- £696 yr wythnos
- £99 y noson
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
Nodweddion Arbennig
- WiFi
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 2 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- Tywelion ar gael
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Ar un lefel, dim grisiau
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Arferai The Dairy fod yn feudy godro, ond erbyn hyn mae wedi ei adnewyddu'n drawiadol i gyfuno cymeriad traddodiadol gyda celfi cyfoes. Wedi ei leoli ar gyrion pentref bychan Llandegfan, rhwng Porthaethwy a Biwmares ar Ynys Môn, mae'r bwthyn hwn yn sefyll ar ben ei hun yn y lleoliad perffaith i wneud y mwyaf o'ch gwyliau.
'Ar gyfer bwyta ymlaciol mewn awyrgylch fywiog rhowch gynnig ar 'Dylan's' ym Mhorthaethwy, neu os ydych am brofiad unigryw beth am ymweld â'r Sosban neu yr 'Old Butchers'' (rhaid archebu'n ymhell o flaen llaw!) gan Jacky, ein rheolwr lletyau lleol.
Mae The Dairy wedi ei osod ar un lefel, felly yn addas ar gyfer y rheiny sydd â symudedd cyfyngedig, ond gydag un step i fyny i'r brif ystafell wely a dwy step i lawr o'r ardal fwyta i'r lolfa a'r ail ystafell wely. Mae'r lloriau yn gareg drwyddi draw.
Mae'r lolfa yn ysrafell fawr agored gyda nenfwd uchel. Dwy soffa fawr, teledu Smart gyda Netflix/chwaraewr DVD/CD, Wifi, a dewis eang o lyfrau a chylchgronau. Mae bwrdd a chadeiriau i chwech yn yr ardal fwyta.
Cegin o arddull Shaker gyda sinc Belfast, arwynebedd pren, peiriannau golchi llestri a golchi/sychu dillad. Cewch eich atgoffa o etifeddiaeth y bwthyn gyda silffoedd ffenestri llechen, buddai laeth a padlau menyn.
Ystafell wely 1 - gwely maint king a digon o le i storio dillad.
Ystafell wely 2 - dau wely sengl - gellir eu gosod fel gwely dwbwl os dymunwch, er golyga hyn fod mynediad i'r gwely yn gyfyngedig os gwneir hynny.
Ystafell ymolchi - gyda cawod fawr, toiled a basn.
Mae The Dairy wedi ei leoli oddi mewn i gowt caeedig, helaeth a phreifat wedi ei amgylchynu gan waliau cerrig traddodiadol. Mae lle i bedwar eistedd oddi mewn i'r cowt, gyda barbaciw a digon o le i barcio ar gyfer ceir/cychod. Mae croeso i westeion ymweld â gerddi trawiadol y ffermdy gerllaw - teras ffurfiol gyda pwll dwr a phlanhigion yn ogystal â gardd oddi mewn i wal draddodiadol sydd wedi ymddangos ym mhapur y Telegraph - hefyd perllan, siglen a seddi sydd wedi eu lleoli i wneud y mwyaf o'r golygfeydd. Mae castell a charchar hanesyddol ym Miwmares, ar lan y Fenai. Gellir cerdded i Penmon gyda'i briordy, colomendy a goleudy. Gellir mynd ar drip ar gwch i ddarganfod bywyd gwyllt Ynys Seiriol, neu gall y rhai mwy anturus fentro am reid 'rib'. Mae nifer o siopau annibynnol ym Mhorthaethwy a Biwmares, ynghyd â dewis da o gaffis a bwytai. Mae Plas Newydd, sy'n perthyn i'r Ymddiriedolaeth Cenedlaethol ond taith fer yn y car, gyda plasdy a gerddi godidog, tra fod dinas Bangor a Pharc Cenedlaethol Eryri ar ochr arall y Fenai.
Croesewir hyd at 2 gi yn The Dairy; mae'r cowt yn ddiogel a chaeedig ac mae tap a pheipen ddwr y tu allan ar gyfer pawennau mwdlyd.
Trydan a gwres yn gynwysedig
Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
Cot trafeilio a chadair uchel ar gael
Dim ysmygu y tu mewn