- £847 yr wythnos
- £121 y noson
- 6 Guests
- 4 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 2 o welyau dwbl
- 3 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
Hygyrchedd
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Mae’r tŷ hunan-ddarpar urddasol hwn yn Biwmares mewn lleoliad gwych yng nghanol y dref, yn agos at nifer o dai bwyta, tafarndai ac atyniadau hanesyddol. Mae Biwmares yn dref hanesyddol hyfryd gyda’i gastell anhygoel, traeth gyda golygfeydd digyffelyb dros yr Afon Menai tuag at Eryri, tripiau cwch, Llwybr Arfordirol Môn ar garreg y drws a llawer mwy. Os ydych yn edrych am fwthyn mawr a moethus yn Ynys Môn, dyma’r lle perffaith ar eich cyfer chwi.
Llawr Cyntaf
Wedi ei adnewyddu’n ddiweddar i safon uchel iawn, mae’r tŷ hunan-ddarpar eang hwn ym Miwmares yn ddelfrydol i deuluoedd ymgynnull gyda’i ystafell fyw fawr a chegin/ystafell fwyta.
Mae’r gegin goeth a helaeth yn cynnwys yr holl declynnau modern: popty a hob trydan, oergell gyda bocs rhew, micro-don, peiriant gochi llestri, peiriant golchi a pheiriant sychu dillad. Ceir ardal bwyta brecwast hefyd gyda bwrdd cain a chadeiriau ar gyfer naw o westai. Teledu gyda sianeli am ddim.
Mae’r ystafell fyw yn gyfforddus ac eang, ac yn cynnwys ffenestr grom gyda golygfeydd gwych dros dref Biwmares. Ceir mwy na digon o le i chi ymlacio ar 4 soffa gyfforddus o flaen tân nwy a theledu arall gyda sianeli am ddim.
Ar y llawr cyntaf hwn hefyd mae ystafell wely ddwbl ac ystafell ymolchi ar wahân yn cynnwys cawod uwch ben y bath a thoiled.
Ail Lawr
Ar yr ail lawr ceir ystafell wely twin, ystafell ddwbl (gyda golygfeydd o’r môr, y lanfa a mynyddoedd Eryri yn y cefndir), ystafell wely deuluol (gwely maint king a sengl), ac ystafell ymolchi gyda chawod, toiled a basn ymolchi.
Gardd
Gardd gysgodol wedi ei hamgáu gan waliau wedi ei lleoli ar lefel y llawr yng nghefn y ty. Gellir cyrraedd hon ar hyd grisiau i lawr o’r drws patio yn y gegin. Yma ceir digon o ddodrefn gardd ar gyfer hyd at 9 o bobl wedi eu gosod ar lwyfan lechfaen.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r tŷ hunan-ddarpar hwn ym Miwmares wedi ei leoli uwchlaw oriel felly llety llawr cyntaf ac ail lawr ydyw.
Dillad gwely, tywelion llaw a bath yn gynwysedig
Trydan a gwres canolog nwy yn gynwysedig
Darperir cot a chadair uchel ar gais. Dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot.
Wifi ar gael.
Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu.
Parcio ar gael o flaen y môr, gerllaw. Gall y perchennog ddangos ichi lle i barcio am ddim. Fel arall gallwch barcio ar 'Y Green' am ddim ond £2.50 y diwrnod (neu £10 am yr wythnos).
Arhosfa bysiau ar drothwy’r drws