanol y bywyd morol, llongddrylliadau a siarcod!
Traethau
- Bae Cemlyn - bae crwm unigryw gyda cefnen raean a elwir yn 'Esgair Cemlyn' yn rhannu'r môr agored â lagŵn arfordirol. Ystyrir ei fod yr esiampl gorau o'i fath yng Nghymru (3 milltir)
- Traeth Mawr, Bae Cemaes - traeth addas ar gyfer teuluoedd gyda promenâd (3 milltir)
- Porth Swtan - bae hardd sy'n cynnwys creigiau, cerrig a thywod. Wedi ennill gwobr y Faner Lâs. Poblogaidd ar gyfer nofio, hwylio a physgota. Mae'r cyfleusterau yn cynnwys parcio am ddim, toiledau, bwyty a chaffi (4.5 milltir)
Cerdded
- Llwybr Arfordirol Môn – llwybr cylchol 125 milltir o amgylch yr Ynys. Gellir ymuno â'r llwybr ym Mae Cemaes (3 milltir)
- Mynydd Paris, Amlwch - llwybr cylchol 4.8 o hyd o amgylch y mynydd copr (7.5 milltir)
Golff
- Clwb Golff Bull Bay, Amlwch - cwrs 18 twll (8.5 milltir)
Beicio
- Mae beicio yn weithgaredd poblogaidd ar hyd y lonydd tawel - o stepen y drws
Pysgota
- Llyn Alaw, Llanbabo - un o'r llynnoedd gorau i bysgota am frithyll yng Nghymru (6 milltir)
- Tripiau pysgota môr o amgylch Ynys Môn - o'r pier Fictorianaidd ym Miwmares (20 milltir)
Chwaraeon Dŵr
- Syrffio, deifio, caiacio, arforneidio, hwylio ayb - i gyd heb fod ymhell o'r llety
Marchogaeth
- Porth y Post, Bae Trearddur - Ysgol Farchogaeth yn cynnig ystod o wersi reidio gyda hyfforddwyr cymwysedig (13 milltir)