Ger y Bont

Holy Island, Anglesey North Wales

  • 5 Star Gold
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer20% offer on Spring holidays - 12th April - 2nd May
  • Special Offer20% off Easter holidays - 22nd March - 11th April

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £937 yr wythnos
  • £134 y noson
  • 5 Star Gold

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 3 o welyau king/super-king
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 3 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon
  • Cawod

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Balconi
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mwynhewch y golygfeydd o Ger y Bont, llety hunan ddarpar trawiadol ar Ynys Môn. Gyda'r ardal fyw ar y llawr cyntaf, ffenestri mawr a balconi, dyma leoliad perffaith ar gyfer aduniadau teulu neu ffrindiau ar lannau culfor Cymyran, y môr mewnol rhwng Ynys Môn ac Ynys Cybi. 

Mae nifer o dirnodau ac atyniadau gerllaw, yn cynnwys Llwybr Arfordirol Cymru o stepen y drws, a Bae Trearddur o fewn 2 filltir. Gellir hyd yn oed dal cwch i'r Iwerddon 4 milltir i ffwrdd yng Nghaergybi. 

Noder, oherwydd fod yr ardal fyw a'r balconi ar y llawr cyntaf, nid yw'r llety yn addas ar gyfer plant o dan 4 oed    

Llawr Gwaelod

Cyntedd mawr croesawus yn arwain i 3 ystafell wely, ystafell ymolchi ac iwtiliti.

Ystafell wely 1 - gwely maint king, cypyrddau dillad a theledu.

Ystafell wely 2 - dau wely sengl maint 2'6" a chwpwrdd dillad.

Ystafell wely 3 - gyda gwely maint king a chypyrddau dillad.

Ystafell ymolchi - gyda baddon a chawod arwahân.

Iwtiliti - peiriant golchi a digon o le storio.

Llawr Cyntaf

Cegin - ardal agored gyda golygfeydd. Bar brecwast, oergell/rhewgell, popty, peiriant golchi llestri ac offer eraill angenrheidiol. Bwrdd bwyta o flaen drysau patio sy'n arwain allan i'r balconi.

Lolfa - ystafell i ymlacio gyda teulu a ffrindiau o gwmpas y lle tân, teledu a drysau patio yn arwain allan i'r balconi.

Balconi - ardal ymlaciol gyda seddi cyfforddus i fwynhau'r golygfeydd anhygoel.

Ystafell wely 4 - gyda gwely maint king, teledu ac ensuite yn cynnwys cawod. 

Ystafell toiled a basn. 

Gardd

Gardd gaeedig gyda lawnt yn y cefn yn edrych allan dros y caeau a'r môr mewnol tu hwnt. 

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, llaeth, siwgwr a cacennau cri   
  • Gwres trydan a thrydan yn gynwysedig      
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig 
  • 4 sychwr gwallt ar gael
  • Wifi ar gael
  • Noder, oherwydd fod yr ardal fyw a'r balconi ar y llawr cyntaf, nid yw'r llety yn addas ar gyfer plant o dan 4 oed    
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn       
  • Lle parcio ar gyfer 4 car     

Lleoliad